Mae Mike Bubbins wedi tynnu’n ôl o Ŵyl Gomedi Machynlleth “am resymau personol”.

Roedd disgwyl i’r digrifwr o’r Barri berfformio’i sioe ‘Throwback’ nos Sadwrn (Ebrill 29).

Dywed y bydd modd i unrhyw un sydd wedi prynu tocyn i’r sioe gael ad-daliad drwy’r swyddfa docynnau, gan annog pobol i fynd i weld sioe arall.

Ychwanega y bydd yn dychwelyd i’r llwyfan unwaith eto yn 2024.

Dywed trefnwyr Gŵyl Gomedi Machynlleth y bydd James Acaster yn perfformio’i sioe ‘Hecklers Welcome’ yn lle Mike Bubbins – ei drydedd sioe yn yr ŵyl eleni, a honno’n cael ei chynnal yn y Mach Arena yn y ganolfan hamdden.

Mike Bubbins ac Elis James

“Does dim esgus i mi beidio siarad Cymraeg”

Mike Bubbins yw’r seleb diweddaraf i fynd ati yn y gyfres Iaith Ar Daith, ac mae’n cael cymorth ei gyd-ddigrifwr Elis James