Mae un o enillwyr BAFTA Cymru eleni wedi sôn am yr “anrhydedd” o ddod i’r brig yn un o’r categorïau.

Roedd Dolig Ysgol Ni yn un o bedair rhaglen S4C a gafodd lwyddiant eleni, a hynny yn y categori Rhaglen Adloniant Orau.

Mae’r cyfresi Ysgol Ni, sy’n cael eu cynhyrchu gan gwmni teledu Darlun, wedi bod yn hynod boblogaidd ar y sianel, gan ganolbwyntio ar fywydau disgyblion Ysgol Gynradd Maesincla yng Nghaernarfon.

Wedi’i darlledu ar Noson Gŵyl San Steffan y llynedd, roedd y bennod a gafodd ei gwobrwyo yn edrych ar gymuned yr ysgol, wrth iddyn nhw fynd ati i gynnal cyngerdd Nadolig anarferol oherwydd cyfyngiadau’r pandemig.

Ymateb

“Rydyn ni wrth ein boddau ac mae’n gymaint o anrhydedd i ni,” meddai Ffion Jon, un o gynhyrchwyr cyfresi Ysgol Ni wrth golwg360.

“Dyma’r drydedd wobr i raglenni Ysgol Maesincla gael – fe gawson ni BAFTA llynedd am y gyfres ffeithiol orau.

“Hefyd, fe gawson ni wobr Broadcast yn Llundain yn y categori ffeithiol newyddion a dogfen, ac roedd yna raglenni anhygoel fyny am y wobr honno.

“Ac mae’r wobr yma am raglen adloniant yn blu arall yng nghap yr ysgol.”

Cefndir y cyfresi

Mae cyfresi Ysgol Ni yn deillio o’r ffaith mai Ysgol Maesincla oedd yr ysgol gyntaf yng Nghymru i dderbyn yr achrediad ‘Ysgol sy’n Meithrin’ fel rhan o raglen genedlaethol Nurtureuk.

“Yn hynny, mae plant yn dysgu sut i siarad am eu hemosiynau,” meddai Ffion.

“Roedd yna rhywbeth amdan y plant ym Maesincla – roedden nhw mor agored ac mor onest.

“Roeddech chi’n cael sefyllfaoedd dwys iawn, ac roedd y plant yn bod yn ddoniol yn ei ganol o.

“Hefyd, roedden ni’n hynod o lwcus i gael y mynediad, achos mae’n dipyn o beth bod ysgol yn rhoi caniatâd i chi ffilmio yna.

“Roedd yn rhaid iddyn nhw drystio ni lot, felly dw i mor ddiolchgar am hynny achos fel arall fydden ni ddim wedi gallu gwneud o.”

‘Diolch i’r gymuned’

“Rhaid diolch i’r gymuned a’r rhieni hefyd,” meddai Ffion wedyn.

“Roedd rhai yn bryderus ein bod ni’n ffilmio eu plant nhw, achos bod yna rai sydd o gefndiroedd mwy bregus a phlant sy’n stryglo mwy yn yr ysgol.

“Dw i’n gobeithio ein bod ni wedi llwyddo i wneud o efo’r parch mwyaf, ac ein bod ni wedi dathlu llwyddiant y plant mewn ffordd dydyn ni erioed wedi ei weld o’r blaen.”

Cyfres newydd sbon

Mae Ffion wedi datgelu bod cyfres newydd ychydig yn wahanol o Ysgol Ni ar ei ffordd.

“Mae gennym ni gyfres newydd ar ei ffordd a byddwn ni yn Ysgol Uwchradd y Moelwyn tro hwn,” meddai.

“Mae ffilmio mewn ysgol uwchradd yn hollol wahanol, ac mae’r ardal yn wahanol, ond eto mae cymuned Blaenau Ffestiniog mor gynnes.

“Mae’r Moelwyn, yn debyg i Maesincla, yn dilyn y patrwm Nurtureuk, ac mae yna Uned Feithrin yna.

“Yr un peth eto, maen nhw’n dysgu plant i fod yn ymwybodol o’u hemosiynau.

“Am fod y plant yn hŷn, maen nhw’n fwy ymwybodol os ydyn nhw stryglo neu os dydyn nhw ddim ar yr un lefel â phobol eraill, felly mae’n fwy dwys [na’r gyfres wreiddiol].”

O Gaernarfon i Flaenau Ffestiniog – Ysgol y Moelwyn fydd lleoliad cyfres newydd Ysgol Ni

Effaith y cyfnod clo

Bydd y gyfres newydd, a gafodd ei ffilmio rhwng mis Chwefror a mis Gorffennaf eleni, hefyd yn edrych ar effaith y pandemig ar blant ifanc.

“Un peth sy’n glir efo cyfres y Moelwyn ydi faint o effaith wnaeth y cyfnod clo ei gael ar bobol ifanc,” meddai Ffion.

“Roedd y plant wedi colli llawer o hyder, a dw i’n meddwl y bydd goblygiadau o’r cyfnod clo fydd yn parhau am flynyddoedd.

“Fe wnaethon ni un rhaglen am flwyddyn 11, ac roedd gen ti rai plant oedd yn disgwyl 10 A* ac ati, ond oherwydd eu bod nhw’n methu â sefyll arholiad, roedden nhw’n hynod o ofidus gan fod popeth yn wahanol.

“Mae pawb yn gofyn ‘Pwy fyddai’n poeni am beidio sefyll arholiad?’, ond wrth gwrs, os mai dyma wyt ti wedi gweithio amdano, mae o’n siom bod pethau’n newid.

“Mae o wedi bod yn agoriad llygad go iawn cael ffilmio yn y Moelwyn, a chael cefnogaeth anhygoel gan gymuned a staff ysgol arall eto.”

Bydd y gyfres newydd o Ysgol Ni yn cael ei darlledu ar S4C yn fuan yn y flwyddyn newydd.

S4C yn llongyfarch enillwyr BAFTA Cymru

Roedd pedair gwobr i’r sianel neithiwr (nos Sul, Hydref 24)
BAFTA Cymru

Pedair gwobr BAFTA Cymru i Gangs of London

It’s A Sin, The Pembrokeshire Murders a Rhod Gilbert’s Work Experience yn ennill dwy wobr yr un