Mae dau ddigrifwr wedi bod yn siarad â golwg360 am y profiad o berfformio mewn gig arbennig i garfan bêl-droed Cymru – ac mae un ohonyn nhw’n gefnogwr Real Madrid a Gareth Bale.
Aeth Ignacio Lopez, hanner Sbaenwr, a Leroy Brito draw i westy’r Vale ar gais cwmni Think Orchard i ddiddanu’r garfan ar drothwy’r gêm fawr yn erbyn y Ffindir yng Nghynghrair y Cenhedloedd yng Nghaerdydd heno (nos Fercher, Tachwedd 18).
Tra bod Ignacio yn wyneb cyfarwydd ar BBC Sesh, mae Leroy wedi ymddangos yng nghyfres gomedi BBC Cymru, Tourist Trap.
“Fe wnaethon nhw gysylltu â fi oherwydd maen nhw wedi ’ngweld i’n perfformio yng nghlwb Glee yng Nghaerdydd ac wedi meddwl y byddai’n dda cael trefnu noson gomedi,” meddai Ignacio wrth golwg360.
“Maen nhw wedi cael noson rasys ceffylau, noson ffilm ac fe wnes i a Leroy berfformio yn y noson gomedi.”
Cynulleidfa wahanol i’r arfer
Yn wahanol i gigs arferol, sydd yn gyfuniad o wahanol fathau o bobol yn y gynulleidfa, mae Ignacio yn dweud bod y profiad o berfformio i griw o ddynion ifanc i gyd yn ei gwneud hi’n noson “annisgwyl”.
“Do’n i ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl cyn cyrraedd, a dw i ddim yn meddwl eu bod nhw’n gwybod beth i’w ddisgwyl chwaith,” meddai.
“Roedd yn arwydd da eu bod nhw i gyd yno oherwydd roedd y noson yn gwbl ddewisol iddyn nhw, felly fe allen nhw fod wedi penderfynu peidio â mynd, a jyst mynd i orffwys yn y gwesty ond fe wnaethon nhw i gyd aros o gwmpas.
“Ro’n i’n teimlo braidd fel ’mod i wedi crasio sesiwn ymarfer oherwydd roedden nhw jyst yn eistedd wrth y bwrdd yn sgwrsio ac yn cymdeithasu. A dyna fi’n crasio’r parti!”
Ond er eu bod nhw’n gynulleidfa wahanol, mae’n dweud iddyn nhw fynd i hwyliau yn ddigon cyflym.
“Dw i’n credu eu bod nhw wedi oedi cyn ateb ar y dechrau pan wnes i ofyn cwestiynau ac yn y blaen; dw i ddim yn gwybod a oedden nhw’n meddwl y byddwn i’n pigo arnyn nhw, ond fe wnes i sylwi eu bod nhw’n chwerthin fwya’ pan wnes i bigo ar un ohonyn nhw yn y gynulleidfa.
“Er eu bod nhw wedi gorffen swper, roedd un ohonyn nhw’n bwyta iogwrt felly wnes i dynnu sylw at hynny ac fe wnaethon nhw i gyd rowlio chwerthin.
“Ac unwaith wnes i ddechrau gwneud deunydd am yr enw ‘Dai’, roedden nhw i gyd yn chwerthin am ben y ‘Dai’ yn y garfan hefyd!”
Mae’n dweud bod perfformio o flaen criw o’r un rhyw yn gallu bod yn fwy anodd.
“Dw i wedi arfer â gigio i ystod o oedrannau a rhywiau hefyd ac os oes gyda chi griw o’r un rhyw, fe all fod yn gig fwy anodd wedyn,” meddai.
“Ond roeddech chi’n gallu gweld pa mor agos oedden nhw fel carfan, sut roedden nhw’n ymateb i’w gilydd cyn ac yn ystod y gig.
“Maen nhw i gyd yn dod ymlaen yn dda ac roedd y chwerthin yn dipyn o hwyl hefyd, a neb yn gas gyda’r ateb nôl. Maen nhw’n griw da o fois.”
Gigio eto’n “anhygoel”
Mae’n dweud bod y profiad o gael gigio eto’n “anhygoel”, heb sôn am berfformio o flaen cynulleidfa o rai o sêr mwya’r byd pêl-droed.
“Dyma’r gig gyntaf i fi ’nôl yng Nghymru ers mis Mawrth, oedd yn anhygoel,” meddai.
“Dw i a Leroy wedi gorfod addasu, gan droi at berfformio ar-lein.
“Pan oedden ni’n gallu gwneud gigs draw yn Lloegr, fe wnaethon ni lond llaw yn unig eleni, felly roedd cael gwneud hon… ro’n i’n rhannol siomedig bod rhaid i fi berfformio o flaen tîm Cymru heb fod wedi cael llawer iawn o ymarfer.
“Fe wnes i gymharu hynny ar y llwyfan, mae’n eitha’ tebyg i gael cais i fynd i chwarae yng Nghynghrair y Cenhedloedd pan nad ydych chi wedi gallu ymarfer.”
Dau uchafbwynt
Nid bod hynny wedi effeithio dim ar fwynhad y chwaraewyr, meddai.
“Beth oedd yn ddoniol oedd fod Connor Roberts wedi dod ata’i ar y diwedd a dweud, ‘Dwi’n siomedig bo ti heb wneud dy jôc am y plismon o Gastell-nedd’,” meddai.
“Do’n i’n ffaelu credu’r peth – do’n i ddim yn disgwyl i neb wybod pwy yffach ydw i, felly roedd cael chwaraewr yn cerdded lan a dweud, “wnest ti ddim gwneud y blydi jôc am Gastell-nedd”, roedd hynny’n uchafbwynt!”
Wel, un o ddau uchafbwynt beth bynnag – y llall oedd cael perfformio o flaen ei arwr, Gareth Bale.
“Roedd gyda fi ambell jôc am Real Madrid, y tîm dw i’n ei gefnogi, ond doedd dim digon o amser,” meddai wedyn.
“Do’n i ddim yn mynd i fod yn gas wrth Gareth, dw i’n ffan mawr ohono fe, ro’n i’n drist o’i weld e’n gadael Madrid.
“Dw i’n gwybod nad yw rhai ffans yn teimlo’r un fath, ond fe wnaeth e stwff arbennig i’r clwb, a dw i’n dymuno’n dda iddo fe.
“Yr unig wahaniaeth rhyngddo fi a fe yw bo fi’n dechrau gigs ac roedd e’n arfer dod ymlaen fel eilydd i Real Madrid!”
Gigio yn ystod Covid
Yn ôl Leroy, mae sefyllfa’r byd comedi ar ôl y coronafeirws yn dal yn ansicr, gyda chyn lleied o gigs yn cael eu cynnal ar hyn o bryd, a nifer o ddigrifwyr wedi hen syrffedu ar ôl misoedd o orfod perfformio dros Zoom a’r gwefannau cymdeithasol – rhywbeth mae’r digrifwr o Gaerdydd yn cyfaddef nad yw’n ei fwynhau.
“Dw i wedi gwneud ychydig iawn o gomedi,” meddai am y cyfnod Covid.
“Dw i ddim wedi gwneud llawer o gigs dros Zoom, jyst oherwydd bo fi’n ffeindio bo fi ddim yn eu mwynhau nhw.
“Fis yn ôl, wnes i gwpwl o gigs yn Llundain, a dw i wedi cael cwpwl o wythnosau o gigs felly dw i wedi magu ’nghoesau ychydig bach, ond dyma’r gig gyntaf ym mis Tachwedd.
“Ond unwaith rydych chi’n ôl iddi ac yn ymlacio ac yn gwneud yn dda, mae popeth yn iawn.
“Ond os ydych chi’n ei chael hi’n anodd, dyna pryd mae’r cyfan yn mynd yn fwy anodd fyth wedyn.”
Mae’n cyfaddef fod sefyllfa’r coronafeirws yn ei wneud e’n nerfus fel perfformiwr, ond fod y gigs mae e wedi’u gwneud wedi bod yn ‘Covid-ddiogel’, gyda’r digrifwyr yn gorfod cael prawf coronafeirws yn y Vale cyn perfformio i’r pêl-droedwyr.
“Roedd hon yn un braf iawn gan fod profion Covid wedi cael eu gwneud,” meddai.
“O ganlyniad, roedd ychydig yn llai o straen wedyn.
“Es i i Lundain i’r Top Secret Comedy Club yn ddiweddar, ac roedd hynny’n braf, ac roedd ganddyn nhw sgriniau plastig rhwng pobol, ond roedd hi’n teimlo fel gig gyffredin ar ôl i’r goleuadau gael eu diffodd oherwydd doeddech chi ddim yn gweld dim.
“Dw i wedi gwneud gigs awyr agored oedd ddim yn neis iawn, jyst oherwydd fod pobol yn oer tu allan ac yn aros am eu bwyd!
“Cyn Covid, roedd tipyn llai o straen mewn gigs – ond roedd yr un yma bron iawn fel gig Wythnos y Glas, jyst heb yr alcohol! Roedden nhw i gyd mor ifanc!
“Dw i wedi gwneud sawl gig fel hon [yng ngwesty’r Vale], i’r tîm rygbi cenedlaethol ac yn y blaen, ac maen nhw’n nerfus wrth chwerthin weithiau achos dydyn nhw ddim eisiau bod y boi cyntaf i chwerthin ac maen nhw ychydig yn nerfus bo chi’n mynd i dynnu eu coes nhw achos bo chi’n nabod eu hwynebau nhw!
“Ond unwaith mae’r tensiwn yn mynd, mae’n dod yn fwy naturiol ac arferol ar ôl cwpwl o funudau.”
Ansicrwydd am y dyfodol
Dim ond un gig arall sydd gan Leroy ar y gweill, a honno yn Cirencester fis nesaf, a does dim sicrwydd ar gyfer y dyfodol y tu hwnt i hynny ar hyn o bryd.
“Mae eleni wedi bod yn write-off,” meddai.
“Dw i wedi bod yn ysgrifennu deunydd ac ro’n i’n gweithio tuag at sioe yng Nghanolfan y Mileniwm sydd wedi cael ei chanslo.
“Ond dw i’n dal i ysgrifennu, a gobeithio fydd pethau’n gwella y flwyddyn nesaf.
“Mae problemau gwaeth na methu â bod ar lwyfan, felly dw i ddim yn mynd i gwyno, ac mae sawl prosiect arall gyda fi ar y gweill ar hyn o bryd.”
Pan ddaw’r gigs yn ôl yn iawn, mae’n siŵr y bydd cyfnod y coronafeirws a’r cyfnodau clo yn cynnig digon o ddeunydd i ddigrifwyr…
“Dw i bob amser yn trio ysgrifennu am beth sy’n digwydd yn fy mywyd ond ar yr un pryd, dw i’n ymwybodol na ddylwn i ysgrifennu gormod o ddeunydd Covid achos mae pawb arall yn mynd i fod yn gwneud yr un jôcs,” meddai.
“Hyn a hyn allwch chi ei ysgrifennu am Zoom hefyd.
“Y flwyddyn nesaf, neu pryd bynnag mae pethau’n dod yn ôl i drefn, bydd pobol wedi diflasu ar ôl Covid a byddan nhw eisiau rhywbeth arall, felly fy risg yw ysgrifennu deunydd gwahanol a gweld beth ddaw.”
DARLLENWCH RAGOR: