Mae Canolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd ymhlith y sefydliadau sydd wedi derbyn grant gan Gronfa Adfer Ddiwylliannol Llywodraeth Cymru.

Fel rhan o’r gronfa gwerth £53m, cafodd £27.5 miliwn o’r gronfa ei glustnodi i’w ddosbarthu gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Ers i geisiadau agor fis Awst, derbyniwyd 160 o geisiadau ar gyfer y gronfa refeniw a 61 o geisiadau ar gyfer y gronfa gyfalaf.

Roedd sefydliadau gan gynnwys theatrau, cwmnïau theatr, canolfannau celfyddydol, orielau, corau a bandiau pres yn gymwys.

Roedd yn rhaid i ymgeiswyr ddangos eu bod yn darparu gweithgarwch celfyddydol hygyrch i’r cyhoedd yng Nghymru, a bod y coronafeirws wedi effeithio’n sylweddol arnyn nhw.

Prif nod y gronfa oedd achub ac adfer y sector yng Nghymru gan wneud yn siŵr ei fod yn goroesi’r argyfwng mewn ffordd fywiog, hyfyw a chynaladwy.

  • Cyfanswm yr holl geisiadau refeniw i helpu gyda phroblemau ariannol brys a diogelu swyddi yw £19,040,043.
  • Cyfanswm yr holl geisiadau cyfalaf i addasu lleoliadau i ymdopi â chadw pellter cymdeithasol yw £2,164,332.
Bydd Canolfan y Mileniwm yn aros ar gau tan fis Ionawr 2021 yn sgil pandemig y coronafeirws.

‘Rhan hollbwysig yn adfywio economi Cymru’

Mae’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, wedi canmol “effeithlonrwydd” staff Cyngor Celfyddydau Cymru wrth ddosbarthu’r grantiau.

“Mae’n amlwg fod gan y sector ran hollbwysig i’w chwarae i adnewyddu ac adfywio cymdeithas ac economi Cymru wrth inni edrych ar y gorwel y tu hwnt i’r cyfyngiadau presennol”, meddai,

“Bydd y gronfa yn gymorth i wneud yn siŵr bod sector y celfyddydau’n cael ei gefnogi yn ystod y misoedd nesaf wrth fod cyfyngiadau Cofid-19 yn parhau.”

Diolchodd Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, a Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, am gefnogaeth Llywodraeth Cymru.

“Mae’n cydnabod pwysigrwydd y celfyddydau i Gymru, a’r angen i gadw’r sefydliadau sy’n dod â’r fath bleser a mwynhad i gynifer o bobol,” meddai Phil George.

“Mae’r arian yn rhoi cymorth brys i’r llu o sefydliadau ledled Cymru sy’n wynebu perygl ariannol difrifol,” ychwanegodd Nick Capaldi.

“Os ydym ni am gael celfyddydau bywiog a chyffrous ar ôl i effeithiau’r feirws gilio, rhaid i ni gymryd camau brys yn awr i’w diogelu.”

Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth

Ymhlith y rhai sy’n derbyn y grantiau mae:

  • £3,900,180 – Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd
  • £1,208,710 – Neuadd Dewi Sant, Caerdydd
  • £934,424 – Galeri, Caernarfon
  • £599,448 – Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth
  • £558,993 – Chapter, Caerdydd
  • £228,000 – Theatr Mwldan, Aberteifi
  • £189,074 – Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
  • £126,770 – Canolfan Theatr a Chelfyddydol Glan yr Afon, Casnewydd
  • £96,411 – Tŷ Pawb, Wrecsam
  • £61,935 – Oriel Davies, Y Drenewydd
  • £33,349 – Celfyddydau Anabledd Cymru
  • £32,689 – Canolfan Grefft Rhuthun
  • £22,500 – Côr Forget-me-not, Caerdydd
  • £19,855 – Band Cory, Treorci
  • £12,880 – Band Porth Tywyn

Mae’r ymgeiswyr llwyddiannus hefyd wedi ymrwymo i Gontract Diwylliannol gyda’r nod o annog sefydliadau i gyrraedd rhagor o bobol, i wella amrywiaeth eu byrddau rheoli a’u gweithlu, i ddarparu cyfleoedd newydd i artistiaid llawrydd, ymrwymo i dalu cyflog teg ac i wella eu heffaith amgylcheddol.