Mae Gŵyl Ffilm LHDT+ Gwobr Iris yn dechrau heno dydd Mawrth (Hydref 6), gyda noson agoriadol ei rhith-ŵyl gyntaf sydd ar gael ar-lein yn rhad ac am ddim i gynulleidfaoedd ledled y Deyrnas Unedig, ac sy’n cynnwys sawl perfformiad gan bobol o Gymru.

Mae’r dathliad rhyngwladol o amrywiaeth a gwelededd y gymuned LHDT+ yn dechrau am 7 o’r gloch.

Ymysg y ffilmiau byrion fydd yn cael eu dangos heno mae ffilm fer animeiddiedig, Cwch Deilen, gan y cyfarwyddwr Efa Blosse-Mason o Gaerdydd.

Mae’r ffilm yn serennu Catrin Stewart a Sara Gregory, ac yn archwilio dyddiau cynnar perthynas newydd.

Mae’r ffilm wedi’i lleoli yn Aberaeron, lle mae mam-gu Efa Blosse-Mason yn byw ac mae’n seiliedig ar gyfres o ddarluniau pastel gan y cyfarwyddwr ei hun.

Cafodd y ffilm ei chynhyrchu gan Amy Morris yn Winding Snake Productions trwy Ffilm Cymru a chynllun animeiddio’r BFI NETWORK mewn cydweithrediad â BBC Cymru.

Tom Selway sy’n cyflwyno digwyddiad dyddiol Iris Live! ac mae’r rhaglen gyntaf hon yn cynnwys rhagolygon o’r ffilmiau ar draws yr ŵyl gyfan, a chyfweliadau â rhai o’r gwneuthurwyr ffilm.

Ar ben hynny, bydd cyfraniadau cerddorol gan y gantores-gyfansoddwraig Casi Wyn a’r seren bop fyd-enwog Heather Small.

‘Dathliad o ffilmiau anhygoel’

“Rydyn ni am i agoriad dydd Mawrth fod yn ddathliad o’r ffilmiau anhygoel LHDT+ rydyn ni’n eu rhannu eleni,” meddai Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwyr Gwobr Iris.

“Er gwaethaf pob disgwyl eleni, rydym yn mynd ag Iris i bob cornel o Loegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru, ar-lein ac yn rhad ac am ddim am wythnos.

“Er nad oes digwyddiad corfforol eleni, mae llawer o wyliau partner rhyngwladol a chynghreiriaid wedi bod yn anfon eu dymuniadau da.

“Rwy’n gobeithio y bydd 2020 yn flwyddyn arwyddocaol yn natblygiad Iris a byddwn yn edrych yn ôl ac yn cydnabod mai hon oedd y flwyddyn y daeth Iris i oed”.