Fe fydd sgript un o ddramâu radio Richard Burton yn cael ei werthu mewn ocsiwn i godi arian at apêl Tarian Cymru i sicrhau cyfarpar diogelu ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd yn ystod ymlediad y coronafeirws.

Roedd yr actor o Bontrhydyfen yng Nghwm Afan yn 19 oed pan wnaeth e serennu yn The Corn is Green, a gafodd ei chynhyrchu gan ei ffrind Philip Burton, y dyn y mae’n rhannu ei gyfenw â fe fel enw llwyfan.

Cafodd y ddrama ei pherfformio a’i recordio cyn iddo ddod yn enw adnabyddus ar draws y byd fel actor Hollywood.

Mae’r sgript wedi’i deipio ac mae’n cynnwys nodiadau yn llawysgrifen yr actor ei hun.

Cafodd ei ddarganfod gan Richard King pan oedd e’n clirio cartref ei rieni yng Nghasnewydd, ac mae lle i gredu bod ei fodryb yn gweithio yn y BBC adeg recordio’r ddrama.

“Roedd fy rhieni hefyd yn weithgar iawn ym maes drama amatur ddiwedd y 1950au mewn lleoedd fel Oxford House yn Rhisga, felly efallai mai cymdeithas ddrama leol a oedd wedi defnyddio sgript yr addasiad radio oedd y ffynhonnell,” meddai.

The Corn is Green

Cafodd y ddrama gan Emlyn Williams ei darlledu am y tro cyntaf yn Ionawr 1945 ar Wasanaeth Cartref y BBC.

Cafodd ei haddasu ar gyfer y radio gan T Rowland Hughes a’i chynhyrchu gan Philip Burton, a’i darlledu gyntaf ar Saturday Night Theatre, BBC Home Service ar 27 Ionawr 1945.

Bu Gladys Young a Jesse Evans hefyd yn actio yn yr addasiad radio.

Cafodd Richard Burton – neu Jenkins fel yr oedd yn cael ei adnabod bryd hynny – ym Mhontrhydyfen yn 1925.

Roedd dramâu o’r fath yn hanfodol yn ystod yr Ail Ryfel Byd er mwyn cynnal yr ymdeimlad o obaith, ac roedd y Richard Burton ifanc wedi gweithio i’r pwyllgor cydweithredol lleol, gan ddosbarthu cyflenwadau yn gyfnewid am gwponau ym maestrefi Port Talbot.

Tarian Cymru

Mae Tarian Cymru yn dosbarthu offer amddiffynnol personol (PPE) i weithwyr iechyd a gofal yng Nghymru.

Maen nhw bellach wedi codi dros £76,000 ac mae dros 200,000 o ddarnau o gyfarpar wedi’u dosbarthu i’r Gwasanaeth Iechyd yn sgil yr ymgyrch ar wefan GoFundMe.

“Roedden ni yn yr apêl wrth ein boddau o gael y sgript anhygoel a hynod ddiddorol hon, sydd o bwysigrwydd aruthrol i hanes y celfyddydau dramatig, ac wrth gwrs ffans Richard Burton,” meddai Carl Morris, cyd-drefnydd yr apêl.

“Mae’r ocsiwn hon yn gyffrous iawn – mae’n dechrau am 99c fel y gall bron unrhyw un gynnig.

“Pwy fydd yn dod yn berchennog lwcus y sgript anarferol hon?

“Mae’r holl gefnogaeth i’r apêl wedi bod yn ysgubol, yn ei holl ffurfiau – o gerddorion, i sefydliadau, i heriau chwaraeon, i roddion gan gefnogwyr unigol, ac arwerthiannau fel hyn.

“Mae pob ceiniog a godwn trwy hyn a dulliau eraill yn mynd tuag at brynu a dosbarthu PPE ar gyfer ein gweithwyr iechyd a gofal ledled Cymru.”