Mae un o brif awduron Cymru wedi bod yn llofnodi copïau o’i nofel newydd yn yr awyr agored ar ochr ffordd ger Llanuwchllyn.
Oherwydd cyfyngiadau’r coronafeirws trefnwyd y sesiwn lofnodi yn yr awyr agored ger coedwig Penaran.
Mae’r nofel newydd, a gyhoeddir gan Wasg Gomer, yn ddilyniant hirddisgwyliedig i Gwrach y Gwyllt, un o nofelau mwyaf llwyddiannus yr awdures o Rydymain ger Dolgellau.
Gwyn Sion Ifan, rheolwr siop Awen Meirion, sy’n gyfrifol am y sesiwn lofnodi anarferol.
“Mae’r sefyllfa wedi ein gorfodi i feddwl am ffyrdd newydd a gwahanol o werthu – does yna ddim dewis mewn gwirionedd, os nad yden ni’n gwneud hynny, wnaiff y siop ddim goroesi”, meddai Gwyn Sion Ifan.
“Yn arferol, mi fyddai sesiwn arwyddo Merch y Gwyllt wedi bod yn ddigwyddiad mawr yn y siop – mae yna lawer o edrych ymlaen wedi bod am y nofel yma – ond wrth gwrs, o dan yr amgylchiadau, mae hynny wedi bod yn amhosib.
“Os nad oedd Bethan Gwanas yn cael dod i’r siop, mi aethon ni â’r siop at Bethan Gwanas!”
Oherwydd natur y sesiwn, penderfynodd Awen Meirion i beidio rhoi gwahoddiad i’r cyhoedd ond daeth ambell gwsmer oedd wedi cael trefnu ymlaen llaw.
Roedd lansiad ‘Merch y Gwyllt’ i fod yn un o brif ddigwyddiadau Sesiwn Fawr Dolgellau eleni, ond bu’n rhaid gohirio’r ŵyl a’r lansiad oherwydd y coronafeirws.
Pwysigrwydd cefnogi siopau lleol
Dywedodd Bethan Gwanas: “I awdur, mae sesiynau llofnodi yn ffordd wych o gyfarfod darllenwyr hen a newydd ac mae hi mor braf cael siarad am y nofel efo rhywun – unrhyw un!
“Dw i mor falch bod Gwyn wedi meddwl am y syniad gwreiddiol yma i gael copïau wedi eu llofnodi i’r siop.
“Mae cymeriadau a digwyddiadau Merch y Gwyllt wedi bod yn fy mhen i ers dros ddwy flynedd rŵan, a dim ond efo Mari Emlyn, y golygydd, dwi wedi gallu eu trafod nhw.
“Er fy mod i’n nerfus be’ fydd pobl yn ei feddwl ohoni, mae’n gymaint o ryddhad ei bod hi ‘allan yna’ o’r diwedd a dwi’n ysu am gael siarad amdani
“Mae siopau llyfrau annibynnol mor bwysig i awduron, yn arbennig yng Nghymru – maen nhw’n gweithio mor galed i hyrwyddo a gwerthu ein llyfrau – plîs cefnogwch nhw.”