Mae gŵyl gerddoriaeth ‘Sesiwn Fawr Dolgellau’ wedi cael ei chanslo eleni.
Daw’r cyhoeddiad wedi i lu o ddigwyddiadau eraill – gan gynnwys Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol – gael eu canslo oherwydd yr argyfwng covid-19.
“Rydym yn hynod siomedig ein bod yn canslo, ond mae iechyd a diogelwch ein cynulleidfa, yr holl artistiaid a chymuned Dolgellau yn bwysicach,” meddai llefarydd ar ran yr ŵyl.
“Roedd gennym ni glincar o lein yp ar eich cyfer, ac rydym yn mawr obeithio y byddwn yn gallu gwahodd nifer fawr o’r artistiaid yn ôl ar gyfer yr ŵyl yn 2021.”
Mae’r rheiny a archebodd tocynnau yn medru derbyn ad-daliad, neu eu cadw at yr ŵyl y flwyddyn nesa’. Mae disgwyl iddi gael ei chynnal rhwng Gorffennaf 16 ac 18 yn 2021.
Y sesiwn fawr
Cafodd yr ŵyl ei chynnal am y tro cyntaf yn Nolgellau, Gwynedd, yn 2008, ac ar ei hanterth roedd yn denu rhyw 5,000 o bobol bob blwyddyn.
Pe bai’r ŵyl wedi mynd rhagddi eleni byddai wedi cael ei chynnal rhwng Gorffennaf 17 ac 19.