Ystyr Buldak [o’r iaith Dwrceg] yw ‘cyw iâr tanllyd’, a be’ well yn y tywydd oer a gwlyb na chyw iâr tanllyd i gynhesu gydag elfennau o salad ffresh ac iach… Dyma bryd sy’n byrstio o flasau a gweadau gwahanol fydd yn eich llenwi am oriau. Mwynhewch!
Byddwch chi angen:
- Cyw iâr cyfan
- Pecyn o wrapiau
- 2 bupur (defnyddiais i rai coch a melyn)
- 1 nionyn coch
- Olew olewydd
- 1 segment o garlleg
- Chipotle
- Letys crwn
- Caws (defnyddiais i Brie)
- Saws Buldak cyw iâr
- Pupur a halen
Paratoi
Torrwch y pupur (sicrhewch nad oes hadau), nionyn coch, segment o garlleg, a llwy de/fwrdd o Chipotle (dewisol) i’w cymysgu ymhellach yn y cymysgydd, ynghyd ag olew olewydd.
Cymysgwch y cyfan yn y cymysgydd.
Torrwch rubannau o letys yn fân.
Coginio
Coginiwch y cyw iâr nes bo’r sudd yn rhedeg yn glir.
Dewiswch gaws o’ch dewis i’w roi ar y wrapiau. Fy ffefryn personol ar gyfer y rysáit hwn yw ‘Brie’, gan ei fod yn dod a balans neis yn erbyn y sbeis.
Gosodwch y cyw iâr (a digon ohono) ar bob wrap.
Tywalltwch y pupur, nionyn coch, garlleg a chipotle o’r cymysgydd ar ben y wrapiau.
Rhowch y wrapiau yn y meicrodon am oddeutu munud.
Wedi i chi eu tynnu allan, ychwanegwch y rhubannau letys ar eu pennau, ynghyd â saws Buldak cyw iâr. Mae’r saws yma’n boeth iawn (felly byddwch yn ofalus!).
Plygwch y wrapiau, a’u cau bob pen cyn eu gosod yn y meicrodon am funud.
Mwynhewch!