Mae trefnydd Marchnad Nadolig Gŵyl Fwyd Caernarfon yn dweud y bydd hi’n “hawdd cael pethau dan yr un to” wrth i Farchnad Nadolig Gŵyl Fwyd Caernarfon gael ei chynnal ddydd Sadwrn (Tachwedd 19) i “gefnogi busnesau bach lleol”.
Bydd y farchnad yn cael ei chynnal yn adeilad yr Orsaf, gyda rhai unedau yn y Cei Llechi, o 10:00yb tan 4:00yp.
Bydd pob math o fwyd, diod, crefftau, celf, gemwaith, dillad, anrhegion, cacennau, dodrefn cynnyrch harddwch, teganau, cardiau a llawer mwy o gynnyrch.
Bydd groto Sïon Corn mewn cerbyd trên dosbarth cyntaf ar y platfform a bydd cyfle i blant bach gael anrheg gan Sïon Corn.
“Bydd o’n hawdd cael pethau dan yr un to, os bydd hi’n bwrw glaw bydd hi ddim problem,” meddai Nici Beech wrth golwg360.
“Mae’n gyfle i gefnogi busnesau bach lleol.”
Wrth sôn am ochr ariannol cynnal Gŵyl Fwyd, dywed ei bod hi’n “helpu cadw treth yn yr economi leol”.
“Mae’n anodd ar bobl dyddiau yma, felly mae be’ fedrwn ni wneud i helpu yn grêt, a hefyd mae’r farchnad Nadolig yn helpu cefnogi Gŵyl Fwyd Caernarfon sydd yn ddigwyddiad am ddim yng Nghaernarfon fis Mai,” meddai.
“Mae costau hwnnw yn mynd fyny yn uwch, felly rydyn ni’n trio codi arian yn ystod y flwyddyn efo digwyddiadau lleol fel hyn.
“Mae’r stondinwyr yn talu am eu lle, a rydan ni’n rhoi’r arian at gynnal yr ŵyl y flwyddyn nesaf.”
Costau byw ac ynni
Ond beth am effaith yr argyfwng costau byw ac ynni ar y cynhyrchwyr?
“Dwi’n meddwl bod o wedi effeithio ar bawb, wedi effeithio ar gynhyrchwyr a theuluoedd ac mae’n effeithio arnom ni fel trefnydd digwyddiadau,” meddai Nici Beech wedyn.
“Mae costau bob dim yn codi oherwydd prisiau tanwydd a phrisiau costau byw hefyd.”
Ym mis Mai, daeth pobol o bell i’r Ŵyl Fwyd, ond a oes modd disgwyl hynny y Nadolig hwn?
“Gawn ni weld dydd Sadwrn,” meddai.
“Mae pobl yn chwilio am gyfle i fynd allan am y diwrnod ac mae’n gyfle i weld pobol rydych chi’n eu nabod.
“Mae’n achos cymdeithasol yn ogystal â chyfle i wneud siopa Nadolig.
“Mae llawer o’r stondinwyr yn bobol sy’n siarad Cymraeg.
“Maen nhw’n hysbysebu’r digwyddiadau trwy’r iaith Gymraeg ac mae popeth maen nhw’n ei wneud trwy’r iaith Gymraeg.
“Mae gofyn i stondinwyr arddangos arwyddion yn ddwyieithog.
“Mae cynnal digwyddiadau lle mae pobol yn clywed yr iaith yn naturiol yn beth da.”
‘Diolch’
Dywed Nici Beech ei bod “yn ddiolchgar i’r Cei Llechi a’r Orsaf am roi lle i ni gynnal y digwyddiad”.
“Diolch i bawb sy’n gwirfoddoli ar y diwrnod ac o flaen llaw i wneud iddo ddigwydd,” meddai.
“Rydan ni gyd yn gwneud y gwaith trefnu yn wirfoddol a rydan ni’n ddiolchgar i bawb sy’n rhan o’r tîm.”