Ydach chi’n cofio Toast Toppers, Arctic Roll neu Findus Crispy Pancakes? Dach chi’n cofio’r tro cynta’ i chi weld afocado neu flasu hufen iâ? Ydy arogl rhai bwydydd yn mynd a chi nôl i’ch plentyndod neu wyliau hudolus yn yr haul? Mae’r gyfres yma’n bwrw golwg ar atgofion rhai o wynebau cyfarwydd Cymru am fwyd a sut mae hynny wedi dylanwadu eu harferion bwyta heddiw. Ac yntau ar ei ffordd i godi’r canu yn Qatar cyn Cwpan y Byd, y canwr, cyfansoddwr ac eicon y genedl, Dafydd Iwan, sy’n rhannu ei atgofion am fwyd yr wythnos hon. Mae’n byw ym mhentre Caeathro ger Caernarfon yng Ngwynedd…
Dw i’n cofio mynd i aros efo Nain yn Nolyronnen, Llanbrynmair pan oeddwn yn ddim o beth, ac roeddwn i’n dotio a rhyfeddu at y ffordd yr oedd hi’n medru gwneud tamaid blasus o fwyd allan o ddim byd bron. Llawer o ail-goginio mewn sosban fach ar y tân, a’r blas yn gwella bob tro. Ro’n i’n meddwl bod Nain yn ddewines!
Doedd dim ffws ynglŷn â bwyd yn tŷ ni, ond yr oedd Mam yn gogyddes ardderchog. Gyda phedwar o blant, a chyflog gweinidog yn brin, roedd rhaid gwneud i ychydig fynd ymhell, ond doedden ni byth heb ddigon. Mae llawer o’r pethau sy’n cael eu pwysleisio erbyn hyn – dim gwastraffu, a bwyta llawer o ffrwythau a llysiau o’r ardd, er enghraifft – yn mynd a fi’n ôl at ddyddiau fy ieuenctid. Roedd garddio a thyfu llysiau yn hoffter mawr gan fy Nhad, a chadw ieir i gael wyau. Ac roedd Mam yn rhoi pwys mawr ar gasglu ffrwythau fel mwyar duon a llus i wneud tarten a jam ac ati. A’r ffrwythau gwyllt gorau o’r cyfan oedd mefus gwyllt – sydd mor, mor brin erbyn heddiw gwaetha’r modd.
Dw i’n ffodus, mae’n debyg, nad ydw i’n troi at fwyd fel cysur, ond mae’n anodd maddau i gaws! Unrhyw fath o gaws, ond caws caled yw’r gore gen i, a dw i’n tueddu i fwyta gormod ohono. Ryden ni’n ffodus iawn yng Nghymru o gael cymaint o gawsiau lleol, a llawer wedi eu cyfuno gyda pherlysiau. Ond o’r holl gawsiau sy’n cael eu cynhyrchu ar raddfa fasnachol fawr, caws y pecyn coch gan Hufenfa De Arfon yw’r gorau un.
Y prydau bwyd gorau yw’r rhai lle mae’r teulu cyfan – neu o leiaf garfan go helaeth ohono – yn medru cyfarfod mewn bwyty da lle mae’r bwyd yn amrywiol a blasus. Does gen i ddim un math o fwyty fel ffefryn – mae bwyty Indiaidd neu Tsieineaidd yn gallu bod yn wych ar adegau, ac y mae hyd yn oed y llefydd arbenigol sy’n rhoi llwyth o gyrsiau bach gwahanol yn gallu bod yn brofiad pleserus. Ond cwmni’r teulu sy’n gwneud pryd o fwyd yn sbesial bellach.
Y bwyd mwyaf rhamantus a gofiaf – a’r un sy’n dod a fwyaf o atgofion yn ôl imi – yw’r bwyd a gaem adeg cynhaea’ gwair ar fferm Nantyfyda ers talwm. A’r lleoliad gorau o ddigon oedd caeau ffridd Esgair Llyn. Fel rheol, byddwn i a’m brodyr yn helpu Anti Sera i gario’r bwyd dros y bompren at y gweithwyr. Eistedd yno ar y gwair yn bwyta’r brechdanau mwyaf blasus a flaswyd erioed, gydag wyau a phersli, tomatos a chaws, a Chwrw Sinsir (Ginger Beer) i’w golchi i lawr! Nefoedd ar y ddaear yn wir.
Dydw i ddim yn gogydd ond, os bydd raid, mi allaf wneud pryd o fwyd digon taclus! Mae’n jôc barhaus ymhlith y plant mai dau bryd dw i’n gallu eu gwneud – sef rhyw fath o omlet, neu ryw fath o gawl. A beth sy’n dda am y rhain yw y gallwch chi daflu unrhyw beth sydd wrth law yn y rhewgell neu beth bynnag i’r ddau, a gwneud pryd blasus ohonyn nhw. Fy ffefryn yw cawl – nid lobsgóws, sy’n berwi’r enaid allan o’r llysiau – ond cawl, lle mae’r hylif yn glir, a’r llysiau yn gyfan, heb eu berwi’n ormodol. Gall y cig fod yn weddill y cinio Sul, neu’n ddarn o unrhyw gig, neu’n giwb Oxo, neu hyd yn oed sleisen o gig moch, ac y mae’n bwysig cael nionyn a thipyn o lysiau gwyrdd, a byddaf bob amser yn cynnwys tomato neu ddau i roi ychydig o fin ar y blas. Ie, os pwyswch arna’i, mae’n debyg mai cawl da yw fy hoff fwyd o’r cyfan i gyd.
Gan nad wyf yn gogydd, mi fyddai’n gywilydd imi rannu fy anwybodaeth gyda chi drwy gyflwyno rysáit, felly rhaid bodloni ar yr hyn dw i wedi ei ddweud. (Er, rhaid imi ychwanegu mai un o fy hoff lysiau erbyn hyn yw blodfresych wedi ei goginio yn y ffwrn mewn tipyn o olew – bendigedig!)