Ydach chi’n cofio Toast Toppers neu Arctic Roll? Dach chi’n cofio’r tro cynta’ i chi flasu hufen iâ? Ydy arogl rhai bwydydd yn mynd a chi nôl i’ch plentyndod neu wyliau hudolus yn yr haul? Mae’r gyfres yma’n bwrw golwg ar atgofion rhai o wynebau cyfarwydd Cymru am fwyd a sut mae hynny wedi dylanwadu eu harferion bwyta heddiw. Y cyn-beldroediwr a sylwebydd pêl-droed S4C, Malcolm Allen, sy’n rhannu ei atgofion bwyd yr wythnos hon. Mae’n byw yn y Groeslon ger Caernarfon yng Ngwynedd…
Roedd Mam yn gorfod bwydo saith ohonan ni ac roedd hi’n gwneud yn dda iawn chwarae teg, ond oedd Dad methu berwi wy. Oedd ‘na bump o blant a mam a dad mewn tŷ tair stafell wely – oedd Mam yn llnau a Dad yn gweithio yn y chwarel, ac oeddan ni’n byw o ddydd i ddydd. Ond roedd yna ddigon o gariad yn tŷ ni, felly doedd o ddim yn broblem.
Dw i’n cofio bob nos Fawrth oedd Mam yn gwneud cauliflower cheese a corned beef efo tatws newydd a ro’n i wastad yn edrych mlaen at fynd adra o’r ysgol ar ddydd Mawrth. Dydy o ddim ots pa ffordd mae fi a’m mhartner, Rhian, wedi trio gwneud y cauliflower cheese ond dan ni methu gwneud o fel oedd Mam. Roedd yn ffefryn cynnar, a chinio dydd Sul hefyd achos roedd Mam yn gneud grefi sbesial.
Dw i wrth fy modd yn cwcio cinio dydd Sul ond mae’n rhaid i fi gael mushy peas. Os ydan ni’n mynd i fwyty am ginio Sul a does ’na’m mushy peas mi na’i gerdded o ‘na. Dw i licio cwcio’r cinio Dolig hefyd ac mi na’i wneud Beef Wellington am noson sbesial. Dw i wedi gwneud hwnna i dipyn o bobl. Wnes i gael y rysáit o lyfr Mary Berry a’i gweld hi’n ei wneud o so dw i wrth fy modd yn gwneud hwnna. Ond Rhian sy’n gwneud y rhan fwya’ o’r coginio.
Ro’n i’n 16 oed pan wnes i ddechrau bwyta cyris. Wnes i symud lawr i Lundain pan o’n i’n 16 i chwarae pêl-droed ac mi wnaeth perchennog un o’r digs lle’r o’n i’n aros fynd a fi am gyri ac ro’n i wrth fy modd. Fyswn i’n cael cyri i frecwast, cinio, te a swper o ddewis. Dw i’n cael cyri o leia’ ddwywaith yr wythnos. Dw i licio rhai sbeisi, a Vindaloo ydy’r ffefryn. Mae rhai Vindaloos yn reit hawdd i’w bwyta a rhai yn rili poeth. Ond dw i jest yn mwynhau rhoi sialens i fi’n hun. Cyris ydy comfort food fi. Lle bynnag dw i’n mynd dw i’n trio rhywle newydd.
Dw i’m yn gwybod be i ddisgwyl yn Qatar ond mae Nic Parry [sylwebydd pêl-droed y BBC] allan yna’n barod so mi na’i ofyn iddo fo. Bob man dw i wedi mynd am gyri mae Nic wedi bod efo fi.
Dw i wedi trio gwneud cyris fy hun ond fedra’i ddim cael y blas yn iawn – mae’n haws jest mynd i nôl nhw. Y pryd delfrydol fysa cyri yn Indo Cymru yn Nhreganna, Caerdydd. Mae Ginger yng Nghaerfyrddin yn dda iawn hefyd.
Mae Malcolm Allen yn un o’r tîm sylwebu fydd yn dod â holl gemau pêl-droed Cymru yn fwy o Gwpan y Byd yn Qatar.