Bydd planhigyn a symbol cenedlaethol Cymru, y Genhinen Gymreig, yn cael ei gwarchod yn swyddogol ar ôl derbyn statws arbennig.

Ar ôl ennill statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig, dyma’r trydydd cynnyrch o Gymru i ymuno â rhestr Dynodiad Daearyddol (GI) y Deyrnas Unedig, ar ôl Cig Oen Morfa Heli Gŵyr a Chig Oen Mynyddoedd Cambria.

Cafodd cynllun GI y Deyrnas Unedig ei sefydlu ar ddechrau 2021, yn dilyn Brexit, ac mae’n sicrhau bod rhai cynhyrchion bwyd a diod yn parhau i gael eu gwarchod yn gyfreithiol rhag cael eu dynwared a’u camddefnyddio.

Cennin Cymru yw’r 19eg aelod o deulu cynnyrch GI Cymru, gan ymuno â bwydydd fel Halen Môr Môn a Chig Eidion Cymru.

Mae pob aelod o’r teulu’n gwbl Gymreig, ac wedi’u cysylltu’n uniongyrchol â’r dirwedd a’r morluniau sy’n eu meithrin.

‘Emblem eiconig’

O hyn ymlaen, bydd Cennin Cymru, sy’n cael eu gwerthu â logo GI y Deyrnas Unedig, yn hyrwyddo treftadaeth a diwylliant Cymru ac yn brawf o ansawdd ac unigrywedd y cynnyrch.

Cafodd y cais am y statws ei arwain gan Puffin Produce o Sir Benfro.

“Mae’r genhinen yn emblem eiconig o Gymru – rydym yn hynod falch o allu tyfu Cennin Cymreig ac mae statws y GI yn hynod bwysig i hyrwyddo’r ansawdd a’r dreftadaeth y tu ôl i’r cnwd mawreddog hwn,” meddai Huw Thomas, Prif Swyddog Gweithredol y cwmni.

Mae’r cyhoeddiad yn “newyddion gwych”, yn ôl Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Materion Gwledig Cymru.

“Mae cennin yn symbol hanesyddol o Gymru, yn adnabyddus ledled y byd, ac rwy’n falch iawn o weld y cynnyrch yma’n ennill y gydnabyddiaeth a’r bri y mae’n ei haeddu,” meddai.