Ydach chi’n cofio Toast Toppers, Arctic Roll neu Findus Crispy Pancakes? Dach chi’n cofio’r tro cynta’ i chi weld afocado neu flasu hufen iâ? Ydy arogl rhai bwydydd yn mynd a chi nôl i’ch plentyndod neu wyliau hudolus yn yr haul? Mae’r gyfres yma’n bwrw golwg ar atgofion rhai o wynebau cyfarwydd Cymru am fwyd a sut mae hynny wedi dylanwadu eu harferion bwyta heddiw. Colofnydd Golwg Huw Onllwyn Jones, sy’n byw yng Nghaerdydd, sydd Ar Blât yr wythnos hon.

Mae genna’i ryw frith gof am nifer o bethau:

  • y cyffro wrth i fy mam baratoi Vesta curry, un o’r prydau parod cyntaf a ddaeth i’r farchnad. Dychmygwch! Cael cyri go iawn – yng Nghymru! Rhaid cofio nad oedd bwytai Indiaidd ar gael bryd hynny.

 

  • Bwyd fy nain, yn Nantmor, ger Beddgelert. Cig da a llysiau oedd wedi cael eu tyfu gan fy nhaid. Y cyfan wedi ei goginio’n araf yn yr Aga. Digon o fenyn a phupur gwyn ar y llysiau – a phwdin reis i orffen. Ac yna eistedd o flaen tân coed y gegin ganol. Hapus ddyddiau!

 

  • Mam yn dychwelyd o ffair haf yr ysgol yn cydio mewn dau ryfeddod – sef garlleg a phupur gwyrdd. Pethau nad oedd ar gael yn y siopau – a doedd gan neb unrhyw syniad sut i’w defnyddio.

 

  • Fry-up bob amser brecwast, gan gynnwys yn ystod yr wythnos waith – a’r gegin yn llawn mwg wrth i fy mam losgi pethau weithiau…
Fry up i frecwast

Prin o’n i’n mwynhau’r bwyd adref. Doedd gan fy mam ddim llawer o ddiddordeb mewn bwyd. Roedd hi’n gweithio’n galed fel athrawes.  Iddi hi, rhywbeth i roi egni i’r corff oedd bwyd, yn fwy na rhywbeth i’w fwynhau.

Ro’n i’n ddyn ifanc cyn i mi sylweddoli fod prydau fel spaghetti bolognese yn bethau blasus iawn – yn wahanol i ddehongliad fy mam ohonyn nhw! Doedd fy nhad ddim yn coginio chwaith (er iddo fynd i wersi ar ôl ymddeol). Dw i’n ofni fy mod yn dilyn y traddodiad teuluol.

Ychydig iawn o fwytai oedd yng Nghaerdydd – a pheth anarferol oedd mynd iddyn nhw (ambell i ben-blwydd, os yn lwcus). A ‘gwastraff arian’ fyddai mynd i unrhyw gaffi yn y dref, tra bod modd mynd adref ar ôl siopa i gael paned am ddim. O’r herwydd, rwy’n ymwybodol iawn o’n braint heddiw i allu mwynhau gymaint o fwytai a chaffis gwych yng Nghaerdydd. Mae’r byd wedi newid!

Fe fyddai fy mhryd bwyd delfrydol unrhyw le efo fy ngwraig. Yn enwedig Cicchetti yn Radur ar nos Wener. A gwell byth os oes potel o win coch i’w rhannu rhyngon ni! Pan dw i eisiau cysur dw i’n hoffi unrhyw beth sydd wedi ei goginio gan fy ngwraig.

Bwyty Cicchetti yn Radur

Roedd fy nhad yn dod o Ystradgynlais ac wedi dod yn hoff o gocos (cockles), diolch i’r stondin gocos ym marchnad Abertawe. Roeddwn i wrth fy modd yn mynd i farchnad Caerdydd gyda fe pan oeddwn yn hogyn bach, er mwyn rhannu pot o gocos ger y stondin bysgod. Fe fyddai’n rhoi pupur gwyn a finegr arnyn nhw – a gwych iawn oedd y blas a’r profiad. Mae’r stondin yn dal i fod yno, ynghyd â’r hen silff wen sy’n dal y pupur a’r finegr. Rwy’n cofio fy nhad bob tro dw i’n mynd yno.

Cocos

Dw i wedi cynnig paratoi Lancashire Hotpot droeon i weddill y teulu – ond does yr un ohonyn nhw yn fy nghymryd o ddifri. Rwy’n tybio eu bod yn amau fy ngallu i’w baratoi. Ac efallai eu bod yn iawn…

Er hynny, mae fy nith, Greta, yn caru fy nghaws a thomato ar dost. Mae’n dod i ymweld â ni yn unswydd i’w fwyta. Mae angen tostio’r bara’n ofalus ac yna plethu haenau tenau, ond niferus, o gaws a thomatos ar draws y bara, gan orchuddio pob cornel ohono. Wedyn yn ôl dan y gril nes bod y caws yn toddi. Pupur du ar ei ben – a’i fwyta tra ei fod yn gynnes. Lush!

Dw i byth yn dioddef hangofyr. Os dw i am fynd allan am noson go wyllt fe fyddaf yn cymryd tri Aspirin cyn gadael y tŷ. Proffylacsis yw hyn, wrth gwrs, ac mae’n gweithio’n wych.

 

Bara Huw Onllwyn

Er nad ydw i’n coginio rhyw lawer, rwy’n mwynhau gwneud bara (ond ddim yn ddigon aml, rwy’n ofni). Mae’r gwahaniaeth rhyngddo â bara siop fel sialc a chaws. Mae ganddo flas hyfryd o’r blawd a’r burum – ac mae ynddo fwy o sylwedd na thorthau fflwfflyd a diddim yr archfarchnad.

Yn ddelfrydol, dylid sicrhau fod gennych chi beiriant i dylino’r toes. Fel arall, mae’n broses boenus.

Cymysgwch 1kg o flawd (gwyn, brown neu gymysgedd), 600ml o ddŵr llugoer, 15g o furum a 12g o halen. Ychwanegwch lond dwrn o hadau cymysg, os hoffech.

Tylinwch y cyfan am 10 munud, er mwyn creu toes sy’n teimlo fel sbwng go gadarn, sy’n bownsio nol wrth i chi wasgu’ch bawd i fewn iddo.

Gadewch iddo godi am hanner awr. Gwasgwch y cyfan yn fflat a’i rhannu’n ddau. Siapiwch y ddau i edrych fel torthau bychain a’u gosod mewn tuniau pobi dau bwys (sy’n mesur tua 20x12x11cm). Gadewch i’r toes godi a llenwi’r tuniau. Rhowch y tuniau mewn popty sydd eisoes wedi ei dwymo hyd at 220-250 Celsiws am hanner awr (neu fwy, os hoffech grwstyn mwy crensiog). Wedyn allan â nhw i oeri ar rac.

Gwahoddwch Greta acw i fwynhau caws a thomato ar dost.