Pum nyrs yn plymio o’r awyr i godi arian i’r Gwasanaeth Iechyd

Bydd pum aelod o dîm cymunedol o Sir Gaerfyrddin yn awyrblymio fel rhan o Ddiwrnod Naid Bwrdd Iechyd Hywel Dda eleni

Gwaith uwchraddio ceblau trydan yn Eryri i ddechrau yn yr hydref

Bydd ceblau tanddaearol newydd yn cael eu gosod rhwng gorsafoedd pŵer Dinorwig a Pentir

Rhybuddio ymwelwyr i osgoi morloi ar ôl aflonyddu diweddar

“Mae’n bwysig iawn cofio bod y creaduriaid eiconig hyfryd yma yn anifeiliaid gwyllt felly cadwch draw a mwynhewch o bell.”

Dyfodol Ysgol Abersoch i gael ei benderfynu yr wythnos nesaf

Gareth Williams, Gohebydd Democratiaeth Leol

Mae adroddiad i’r Cabinet yn awgrymu y dylid cau’r ysgol, ond mae hynny wedi derbyn ymateb chwyrn gan drigolion lleol ac ymgyrchwyr iaith

Cymeradwyo cynlluniau i droi clwb cymdeithasol yng Nghaernarfon yn llety gwyliau

Roedd Clwb Canol Dre yn arfer bod yn ganolbwynt i gigiau a digwyddiadau yn y dref, yn ogystal â bod yn gartref i Glwb y Ceidwadwyr un tro

Llyfr ryseitiau awdures o Wynedd yn cael ei enwebu am wobr fawreddog

“Mae fy mreuddwyd wedi’i gwireddu!” medd Maggie Ogunbanwo

Ysgol filfeddygol: “Gwell gobaith cael milfeddygon sy’n gyfarwydd â’r diwydiant amaethyddol”

Cadi Dafydd

Gallai’r Ysgol Gwyddor Filfeddygol yn Aberystwyth fod yn gyfle i gydweithio er lles yr amgylchedd ac anifeiliaid, yn ôl un cyn-filfeddyg

Ysgol Gwyddor Filfeddygol gyntaf Cymru’n agor ei drysau

“Mae heddiw’n ddiwrnod hynod arwyddocaol a chyffrous yn hanes Prifysgol Aberystwyth a Chymru,” meddai Pennaeth yr Ysgol

Cyngor Rhondda Cynon Taf i wario £6m ar ffyrdd

Anthony Lewis (Gohebydd Democratiaeth Leol)

Mae hynny’n cynnwys £2 miliwn yr un i gynlluniau ffordd osgoi Llanharan a ffordd yr A4119

Cwestiynu’r angen i godi miloedd o dai newydd yng Nghaerdydd

Alex Seabrook (Gohebydd Democratiaeth Leol)

Ystadegau diweddaraf yn rhagweld y bydd poblogaeth Caerdydd yn tyfu’n arafach na’r disgwyl