Mae’r llyfr ryseitiau The Melting Pot gan Maggie Ogunbanwo – sy’n dathlu amrywiaeth bwyd yng nghymuned Ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig Cymru – wedi’i enwebu ar gyfer Gwobr fawreddog Gourmand World Cookbook.

Mae Maggie Ogunbanwo, sydd â’i gwreiddiau yn Nigeria, yn byw ym mhentref Penygroes gwta saith milltir o dref Caernarfon, ac yn rhedeg busnes o’r enw ‘Maggie’s African Twist’ o hen dafarn Y Llew Coch yn y pentref, gan greu cynhyrchion bwyd o Affrica, fel sbeisys a sawsiau.

Maggie Ogunbanwo

‘Dathliad’

“Mae’r llyfr yn ddathliad o’r ryseitiau amrywiol a gyfrannwyd gan aelodau o’r gymuned leiafrifoedd ethnig yng Nghymru,” meddai Maggie am y llyfr.

“Mae’r ryseitiau’n dwyn ynghyd flasau, ysbrydoliaeth a thraddodiadau o Bali i Zimbabwe a’r straeon cyfoethog y tu ôl i bob pryd, gan gydnabod bwyd fel iaith fyd-eang y gallwn ni i gyd gyfathrebu a rhannu drwyddi.”

Wrth ymateb i’r newyddion am yr enwebiad ychwanegodd: “Wel, alla i ddim credu’r peth, rydw i wedi cael sioc enfawr ac yn teimlo gwir anrhydedd o gael fy enwebu, ac i fod ymhlith y llyfrau coginio gorau yn y byd, mae’n wirioneddol anhygoel!

“Ar hyn o bryd mae fy llyfr yn yr arddangosfa glodwiw yn Amgueddfa Alfred Nobel yn Karlskoga, Sweden, a drefnwyd gan y Gwobrau Gourmand a Sefydliad Ymchwil Cynaliadwyedd Hallbars. Nesaf, rydw i’n mynd i Ffair Lyfrau Coginio Paris ym mis Rhagfyr ac yna byddaf yn mynychu Gwobrau Gourmand Cookbook 2022 y gwanwyn nesaf ym Mharis. Mae fy mreuddwyd wedi’i gwireddu!”

Lansiwyd y llyfr coginio gan Lesley Griffiths, Gweinidog Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, mewn lansiad llyfr rhithwir ym mis Mawrth eleni. Dywedodd y Gweinidog:

“Rwy’n falch iawn bod The Melting Pot wedi cael ei enwebu am wobr mor fawreddog. Gyda sawl enillydd gwych yn y gorffennol, mae’n anrhydedd go iawn cael eich cynnwys yng Ngwobrau World Gourmand Cookbook.

“Llongyfarchiadau enfawr i Maggie sydd wedi gwneud gwaith rhagorol yn arddangos Cymru gyfoes trwy lygaid y rhai yn y gymuned BAME sy’n gwneud cyfraniad gwerthfawr i ddiwydiant bwyd a diod Cymru.

“Mae’r llyfr hwn yn atgyfnerthu ein diwylliant cyfoethog ac amrywiol, ac rwy’n annog pawb i roi cynnig ar y ryseitiau, darllen y straeon a gwerthfawrogi amrywiaeth ein gwlad.”

  • Isod gallwch ddarllen sylwadau Maggie Ogunbanwo yn Golwg adeg cyhoeddi’r llyfr.

Mudiad Bywydau Du o Bwys yn ysbrydoli llyfr coginio

Sian Williams

Mae dynes fusnes o Wynedd wedi ysgrifennu llyfr coginio llawn rysetiau gan aelodau o gymunedau lleiafrifol ethnig yng Nghymru