Yn ystod y cyfnod clo cyntaf y llynedd cafodd Myfanwy Shorey y syniad ar gyfer creu cynfasau gyda phatrwm carthenni traddodiadol Cymreig arnyn nhw.

Mae’r busnes o Gaerdydd wedi mynd o nerth i nerth a bellach wedi cael sylw yng nghylchgrawn World of Interiors…