Ei theithiau dramor sydd wedi ysbrydoli steil liwgar cyflwynydd Prynhawn Da a Heno ar S4C. Yn wreiddiol o Aberaeron, mae i’n byw yng Nghaerdydd…
Lliwiau
Dw i wastad wedi gwisgo lliwiau lliwgar. Ro’n i’n arfer bod yn athrawes ysgol gynradd ryw 20 mlynedd yn ôl, a wastad yn teimlo bod gwisgo dillad lliwgar a gemwaith yn sicr yn dal diddordeb a dychymyg y plant, a dw i’n credu bod cael rhywun yn sefyll o’u blaenau nhw yn gwisgo lliwiau’r enfys yn codi hwyl a chodi calon. A dw i’n teimlo bod yr un peth yn wir am gyflwyno. Pan ydan ni allan yn ffilmio neu beth bynnag, dw i’n sicr yn gwisgo’n lliwgar ac yn hoffi pethau allan o’r arfer. Mae yna ambell ddilledyn fi wedi prynu a ddim wedi bod yn siŵr amdano fe, ac a’i â nhw i’r gwaith ac, yn rhyfeddol, mae pobl wedi dweud: ‘O, fi’n dwli ar hwnne’.
Wnes i weithio mewn siop ddillad yn Llundain am gyfnod ddiwedd y 1990au. Dillad fel seconds oedden nhw ond, wir, doedd dim byd yn bod efo’r dillad ac roedden nhw’n gwerthu brandiau eitha’ safonol fel Karen Millen. Roedd yna gotiau a’r price tag dal yn dweud £250 ac roedden nhw yn y siop am ryw £30. Mi wnes i brynu rhyw dair cot Karen Millen, achos oedd e’n gyfle rhy dda, a dw i wedi cadw rhai. Mae gen i got goch sy’n biwtiffwl ges i o Hobbs yn y sêl – mae dwy ffordd i wisgo’r coler ac mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn, yn enwedig os oes angen ffilmio achlysuron lle mae angen edrych yn smart.
Ffrogiau a throwsus dw i yn licio fwyaf – mae mwy o hwyl a mwy o sgôp efo pethau fel yna. Pan o’n i’n cyflwyno’r tywydd ro’n i’n gwisgo ffrogiau mwy ceidwadol, ond o ran fy steil erbyn hyn dw i’n licio ffrogiau blodeuog, boho chic.
Teithio
Dw i’n licio siopa wrth deithio dramor achos fi’n licio cael pethau gwahanol. Dw i wedi teithio i lefydd gwahanol a wnes i dreulio peth amser yn India. Roedd fy chwaer yn byw yna am ryw ddwy flynedd ac fe ges i ddillad wedi’u gwneud i fi ac roedden nhw wedi’u gwneud i safon uchel.
Mae teulu fy mrawd-yng-nghyfraith yn wreiddiol o India, ond wedi byw yn Llundain ers dros hanner can mlynedd bellach. Pan maen nhw’n mynd i India maen nhw’n dod ’nôl ag anrhegion, ac mae gen i pashmina shawl o Delhi. Mae e mor drwm, a du yw’r lliw, ond pan rydych chi’n edrych yn fanwl mae yna batrwm fel blodau a sequins bach disglair ac mae wedi cael tipyn o ddefnydd. Mae gen i sari hefyd dw i’n gwisgo ar gyfer achlysuron arbennig. Wnes i ei gwisgo i gyfweld â gor-ŵyr Mahatma Ghandi pan oedd India yn nodi 70 mlynedd o annibyniaeth, a cherflun wedi’i godi i gofio am Mahatma ym Mae Caerdydd. Dw i wrth fy modd yn mynd i gyfandir Ewrop, ac mae gen i ffrog wnes i brynu yn Cadiz, yn ne Sbaen, a bob tro dw i’n gwisgo hi ar Pnawn Da mae lot o bobl yn dweud: ‘O, fi’n licio hon’. Ffrog o India yw hi ac mae lliwiau cyfoethog fel coch, oren, ac aur ac mae’n bert iawn. Ac mae gen i gwpl o bethau efo printiau Affricanaidd – es i i Affrica rai blynyddoedd yn ôl dros yr haf ac mae gen i got sy’n bold iawn, gyda lliwiau gwyrdd a choch. A dim ond pan wnes i ddod â hi adre wnes i sylweddoli bod hi’n ddelfrydol i wisgo i gemau pêl-droed a rygbi Cymru, felly dw i wedi cael lot o ddefnydd ohoni yn cefnogi Cymru. Wnes i wisgo honna i gyfweld â Warren Gatland a rhai o dîm Cymru yn y seremoni dathlu’r Gamp Lawn yn 2019.
A dw i yn ffan o’r animal prints. Mae gen i blazer print anifail – mae’n un o’r rheiny, os nag ydw i’n siŵr beth i wisgo, fi’n rhoi hwnna arno – mae’n mynd efo jîns, sgert hir, trowsus du, ac mae rhywbeth modern a llawn hwyl am brintiau anifeiliaid. Mae’n neis cael hwyl efo dillad.
Sgidie pinc
Mae gen i lot o esgidiau ac mi wna i wisgo stilettos drwy’r amser wrth gyflwyno. Mae gen i rai eitha’ lliwgar, a rhai reit whacky efo bob lliw dan haul arnyn nhw. Fi’n teimlo os chi’n gwisgo esgid lliw, mae pobl yn siŵr o edrych lawr a meddwl ‘ww sgidiau pert!’. Dw i’n credu fy hoff rai yw’r rhai pinc golau o Dune a dw i’n gwisgo nhw’n eithaf aml i gyflwyno.
‘Edrych fel Madonna’
Ro’n i wedi arbrofi gyda fy ngwallt pan o’n i’n ifancach ond ges i bach o hunlle yn y siop trin gwallt unwaith. Dw i’n cofio gadael y siop a meddwl ‘beth ar y ddaear sydd wedi digwydd i fy ngwallt?’. O’n i’n edrych fel Madonna efo gwallt peroxide blonde. Oherwydd hynna wnes i dorri fy ngwallt yn fyr wedyn achos o’n i methu diodde’ fe, a newid y lliw i fwy o frown golau a blond. Dw i wedi sticio i’r highlights blonde ers blynyddoedd ond, yn ystod y clo pan o’n i methu mynd i’r salon, wnes i adael fy ngwallt i dyfu. Mae gen i wallt brown golau yn naturiol ac ers cwpl o fisoedd dw i ddim wedi mynd mor blond ag o’n i’n arfer bod. Fi’n lwcus iawn yn fy ngwaith achos bob tro dw i’n cyflwyno yn y stiwdio mae’r fenyw colur yn gwneud gwyrthiau, a dw i yn licio pan mae hi’n rhoi ychydig o gwrl i fy ngwallt, achos dw i’n anobeithiol yn gwneud e fy hunan. Mae hi’n dueddol o arbrofi efo’r colur hefyd, ond dw i’n tueddu i fynd at yr un lliw. Yn y gwaith mae gan bob cyflwynydd ei fasged ei hun i gadw colur ac mae llai o golur ’da fi o’i gymharu ag Owain Gwynedd, Alun Williams, Daf Wyn a Rhodri Owen!
Aur y byd
Dw i’n licio pethau lliwgar ac wrth fy modd gyda modrwyau cerrig. Yr un mwya’ sydd gen i ydy un Labradorite, ac mae gen i rai fel turquoise a rose quartz. Mae gen i fwclis efo cerrig a ga’th fy chwaer set hyfryd i fi o India, ac mae gen i fwclis aur gyda fy enw yn Arabeg oedd yn anrheg gan fy nghyfnither. Mae gen i fodrwy dw i’n trysori hefyd oedd yn fodrwy briodas gan fy hen fodryb, ac mae’n rhaid bod ein bysedd yn union yr un maint achos mae’n ffitio’n dwt. A dw i hefyd wedi cael pethau hyfryd gan fy mhartner – ges i emwaith o Seland Newydd roedd e wedi trefnu fel anrheg i fi achos mae’n gwybod bo fi eisiau dychwelyd yno rywbryd!
Mae fy chwaer yn gweithio i elusen sy’n cydlynu’r gwaith o ddod o hyd i gartrefi i ffoaduriaid ac mae rhai ohonyn nhw yn gwneud bagiau hyfryd. Dw i’n defnyddio’r bagiau hyn i gadw gemwaith yn sâff.