Yn dilyn llwyddiant y rhaglen Drych: Bois y Rhondda tua blwyddyn a hanner yn ôl, mae cyfres newydd yn cychwyn heno sy’n dilyn criw o ddynion ifanc o’r Cymoedd, gan edrych ar sut mae eu bywydau wedi newid yn ystod y cyfnod covid.

Yn y rhaglen gyntaf, roedd y ffrindiau Wil (Sgwil), Tarian (Taz), Derek (Dez), Cian (Murph), Cole, a’r brodyr Steff (Veck) a Daf, yn ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Cwm Rhondda. Bellach mae rhai wedi gadael yr ysgol ac yn dilyn llwybrau newydd.