Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn bwriadu gwario £6.5 miliwn ar waith ffordd eleni.
Roedd adroddiad i’r cabinet ddydd Mawrth (21 Medi) yn awgrymu bod angen gwario’r arian ar gynlluniau ar draws y sir.
Pe bai’r cabinet yn cytuno, byddai £2 miliwn yn mynd at ffordd osgoi Llanharan i’w alluogi i barhau i’r camau nesaf, yn ogystal â £2 miliwn arall ar gyfer gwneud yr A4119 yn ffordd ddeuol mewn rhai mannau.
Dywedodd yr adroddiad bod gwaith paratoadol ar y ddau gynllun yn ganol cael eu cwblhau.
Yn ogystal, byddai £1.5 miliwn yn cael eu rhoi tuag at ffyrdd eraill, gyda gweddill yr arian yn mynd at adfer strwythurau fel pontydd a waliau.
Roedd archwiliad o gyllideb y Cyngor yn dangos bod ganddyn nhw tua £73 miliwn yn y gronfa wrth gefn ar gyfer amryw o ddibenion, sy’n cynnwys £9 miliwn yn y gronfa Seilwaith.
Byddai’r arian hynny wrth ei hun yn ddigon felly i ariannu’r holl waith eleni, yn ôl adroddiad y cabinet.