Mae academydd o Aberystwyth yn rhan o dîm fydd yn trefnu gŵyl enfawr ryngwladol ar gyfer gweithwyr sydd y tu ôl i’r llenni ym myd y ddrama.

Pensaernïaeth theatr a gofod perfformio yw arbenigedd Dr Andrew Filmer, sy’n Uwch-Ddarlithydd Theatr a Pherfformio yn Aberystwyth.

Daw’n wreiddiol o Sydney, Awstralia, ac mae wedi’i benodi i’r tîm rhyngwladol sy’n gyfrifol am arddangosfa theatr a’r grefft o greu setiau drama fwyaf y byd.