Mae cwestiynau yn cael eu gofyn am Gynllun Datblygu Lleol newydd Caerdydd a faint o gartrefi newydd sydd eu hangen yn y brifddinas.

Mae’r Cynllun Datblygu Lleol yn gyfres o bolisïau sy’n cael effaith fawr ar sut mae tir yn cael ei ddefnyddio a sut y dylai dinasoedd dyfu.

Roedd cynllun presennol Caerdydd, a gytunwyd arno yn 2016, yn rhagweld y byddai poblogaeth y ddinas yn tyfu’n sydyn, gan arwain at roi caniatâd i adeiladu miloedd o dai ar dir amaethyddol ar gyrion y ddinas.

Ond mae ystadegau gan Lywodraeth Cymru’n awgrymu y bydd y boblogaeth yn tyfu’n dipyn arafach na’r disgwyl, gan arwain at gwestiynau newydd ynghylch y cynllun newydd.

Ddiwedd Tachwedd, bydd cyngor Caerdydd yn dechrau’r cam nesaf mewn proses hir i gyfnewid ei gynllun datblygu lleol. Bydd ymgynghoriad deng wythnos yn gofyn am farn y cyhoedd am opsiynau a safleoedd strategaethol – faint o dai ddylai gael eu hadeiladu yng Nghaerdydd ac yn lle.

Arolwg

Yr haf hwn, fe wnaeth y cyngor ymgynghori ar flaenoriaethau ar gyfer y cynllun datblygu lleol newydd, gan edrych ar ba faterion sydd fwyaf pwysig i drigolion Caerdydd a sut ddylai’r polisi cynllunio lleol addasu i fynd i’r afael â’r materion hynny.

Derbyniwyd 1,215 o ymatebion i’r arolwg ar-lein ar gyfer yr ymgynghoriad cyntaf, a ddangosodd bod pobol o blaid lefel is o dai newydd, bod ffafriaeth gref at ddefnyddio safleoedd tir brown, a bod pobol eisiau mynediad gwell at fannau gwyrdd, darparu cyfleusterau cymunedol, lleihau troseddau, a llwybrau beicio da.

Yn ehangach, dangosodd canlyniadau’r arolwg y dylai’r cynllun datblygu gymryd camau i fynd i’r afael â newid hinsawdd, creu amgylcheddau iachach, a gwarchod seilwaith gwyrdd fel blaenoriaethau.

Nos Fercher, 15 Medi, holodd y gymuned a’r pwyllgor craffu ar wasanaethau oedolion benaethiaid y cyngor ynghylch y cynllun newydd.

Un mater a gododd oedd y newid mewn rhagolygon ar gyfer twf y boblogaeth.

Yn ôl papurau’r cyngor, mae hynny oherwydd llai o enedigaethau, mwy o farwolaethau, disgwyliad oes yn cynyddu’n arafach, a phobol yn symud o Gaerdydd.

Mae’r cynllun datblygu presennol yn rhagweld y byddai poblogaeth y ddinas yn tyfu i 403,684 erbyn 2026. Ond mae ystadegau mwy diweddar gan Lywodraeth Cymru’n awgrymu y byddai’n tyfu i 372,944 erbyn 2026 yn lle.

Mae’r cyngor yn adolygu’r ystadegau hyn cyn eu hymgynghoriad nesaf ym mis Tachwedd.

“Pell ohoni”

Yn ystod y cyfarfod craffu, dywedodd cadeirydd y pwyllgor, y Cynghorydd Shaun Jenkins: “Dw i’n cofio naw mlynedd ôl pan roedd y cynllun datblygu presennol yn cael ei baratoi. Roedd lot o bobol wedi syfrdanu at y rhagolygon poblogaeth, oherwydd roedden nhw’n ymddangos eu bod nhw’n fframio’n syniad ein bod ni mewn panig i ddod o hyd i dir y gallwn ni ei roi i ddatblygu adeiladu arno.

“Roedd yna lot o bobol yn meddwl bod y rhagolygon hynny’n rhy fawr, a dyma ni, naw mlynedd ymlaen ac mae’n ymddangos bod y rhagolygon yn bell ohoni.

“Wrth feddwl am y cynllun datblygu lleol presennol, a yw hynny’n golygu ein bod ni bron â bod wedi dyrannu digon o dir yn y cynllun presennol fel y byddwn ni wrth fynd ymlaen, gyda’r cynllun newydd, yn meddwl llai am ba dir i adeiladu arno a mwy am y manylion?”

Fe wnaeth Simon Gilbert, pennaeth cynllunio, wadu bod y rhagolygon blaenorol yn anghywir ac esbonio bod adolygu’r cynllun datblygu yn gyfle i’w ddiweddaru ag ystadegau mwy cywir.

Meddai: “Rydyn ni’n gweld y tueddiad yn gostwng. Felly roedd y rhagolygon poblogaeth ar y pryd yn uchel, a nawr maen nhw’n llai uchel. Dydi hynny ddim yn golygu eu bod nhw’n anghywir, maen nhw’n golygu mai dyna oedd y rhagolygon ar y pryd pan wnaethon ni baratoi’r cynllun. Dyna pam ein bod ni’n adolygu’r cynllun bob pedair blynedd a chynhyrchu adroddiadau monitro blynyddol hefyd.

“Mae hwn yn gyfle yn y rownd nesaf o ymgynghori – sy’n dechrau ddiwedd Tachwedd eleni – i ystyried y strategaeth ar gyfer twf, er mwyn gwneud siŵr bod y cynllun yn cyd-fynd â monitro mwy diweddar. Mae’r adolygiad yn gyfle da i ni sicrhau bod gennym ni’r mathau a’r nifer cywir o dir ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol, pe bai angen.”

“Dim digon o dai newydd”

Dywedodd Andrew Gregory, cyfarwyddwr cynllunio, trafnidiaeth a’r amgylchedd, y gallai rhagolygon poblogaeth Llywodraeth Cymru fod yn “danamcangyfrif”. Ychwanegodd y gallai’r cydbwysedd arwain at adeiladu mwy ar safleoedd tir brown yn hytrach na thir gwyrdd, gan fod miloedd o dai wedi cael caniatâd o gwmpas Caerdydd ers i’r cynllun presennol gael ei arwyddo.

Dywedodd: “Gallwch ddweud bod y cynllun blaenorol yn oramcangyfrif. Gallwch chi ddweud am yr ystadegau presennol mae Llywodraeth Cymru eu rhoi i ni, bod yna ddim ansicrwydd eu bod nhw ddim yn danamcangyfrif. Ar y cyfan, mae’n rhaid trio dod o hyd i dir canol.

“Mae’n ymwneud â chael cydbwysedd rhwng safleoedd brown a gwyrdd. Mae yna rai prosiectau safleoedd brown cyffroes yn dod yn eu blaenau, ond dydi hynny ddim yn golygu nad yw prosiectau safleoedd gwyrdd dal yn hanfodol i Gaerdydd wrth symud ymlaen.

“Gallai’r ffaith na chafodd unrhyw dai newydd eu hadeiladu, oherwydd bod gennym ni ychydig iawn o dir, fod yn rheswm pam bod pobol yn symud allan, a symud i Gasnewydd ac awdurdodau o’n cwmpas. Roedd pobol yn symud allan o’r ddinas. A doedd hynny ddim oherwydd unrhyw broblemau gyda Chaerdydd, yn syml doedd dim digon o dai newydd.

“Un o’r manteision yn y gwaith caib a rhaw gafodd ei wneud gan y cynllun datblygu lleol diwethaf yw bod yna fwy o dai ar eu ffordd nawr. Mae hi wedi cymryd nifer o flynyddoedd i ddechrau adeiladu ar y safleoedd hynny, ond maen nhw’n dechrau cynhyrchu cymunedau cynaliadwy, o safon uchel gyda lot o dai. Dylai hyn newid y cydbwysedd.”

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus nesaf yn dechrau ddiwedd Tachwedd, ac ar agor nes Chwefror flwyddyn nesaf. Bydd yn caniatáu adborth ar safleoedd arfaethedig sydd wedi’u cynnig i’r cyngor ar gyfer datblygu tai newydd arnyn nhw, ac adborth ynghylch faint o dai sydd angen ar y ddinas nes 2036.

Wedi hynny, bydd ymgynghoriad yn dechrau fis Hydref flwyddyn nesaf ar ‘hoff strategaeth’ y cyngor, ac yna ymgynghoriad yn Hydref 2023, ar y ‘cynllun blaendal’. Ym Mawrth 2024, bydd y cyngor yn rhoi eu cynllun datblygu i Lywodraeth Cymru ei gymeradwyo.

Dylai’r cynllun terfynol gael ei arwyddo gan y cyngor yn Hydref 2024.