Stori tai preswyl yn cipio gwobr ‘Stori Leol y Flwyddyn’ yng ngwobrau Bro

Mae’r stori o fis Chwefror 2021 yn trafod y gwrthwynebiad ar lawr gwlad yn Aberystwyth i gais cynllunio i adeiladu tai preswyl

Enillydd ‘Blog Byw y Flwyddyn’ yw Marchnad Ffermwyr Aberystwyth, gan Enfys Medi

Dyma’r ail o Wobrau Bro360 i gael eu cyhoeddi heddiw (dydd Gwener, 28 Ionawr)

Gwrthwynebiad chwyrn i gynlluniau i blannu coed yn Sir Gâr yn arwain at dro pedol

Mae’n debyg bod cwmni sydd wedi’i gofrestru yn Llundain wedi bwriadu plannu cannoedd o goed anfrodorol ar dir fferm yng Nghwrt-y-cadno

Lansio holiadur i fesur potensial menter Bro360

Mae nifer o gymunedau wedi mynegi diddordeb yn ymuno â’r rhwydwaith, sydd eisoes yn cynnwys wyth gwefan leol
Edrych i fyny ar y swyddfeydd ar gyrion Aberaeron

Cyngor Sir Ceredigion yn hysbysu trigolion am gynllun i ostwng treth y cyngor

Katy Jenkins, Gohebydd Democratiaeth Leol

“Dydy llawer o’r henoed ddim yn gwybod am y rhyddhad hwn ac mae costau byw bellach yn broblem fawr,” meddai’r Cynghorydd Lyndon Lloyd

Gwaith bron â chael ei gwblhau ar ganolfan gymunedol Pwllheli

Bydd Neuadd Dwyfor ar ei newydd wedd yn cynnwys ystafelloedd cyfarfod a gofodau aml-bwrpas i drigolion lleol

Cyfleusterau hamdden Ceredigion i ailagor yr wythnos nesaf

Er hynny, bydd nifer o gyfyngiadau yn parhau i fod ar waith, gyda’r Cyngor yn rhybuddio “nad yw’r coronafeirws wedi diflannu”

Cyd-bwyllgor newydd canolbarth Cymru yn cyfarfod am y tro cyntaf

“Rydym yn edrych ymlaen at weithio’n agos gyda’n gilydd er budd ein trigolion a’n busnesau,” medd y cadeirydd newydd, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn 

Codi miloedd o bunnoedd i elusen iechyd meddwl ffermwyr

Mae’r digwyddiadau ym Mhen Llŷn eisoes wedi llwyddo i godi £3,000, gyda rhan helaeth o’r arian yn mynd i’r elusen Sefydliad DPJ

Gwobr arbennig i raglen newydd sy’n addysgu pobol am fywyd gwyllt

Derbyniodd Grŵp Bywyd Gwyllt Penparcau wobr o £1,000 ar gyfer eu teithiau cerdded arbenigol, a fydd yn cael eu cynnal drwy gydol 2022