Mae rhaglen arloesol yng Ngheredigion wedi ennill gwobr arbennig a £1,000 am godi ymwybyddiaeth am fywyd gwyllt.

Daeth Grŵp Bywyd Gwyllt Penparcau yn fuddugol yng nghystadleuaeth Ti Bia’r Biosffer ar ôl cyflwyno cysyniad am deithiau cerdded sy’n cyfuno addysg am fioamrywiaeth gyda’r mwynhad hamddenol o fywyd gwyllt.

Yn cael ei threfnu gan gwmni Menter a Busnes, cafodd y gystadleuaeth ei lansio yn ystod Hydref y llynedd fel rhan o brosiect Biosffer Dyfi, er mwyn annog grwpiau, sefydliadau a busnesau i gyflwyno prosiectau a fyddai’n dathlu ac yn arddangos egwyddorion y Biosffer.

Penderfynodd y beirniaid mai’r grŵp o Aberystwyth oedd yr enillwyr teilwng, felly byddan nhw nawr yn rhoi eu cysyniad ar waith, gyda theithiau cerdded mewn sawl lleoliad i’w cynnal yn 2022.

‘Falch iawn i dderbyn y wobr’

Roedd arweinydd y prosiect, Chloe Griffiths, yn pwysleisio y byddan nhw’n addasu digwyddiadau ar gyfer y tymhorau, ac ar gyfer testunau gwahanol, fel adar gwyllt, yr amgylchedd, blodau gwyllt, ac ati.

“Ein syniad syfrdanol ni yw annog pobol nid yn unig i ymuno â’n gweithgareddau rhad ac am ddim, ond hefyd i gadw eu cofnodion eu hunain o fywyd gwyllt o’u gerddi a’u bröydd eu hunain o fewn ardal Biosffer Dyfi,” meddai.

“Rydym yn falch iawn i dderbyn y wobr hon, a bydd y £1,000 yn ein helpu ni i sicrhau bod cenhedlaeth newydd o bobol sy’n caru natur yn meddu ar y sgiliau i adnabod, cofnodi ac amddiffyn y rhyfeddodau bywyd gwyllt ac amgylcheddol sy’n eu hamgylchynu.”

‘Enillwyr haeddiannol iawn’

Fe wnaeth Sian Tandy o gwmni datblygu economaidd Menter a Busnes longyfarch Grŵp Bywyd Gwyllt Penparcau ar eu gwobr.

“Yn syml, mae’r prosiect hwn yn ymwneud ag annog preswylwyr ac ymwelwyr o bob oedran i ymgysylltu â’r byd natur mewn ffordd sy’n dathlu bioamrywiaeth leol ac yn gwneud cyfraniad positif tuag at ddiogelu’r amgylchedd naturiol,” meddai.

“Mae Grŵp Bywyd Gwyllt Penparcau, sydd wedi’i gynnal gan Fforwm Cymuned Penparcau, yn enillwyr haeddiannol iawn. Mae’r grŵp yn cynnwys gwirfoddolwyr sy’n cynrychioli ystod eang o gefndiroedd ethnig ac yn meddu ar sgiliau gwahanol.

“Mae gan y rhaglen y maent yn ei chynllunio rywbeth i apelio at bob grŵp oedran, o blant ifanc iawn sy’n naturiol o chwilfrydig am yr awyr agored, i bobol sydd efallai wedi ymddeol neu’n cael trafferth symud, ond sydd yn dal i fod yn awyddus i fynd y tu allan a mwynhau’r ystod ardderchog o adnoddau naturiol, treftadaeth a bywyd gwyllt yr ydym ni mor ffodus i’w chael o’n hamgylch ni ledled Cymru ac yn enwedig o fewn ardal Biosffer Dyfi.”