Mae digwyddiadau sydd wedi eu trefnu gan Undeb Amaethwyr Cymru yng Ngwynedd wedi llwyddo i godi miloedd o bunnoedd at elusen.

Dros y misoedd diwethaf, mae tri brecwast wedi cael eu cynnal mewn lleoliadau gwahanol ym Mhen Llŷn, sef Siop Fferm Abersoch, Fferm Bryn Hynog, a Chaffi Anne ym Mryncir.

Fe wnaeth nifer o ffermydd a busnesau bwyd a diod ledled gogledd Cymru ddarparu cynnyrch ar gyfer creu’r brecwastau arbennig, ac fe wnaeth nifer o drigolion o’r cymunedau lleol ddangos eu cefnogaeth i’r digwyddiad, gyda £3,000 wedi ei godi eisoes.

Bydd cryn dipyn o’r arian sydd wedi ei godi yn mynd tuag at elusen iechyd meddwl Sefydliad DPJ, ac fe fydd cyfran yn mynd tuag at Gronfa Eisteddfod Genedlaethol Llyn ac Eifionydd 2023 hefyd.

‘Ymdrechion ardderchog’

Fe ddiolchodd John Hughes, Cadeirydd Undeb Amaethwyr Cymru yn Sir Gaernarfon, yr holl unigolion a gymrodd ran yn y digwyddiadau.

“Unwaith eto mae’n rhaid diolch i’r gwragedd fferm, eu teuluoedd a’u ffrindiau am ddarparu brecwastau bendigedig gan ddefnyddio cynnyrch lleol,” meddai.

“Diolchwn i Sion a Delyth Edwards, Dylan a Jackie Williams ac Anne Franz a’u timau gweithgar am eu hymdrechion ardderchog sydd wedi codi gymaint o arian at elusen Llywydd yr Undeb sef Sefydliad DPJ a hefyd tuag at Gronfa Coron Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023.

“Yn ogystal hoffwn ddiolch i’r holl fusnesau lleol isod am eu cefnogaeth a rhoddion amhrisiadwy, a hefyd i bawb a fynychodd y tri digwyddiad, heb eu cyfraniad hwy byddai wedi bod yn amhosib casglu swm mor anrhydeddus.”