Mae cynghorwyr yng Ngheredigion yn dymuno atgoffa trigolion bod cefnogaeth ariannol ar gael iddyn nhw drwy gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor.

Roedd rhai ohonyn nhw yn pryderu am yr holl aelwydydd sydd o dan bwysau ariannol oherwydd yr argyfwng costau byw presennol.

Gall trigolion ymgeisio am ostyngiad yn nhreth y cyngor os ydyn nhw ar incwm isel, yn ddi-waith, yn methu â gweithio oherwydd salwch, wedi ymddeol neu os ydyn nhw’n gofalu am rywun.

Mae’r cynllun gan fwyaf yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac yn cael ei weinyddu gan Gyngor Sir Ceredigion, gyda chyllid o £6.632m wedi ei ddarparu i’r awdurdod y llynedd.

Bydd rhaid i’r Cyngor gytuno ar fanylion y fenter ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, erbyn Ionawr 31.

‘Llawer o deuluoedd dan bwysau mawr’

Yn ystod cyfarfod llawn y Cyngor heddiw (dydd Iau, Ionawr 27), roedd y Cynghorydd Lyndon Lloyd, sy’n cynrychioli ward Beulah, yn teimlo nad yw’r cynllun yn ddigon hysbys i drigolion y sir.

“Dydy llawer o’r henoed ddim yn gwybod am y rhyddhad hwn ac mae costau byw bellach yn broblem fawr,” meddai.

Mae’r Cynghorydd Keith Evans, sy’n cynrychioli Ward Tref Llandysul, hefyd yn pryderu bod “llawer o deuluoedd o dan bwysau mawr”.

Cytunodd yr arweinydd, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, ei bod hi’n “bwysig i ni gael y neges allan yna bod cefnogaeth ar gael i bobol”.

Fe wnaeth y Cyngor gytuno i barhau â threfniadau presennol y cynll6un ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, heblaw am un argymhelliad.

Ar hyn o bryd, mae gan drigolion sy’n derbyn gostyngiadau, ond yna’n ailddechrau gweithio, bedair wythnos cyn bod rhaid iddyn nhw ddechrau talu trethi’n llawn unwaith eto.

Daeth awgrym gan gynghorwyr i gynyddu’r amser hwnnw, ac fe fydd y pwyllgor craffu yn archwilio hynny maes o law.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Cyngor, ceredigion.gov.uk, neu drwy linell Clic ar 01545 570881.