Enillydd y categori Blog Byw y Flwyddyn yng Ngwobrau Bro360 eleni yw Marchnad Ffermwyr Aberystwyth.
Daeth y blog buddugol â’r diweddaraf o’r farchnad ar ddydd Sadwrn cyntaf mis Rhagfyr, a hynny’n fyw drwy gydol y dydd ar wefan BroAber360.
Roedd awdur y blog byw, Enfys Medi, yn enillydd teilwng, yn llygaid y beirniaid, am ei chynnwys amrywiol, gan gynnwys cyfweliadau â stondinwyr, yn ogystal â lluniau a fideos o bigion gorau’r farchnad.
Gallwch gael cip ar flog buddugol Enfys ar wefan BroAber360.
Enwebiadau eraill
Yr enwebiadau eraill ar gyfer gwobr ‘Blog Byw y Flwyddyn’ oedd:
-
Sioe Tregaron, gan Enfys Hatcher Davies ar wefan Caron360
- Gwersyll Haf Rygbi’r Cofis, gan Hannah Hughes ar wefan Caernarfon360
- Blog byw o JENGYD, gan Enfys Hatcher Davies ar wefan Caron360
- ‘Steddfod CFfI Ceredigion, gan Elliw Dafydd ar Clonc360
Llongyfarchiadau i bob un ohonoch!
Gweddill y gwobrau
Cofiwch gadw llygad a chlust allan am yr wyth Gwobr Bro360 sydd eto i ddod heddiw (dydd Gwener, Ionawr 28).
Yn eu plith mae’r wobr ‘Stori Gwneud Gwahaniaeth’, a fydd yn cael ei gyhoeddi ar donfeddi cenedlaethol BBC Radio Cymru a rhaglen Bore Cothi am 11yb, yn ogystal â gwobr ‘Gŵyl Bro y Flwyddyn’, a fydd yn cael ei gyhoeddi ar raglen Heno ar S4C am 7yh.
Tiwniwch mewn i Radio Ysbyty Gwynedd am 10yb i gael gwybod pwy fydd ‘Gwasanaeth Lleol y Flwyddyn,’ a Radio Aber am 3yh i glywed pwy sy’n haeddu ‘Cyfres Straeon y Flwyddyn’.
Ar ben hynny, fe fydd gwobrau’n cael eu cyhoeddi drwy gydol y dydd ar dudalennau Facebook ac Instagram Bro360, yn ogystal â gwefan Golwg360.