Bydd hen dderwen mewn parc yng Ngwynedd sydd gan gysylltiadau â Llyfr Mawr y Plant yn cael ei thorri’n ôl a’i rhoi tu ôl i ffens i ddiogelu’r cyhoeddi.

Mae lle i gredu bod y goeden ym Mharc Meurig ym Methesda o leiaf 500 oed.

Fe fydd y gwaith yn cynnwys torri rywfaint ar ei chanopi a thrin canghennau sydd wedi pydru.

Roedd pryderon wedi codi y gallai rhai o’r canghennau ddisgyn a pheryglu’r cyhoedd, yn enwedig yn ystod gwyntoedd cryfion.

Mae’r goeden yn cael ei “diogelu” gan Gyngor Gwynedd ar ôl i ymchwil ganfod ei bod hi mewn “cyflwr gwael iawn”.

Daeth y sefyllfa i’r amlwg wrth i waith gael ei wneud i wella’r amgylchedd lleol a’r adnoddau sydd ar gael i’r gymuned.

Mae’r gwaith i wella’r ardal yn cynnwys plannu coed brodorol, clirio rhywogaethau estron, gosod meinciau a chyfleusterau hamdden, trwsio waliau cerrig a gwneud gwell defnydd o’r hen gwrt tenis.

‘Perygl gwirioneddol’

Dywed Jack Walmsley, swyddog bioamrywiaeth Cyngor Gwynedd, ei bod hi wedi dod i’r amlwg, wrth iddyn nhw archwilio coed Parc Meurig, fod rhan fawr o’r goeden wedi pydru.

“Ar ôl i arbenigwr mewnol ymchwilio’n fanylach, daethon nhw i’r canlyniad fod yna haint fungaidd wedi ymledu drwy strwythur y goeden, ac y gallai hynny achosi pydredd pellach a chreu difrod mawr i’w bôn.

“Mae hynny’n golygu bod yna beryg gwirioneddol y gallai’r canghennau ddisgyn a brifo rhywun neu achosi mwy o ddifrod strwythurol, yn enwedig mewn gwyntoedd cryfion a thywydd gaeafol.

“Rydyn ni’n amcangyfrif y gallai’r goeden hardd hon fod tua 500 oed.

“Rydyn ni wedi siarad â nifer o bobol leol, ac mae pawb yn deall y sefyllfa – does neb eisiau colli’r goeden, a dydyn ni ddim eisiau gweld neb yn cael eu brifo gan ganghennau.”

‘Stad druenus’

Bydd rhan o’r parc yn cael ei gau er mwyn atal pobol rhag cerdded o dan ganghennau’r coed.

Ynghyd â hynny, bydd ei chanopi’n cael ei leihau drwy dorri rhai canghennau, a’r gobaith yw y bydd hyn yn gwella siawns y goeden i wella.

Siôn Blewyn Coch oedd un o gymeriadau Llyfr Mawr y Plant

“Mae Parc Meurig yn ased cymunedol pwysig i Ddyffryn Ogwen,” meddai’r Cynghorydd Dafydd Meurig, aelod cabinet ar gyfer yr adran amgylcheddol.

“Mae gan yr ardal gysylltiadau â Llyfr Mawr y Plant – casgliad o straeon plant sydd o bwys diwylliannol mawr i Gymru – a dw i’n siŵr fod cenedlaethau o blant wedi dychmygu’r cymeriadau yn y llyfr yn byw dan ganghennau coed derw Parc Meurig.

“Mae ymchwil ein swyddogion wedi datgelu stad druenus y goeden ac mae gwaith manwl yn cael ei wneud er mwyn cael cydbwysedd rhwng amddiffyn y goeden, amddiffyn cynefinoedd bywyd gwyllt, a chadw’r cyhoedd yn saff.

“Dydyn ni ddim yn cymryd unrhyw benderfyniad yn ysgafn, a fydd y goeden bendant ddim yn cael ei thorri.

“Mae’n bwysig cofio fod y parc yn boblogaidd iawn.

“Mae yna lwybr prysur yn pasio dan y canghennau ac mae nifer o blant yn dod yma i chwarae, felly mae hi’n hollbwysig ein bod ni’n gwneud popeth posib i ddiogelu pawb sy’n ymweld.”