Mae gwefan gymunedol Clonc360, sy’n rhan o rwydwaith cwmni Golwg, wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Newyddiaduraeth Gymunedol y Flwyddyn yng Ngwobrau Cyfryngau Cymru.

Byddan nhw’n cystadlu yn erbyn y Caerphilly Observer a Cwmbran Life.

Dywed y tîm eu bod nhw ar ben eu digon, gan ddweud eu bod nhw’n darparu newyddion caled i’r ardal leol.

Yn ôl Ifan Meredith, sy’n ohebydd gyda’r wefan, mae newyddion cymunedol yn “hynod bwysig”.

Dywed fod y diolch am yr enwebiad, sy’n “destun balchder”, i’r cyfranwyr a’r gwirfoddolwyr sy’n ymwneud â’r wefan fro.

“Roedden wedi rhoi cais mewn am y wobr oherwydd ein bod wedi derbyn hysbyseb i Clonc,” meddai wrth golwg360.

“Rhoddon ni gais mewn dechrau’r haf, ym mis Gorffennaf.

“Cawsom y newyddion mis yma, mis Medi, bod Clonc wedi cael ei rhoi ar y rhestr fer.

“O beth rwy’n deall, beirniaid sy’n dewis y gwahanol rai.

“Mae’n fraint ac yn anrhydedd i ni fod ar y rhestr fer oherwydd rydyn ni wedi sefydlu ers 2015, rwy’n meddwl, ac wedi bod yn rhan o gynllun Bro360 ers y dechrau.

“Mae gallu cael cydnabyddiaeth o fod ar y rhestr fer yn fraint a thestun balchder i ni fel gwefan fro.”

Pwysigrwydd newyddiaduriaeth gymunedol

Yn ôl Ifan Meredith, yn aml daw’r straeon gorau oddi ar lawr gwlad.

“Rydyn ni fel gwefan fro Clonc360 yn falch i allu darparu’r gwasanaeth unigryw yma ar gyfer pobol leol,” meddai.

“Mae e’n newyddion lleol gan y bobol i’r bobol.

“Mae’r newyddion caled sy’n dod ma’s ar wefan bro Clonc jest â bod yn gallu bod o’r safon gorau, i ni gael y wybodaeth o beth sy’n digwydd yn yr ardal leol allan i’r darllenwyr a’r bobol leol.”

Diolchiadau a llwyddiant

Gyda nifer y straeon sydd eisoes wedi’u cyhoeddi ar y wefan yn y miloedd, mae’r diolch i’r bobol leol sy’n helpu, yn ôl Ifan Meredith.

“Hoffwn ddiolch i’r holl gyfranogwyr a gwirfoddolwyr sy’n sicrhau bod y wefan yn cael ei redeg,” meddai.

“Mae Clonc newydd gyrraedd 2,000 o straeon ar y wefan ers ei sefydlu hi.

“Mae honno eto yn garreg filltir wych.

“Hoffwn i ddiolch i bob un sydd wedi cyfrannu, ac sydd dal i gyfrannu i sicrhau bod y wefan yn mynd o nerth i nerth.”

Llwyfannu Gwobrau Cyfryngau Cymru

Yn ôl Christine Warwick, cadeirydd Elusen y Newyddiadurwyr, bydd y noson yn dathlu’r “goreuon ym myd newyddiaduraeth Cymru”.

“Bu nifer fawr o geisiadau, ac anodd fydd y dewis i’r beirniaid yn y noson hamddenol,” meddai Christine Warwick.

“Mae’r Elusen Newyddiadurwyr yn falch o fod yn llwyfannu Gwobrau Cyfryngau Cymru eleni, gan ddathlu’r goreuon ym myd newyddiaduraeth Cymru.

“Mae’n bleser gen i gyhoeddi ein bod ni wedi derbyn mwy na 200 o geisiadau eleni – y nifer uchaf erioed.

“Mae safon y ceisiadau yn wir o safon uchel iawn – a fydd yn rhoi gwaith anodd iawn i’r beirniaid pan ddaw hi i lawr i ddewis yr enillwyr yn y pen draw.

“Rydym yn edrych ymlaen at noson bleserus o ddathlu yng nghwmni cydweithwyr a ffrindiau o bob rhan o’r diwydiant ac, wrth gwrs, ein noddwyr ffyddlon – ni fyddai’r gwobrau’n bosibl heb eu cefnogaeth.”

Mae cinio’r Gwobrau sy’n dathlu talent a sgiliau gweithwyr proffesiynol gorau Cymru yn y cyfryngau yn cael ei gynnal yng Ngwesty’r Parkgate yng Nghaerdydd nos Wener, Tachwedd 10.

Bydd enillwyr pob categori yn cael eu cyhoeddi ar y noson.