Bydd sesiwn ioga i blant ifanc a rhieni wedi’i hysbrydoli gan chwedl Blodeuwedd yn cael ei chynnal ym Mhenygroes ddydd Sadwrn (Gorffennaf 15).
Yr Orsaf, hwb cymunedol yn Nyffryn Nantlle, sy’n trefnu’r digwyddiad, fydd yn cael ei arwain gan yr athrawes ioga Leri Foxhall.
Mae Leri Foxhall sy’n wreiddiol o Fodorgan ar Ynys Môn ond bellach wedi ymgartrefu ym Mhenygroes yn Nyffryn Nantlle hefyd yn gwneud sesiynau yoga i fabis, tylino babi, dysgu yoga ar gyfer merched beichiog a merched sydd wedi cael babi ac yn mynd o gwmpas ysgolion yn dysgu yoga, a dros yr haf bydd yn cynnal yoga i blant.
Yn ôl Leri Foxhall mae ioga a’r thema o chwedl Blodeuwedd yn gweddu ei gilydd yn berffaith.
Reodd gofyn i’r sesiwn gael ei seilio ar yr ardal, a phenderfynodd Leri Foxhall a’r Orsaf y byddai canolbwyntio ar stori Blodeuwedd yn cyd-fynd yn dda â symudiadau ioga.
Bydd Gwenllian Spink o’r Orsaf yn gwneud gwaith celf yn rhan o’r sesiwn hefyd.
“Mae yna lawer o sôn am y dirwedd naturiol, y mynyddoedd sydd o gwmpas, y blodau, llawer o dyfiant,” meddai Leri Foxhall wrth golwg360.
“Mae hynna’n ffitio’n dda, y thema o gylch bywyd planhigyn a rhyw bethau fel yna.”
“Rhyngweithiad rhwng rhiant a phlentyn”
Y berthynas rhwng plentyn a rhiant sydd wrth wraidd y sesiwn ioga.
“Dwi’n meddwl efo rhieni a phlant mae’r ioga yn rhyngweithiad rhwng y rhiant a’r plentyn, y cysylltiad maen nhw’n ei greu, bod nhw’n gallu ymlacio efo’i gilydd, bod nhw’n gallu gwneud gweithgaredd sydd o fudd i’r ddau ohonyn nhw,” meddai.
“Dwi ’n meddwl ei fod yn rhywbeth lle rydych yn uno’r rhiant a’r plentyn.”
Bydd y sesiwn yn cael ei chynnal yn Neuadd Goffa Penygroes am 9yb, ac mae gofyn cysylltu â gwenllian.yrorsaf@gmail.com i gadw lle.