Mae perchnogion fferyllfa Llanberis wedi cadarnhau eu bod nhw’n cau gan nad oes digon o bobol yn ei defnyddio bellach.
Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd cynghorydd sir y pentref, Kim Jones, ei bod hi’n bryderus eu bod nhw’n bwriadu cau ym mis Medi.
Mae Rowlands Pharmacy, sy’n rhedeg y fferyllfa, wedi dweud wrth golwg360 eu bod nhw wedi methu dod o hyd i berchnogion newydd i gymryd y contract ar gyfer y fferyllfa.
Dywedodd llefarydd ar Rowlands Pharmacy eu bod nhw’n gwybod faint mae pobol yn gwerthfawrogi eu fferyllfa leol a’u bod nhw’n tristau bod y fferyllfa yn Llanberis ddim yn gynaliadwy bellach gan nad oes digon o bobol yn ei defnyddio ar gyfer eu hanghenion meddyginiaethol.
“Cyn gwneud y penderfyniad anodd hwn roedden ni wedi cael trafodaethau gyda’r Bwrdd Iechyd, sydd gan gyfrifoldeb statudol i sicrhau anghenion gofal feddyginiaethol y trigolion lleol yn cael eu cwrdd, a thrio dod o hyd i berchennog arall i gymryd contract y Fferyllfa,” meddai.
“Yn anffodus, doedden ni methu dod o hyd i unrhyw un â diddordeb.
“Byddan ni’n parhau i weithio gyda’r Bwrdd Iechyd i sicrhau bod cleifion yn cael cyngor ynglŷn â’r opsiynau amgen cyn i’r fferyllfa gau.”
Pwysau ar y feddygfa
Dywedodd Kim Jones, cynghorydd Plaid Cymru’r pentref, ei bod hi’n poeni pa mor bell y bydd rhaid i bobol yr ardal deithio i fferyllfa ar ôl iddi gau.
Yn ôl Kim Jones, byddai gofyn i bobol y pentref nôl presgripsiynau o’r feddygfa yn ychwanegu at y pwysau sydd ar y staff yno.
“Mae hi’n job cael apwyntiad mewn meddygfa rŵan achos prinder staff a phwysau gwaith arnyn nhw yn ofnadwy, dw i jyst yn meddwl pan fydd y fferyllfa’n cau mae’r pwysau ar staff y feddygfa’n mynd i fod yn ofnadwy.”
Help gan ‘bractisau meddygon teulu’
Dywedodd Adam Mackridge, Arweinydd Strategol Fferylliaeth Gymunedol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Gwnaethom dderbyn hysbysiad cau gan Rowlands Pharmacy Ltd yn Llanberis ar 30 Mehefin, 2023 a byddant yn cau ar 30 Medi, 2023.
“O dan y rheoliadau, ni chaniateir i Fwrdd Iechyd gynnal fferyllfa gymunedol. Fodd bynnag, rydym yn parhau i ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael er mwyn helpu i sicrhau hyfywdra cael fferyllfa yn y dref.
“Mae’r ardal a wasanaethir gan y fferyllfa hefyd yn cael ei gwasanaethu gan nifer o bractisau meddygon teulu sydd â hawliau dosbarthu, a fyddai’n gallu cyflenwi meddyginiaethau i’w cleifion o’u fferyllfeydd.
“Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod cleifion sy’n byw yn yr ardal yn gallu derbyn eu presgripsiynau ar ôl i’r fferyllfa gau drwy gydol yr wythnos.”
Bydd Kim Jones yn cael cyfarfod â Chyngor Gwynedd fory (Gorffennaf 11) er mwyn trio rhoi trefniadau yn eu lle.