Mae prosiect hanes llafar newydd yn Nyffryn Ogwen yn ceisio casglu atgofion a gwybodaeth am gymunedau’r Carneddau a’u perthynas â’r dirwedd.

Bydd Llesiau Lleol, sydd wedi cael ei drefnu gan Bartneriaeth Ogwen a Phartneriaeth Tirwedd y Carneddau, yn gwneud eu hymchwil drwy siarad ag aelodau o’r gymunedau.

Nod y prosiect ydy cofnodi’r profiadau a’r atgofion sydd gan bobol yn yr ardal o ffermio’r tir ar fynyddoedd y Carneddau, ynghyd â dysgu am hanesion eu cyndadau yn yr ardal.

Yn ogystal, bydd y prosiect yn cynnwys mapio enwau lleoedd gan ddefnyddio hen fapiau, lluniau, dyddiaduron a llyfrau stoc.

‘Pontio’r cenedlaethau’

Bydd y prosiect yn chwilio am bobol sydd â diddordeb mewn cymryd rhan, naill ai i gael eu cyfweld, i helpu i adnabod enwau lleoedd neu i ddweud wrthyn nhw pa elfennau o hanes llafar lleol y maen nhw’n poeni fydd yn cael eu colli.

Maen nhw hefyd yn chwilio am wirfoddolwyr i’w helpu i gofnodi a chasglu’r hanes, un ai drwy gynnal cyfweliadau neu gynorthwyo i gasglu enwau a data.

Eglura Anna o Bartneriaeth Ogwen eu bod nhw’n awyddus i bobol ifanc wirfoddol i gynnal y cyfweliadau’n benodol.

“Ryw fath o bontio’r cenedlaethau,” meddai wrth golwg360.

“Fysa fo’n brofiad da cael pobol hŷn yn dweud eu straeon, a phobol ifanc yn dysgu’n syth ganddyn nhw, yn enwedig os ydy’r bobol o gymunedau’r Carneddau.”

Hen hanesion

Mae ganddyn nhw ddiddordeb arbennig mewn siarad â phobol hŷn yn y gymdeithas, er mwyn clywed hanesion am eu cyndeidiau.

“Dw i’n meddwl mai pobol hŷn fysa’r gorau oherwydd mai nhw sydd efo llawer o’r straeon a llawer o’r hanes yn barod, pan oedden nhw’n tyfu fyny,” meddai Anna.

“Maen nhw’n hel atgofion a straeon eu hunain, a rhai gan eu neiniau a theidiau neu beth bynnag.

“Mae o mor bwysig cael y straeon yma gan yr hen bobol, nhw sydd efo’r profiad.

“Mae’n rhoi trosolwg bach o sut oedd cymuned yn byw tua chan mlynedd yn ôl, ac mae’n bwysig cadw’r straeon yma i fynd ac adnabod sut oedd ein cyndadau yn gwneud pethau.

“Faint mae’r gymuned wedi newid dros y blynyddoedd hefyd.”

Ar y funud, maen nhw wrthi’n trefnu diwrnod hyfforddiant ar gyfer gwirfoddolwyr, fydd yn digwydd yng Nghanolfan Cefnfaes fis nesaf.

Dylai unrhyw un sy’n dymuno cyfrannu neu wirfoddoli gysylltu â robyn@ogwen.org neu ffonio 01248 602131.