Mae trigolion yng Ngwynedd wedi bod yn cwyno am y gwasanaeth casglu sbwriel gan ddweud nad yw’r gwasanaeth ddigon cyson.
Mae un cynghorydd lleol yn awyddus i gael gwell darlun o’r atebion i broblemau gyda chasglu sbwriel yng Ngwynedd.
Yn ôl cynghorydd Llanwnda ger Caernarfon “dydy’r sefyllfa fel y mae ar y funud ddim digon da.”
Salwch yn y gweithlu ydy un o’r prif broblemau ar hyn o bryd, yn ôl y Cynghorydd Huw Rowlands, gan ychwanegu bod y cyngor wedi hysbysebu am ddau aelod newydd o staff i geisio mynd i’r afael â’r broblem yn Arfon.
“Dw i’n meddwl ar y funud dydy pethau yn sicr ddim yn dderbyniol, hynny i ryw raddfa oherwydd bod Cyngor Gwynedd yn ceisio gwella’r system a newid y drefn a bod yn fwy effeithiol,” meddai Huw Rowlands.
“Mae casgliadau’n cael eu methu yn aml,” meddai wrth golwg360.
“Dydyn ni ddim jyst yn sôn am bob hyn a hyn, fel mae rhywun yn gallu ei dderbyn.
“Mae’n amrywio o le i le, dw i’n meddwl ei fod yn broblem gyffredinol trwy Arfon ar hyn o bryd.”
‘Sicrhau digon o staff’
Mae gwaith ar y gweill i ddatblygu strategaeth i wella’r sefyllfa, ac ynghyd â chyflogi mwy o staff mae yna angen am offer a thechnoleg newydd, meddai Huw Rowlands.
“Dw i ar ddeall bod Cyngor Gwynedd efo ryw fath o strategaeth i wella,” meddai.
“Megis dechrau yw hynny ond rydw i’n deall ei fod am gymryd amser i’r hyn maen nhw’n ei wneud ddod drwodd a gwella’r gwasanaeth.
“Yn sicr mae yna fwy i’w wneud.”
Wrth godi’r mater gyda Chyngor Gwynedd, dywedodd adran amgylchedd Cyngor Gwynedd fod lefelau uchel o salwch a threfniadau hanesyddol yn golygu nad oedd y gwasanaeth yn gallu cynyddu’r oriau gwaith cynhyrchiol yn y gorffennol.
Darparwyd adnoddau ychwanegol i geisio goresgyn problemau, ac allan o holl awdurdodau lleol Cymru Cyngor Gwynedd wariodd y mwyaf namyn un yn 2021 a 2022 ar gasglu gwastraff o gartrefi.
“Mae angen iddyn nhw sicrhau bod y gweithlu yn mynd allan i wneud y gwaith oherwydd y broblem os dydyn nhw ddim yn mynd allan i wneud y gwaith maent yn gorfod mynd allan eto i wneud nhw, neu maen nhw’n gorfod anfon rhywun arall a dydyn nhw ddim yn adnabod y cylchdeithiau cystal â’r staff arferol, wedyn mae pethau’n cael eu colli a phethau’n mynd a’r chwâl ac mae’n peri dryswch ac mae’r system wedyn yn torri lawr,” ychwanegodd Huw Rowlands.
“Yn sicr mae angen blaenoriaethau’r broblem salwch a blaenoriaethu bod ganddyn nhw ddigon o staff.”
Trefniadau newydd ar waith
Er bod Huw Rowlands yn bryderus am y sefyllfa mae’n gwerthfawrogi bod y Cynghorydd Dafydd Meurig, sy’n arwain ar y mater yng Ngwynedd, wedi ymddiheuro ac yn gobeithio gweld newidiadau.
Er mwyn mynd i’r afael â’r trafferthion yn Arfon, mae’r Cyngor wedi “ail-werthuso ac ail-ddylunio’r gwasanaeth gan osod gweithdrefnau newydd yn eu lle”, meddai Dafydd Meurig.
“Gan weithio gyda’n tîm o staff, mae’n ymddangos bod y trefniadau newydd sydd ar waith yn sefydlu’n dda, a dylai trigolion ddechrau gweld gwelliannau yn eu casgliadau yn fuan.
“Mae dwy swydd wedi’u hysbysebu’n ddiweddar a ddylai gefnogi strwythur staffio’r casglwyr biniau gwastraff.
“Fel gyda phob proses newydd, byddem yn annog trigolion i fod yn amyneddgar wrth i’r cyfnod ymsefydlu fynd rhagddo,” eglura’r Cynghorydd Meurig.
Os nad yw’r sbwriel yn cael ei gasglu ar y diwrnod cywir, y cyngor yw i adael casgliadau allan a gwneir pob ymdrech i drefnu casgliad ar gyfer y diwrnod canlynol.
“Ar ran pawb sy’n ymwneud â’r broses, hoffwn ymddiheuro’n bersonol i drigolion sydd wedi eu heffeithio yn ddiweddar, a hoffwn ddiolch i bobol leol am eu hamynedd,” meddai’r Cynghorydd Dafydd Meurig.
“Hoffem hefyd atgoffa ein trigolion i barhau â’u hymdrechion selog i ailgylchu gwastraff, er mwyn lleihau unrhyw risgiau y gallai’r cyngor a threthdalwyr eu hwynebu pe bai cosbau ariannol yn cael eu cyflwyno pe na baem yn cyrraedd targedau Llywodraeth Cymru i leihau gwastraff tirlenwi.
“Rydym yn hyderus y byddwn yn gweld gwasanaeth yng Ngwynedd, y gall ein staff a’n trigolion, fod yn falch ohono eto.”