Mae pryder ynglŷn â dyfodol fferyllfa Llanberis, wedi iddi ddod i’r amlwg ei bod hi’n bwriadu cau fis Medi.

Er mwyn ceisio adfer y sefyllfa, mae’r cynghorydd lleol, Kim Jones, wedi bod yn rhannu deiseb gafodd ei dechrau er mwyn ceisio achub y fferyllfa Rowlands yn y pentref.

Mae Aelod Arfon o’r Senedd, Siân Gwenllian, wedi sgrifennu at Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ac yn disgwyl ateb hefyd.

‘Wir angen fferyllfa’

Y gobaith yw bydd y cyngor a’r Bwrdd Iechyd yn cefnogi’r o’r ddeiseb a bydd yr Aelod Seneddol yn gallu helpu ffeindio opsiwn arall.

“Rydym ni wedi bod yn mynd rownd y pentref yn cael llofnodion,” eglura Kim Jones, sy’n cynrychioli Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd, wrth golwg360.

“Dw i ddim yn siŵr iawn os neith helpu o ran cadw’r fferyllfa ar agor ond dw i’n gobeithio y gwneith roi ychydig bach o bwysau ar y bwrdd iechyd a’r Cyngor i bwysleisio’r angen i gael ryw fath o fferyllfa yn y pentref.

“Os wneith o ddim achub y fferyllfa, dw i’n gobeithio wneith o helpu i ddangos i bwy bynnag sydd angen ein bod ni wir angen fferyllfa yn y pentref.

“Dw i jyst yn gobeithio bydd y Cyngor a’r Bwrdd Iechyd yn gefnogol o’r ddeiseb a gobeithio gall yr Aelod Seneddol helpu ni i drio hyd yn oed cael rhywun i gymryd drosodd y fferyllfa, prynu’r adeilad neu ein bod ni’n cael rhywbeth reit sydyn sy’n effeithiol fel bod pobol yn gallu cael presgripsiynau nhw’n handi, yn ddidrafferth, yn enwedig yr hen bobol sy’n byw ar ben eu hunain.”

Pwysau ar y feddygfa

“Dw i’n teimlo reit bryderus beth sy’n mynd i ddigwydd wedyn ar ôl i’r fferyllfa gau,” ychwanegodd Kim Jones.

“Fydd hi ddim mor hawdd iddyn nhw gael eu presgripsiynau yn amlwg, ti jyst yn meddwl pa mor bell y byddan nhw’n gorfod teithio, rhai pobol yn byw ar ben eu hunain.”

Yn ôl Kim Jones fyddai gofyn i bobol y pentref nôl presgripsiynau o’r feddygfa yn ychwanegu at y pwysau sydd ar y staff yno.

“Mae hi’n job cael apwyntiad mewn meddygfa rŵan achos prinder staff a phwysau gwaith arnyn nhw yn ofnadwy, dw i jyst yn meddwl pan fydd y fferyllfa’n cau mae’r pwysau ar staff y feddygfa’n mynd i fod yn ofnadwy.”

Bydd Kim Jones yn cael cyfarfod â Chyngor Gwynedd ddydd Mawrth (Gorffennaf 11) er mwyn trio rhoi trefniadau yn eu lle.

Mae golwg360 wedi gofyn i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a Rowlands Pharmacy am ymateb.