Bydd Gŵyl Arall yn dod i ben yng Nghaernarfon dros y penwythnos, gyda sesiynau llenyddol, cerddorol, celf a sgyrsiau’n cael eu cynnal dros y dref.

Dechreuodd yr ŵyl ddydd Mercher (Gorffennaf 5) a bydd yn dod i ben ddydd Sul (Gorffennaf 9), gyda sesiwn yng nghwmni Lisa Gwilym.

Mae’r arlwy’n cynnwys sgwrs ar ein perthynas â’r mynyddoedd gyda’r hanesydd Elin Tomos, taith gerdded hanes gyda cholofnydd Golwg Rhys Mwyn, sesiwn DJio efo Endaf Roberts a ioga efo Leisa Mererid.

Caiff y digwyddiadau eu cynnal ar hyd a lled Caernarfon, gan gynnwys Llety Arall, Palas Print a Tŷ Glyndwr.

‘Defnyddio Caernarfon i gyd’

Heno (nos Wener, Gorffennaf 7), bydd Kim Hon, Tri Hwr Doeth a DJ Melys yn chwarae yn Gig Sardins yn Nhŷ Glyndŵr.

“Mae Kim Hom newydd ryddhau sengl anhygoel heddiw felly dw i’n edrych ymlaen at glywed hwnna,” meddai un o drefnwyr yr ŵyl, Chris Roberts.

“Un o’r pethau sy’n gwneud yr ŵyl yn unigryw yw ein bod yn defnyddio lleoliadau ar hyd a lled Caernarfon,” meddai Chris Roberts wrth golwg360.

“Mae’r ŵyl yn defnyddio lleoliadau sy’n cael ei defnyddio ar hyd y flwyddyn fel Palas Prints a Thŷ Glyndŵr, a hefyd rydyn ni’n defnyddio lleoliadau ychydig bach yn wahanol fel yr Aelwyd a Llety Arall i gynnal digwyddiadau.

“Mae’n neis cael defnyddio Caernarfon fel ag y mae hi.”

Mae Gŵyl Arall yn gymysgedd o ŵyl lenyddol, gerddorol, comedi a hanes, eglura Chris Roberts.

“Mae gennym sgyrsiau, darlithoedd, sesiynau ymarferol a theithiau hefyd… mae Elin Tomos yn siarad dydd Sul ac mae hi wastad yn boblogaidd.

“Mae gennym pub crawl lenyddol heno hefyd sydd wastad yn uchafbwynt a chystadleuaeth bysgio dydd Sadwrn.”