Mae angen troi un o adeiladau gwag Llywodraeth Cymru yng Nghaernarfon yn dai fforddiadwy ar frys, medd Aelod o’r Senedd yr ardal. 

Mae’r adeilad mawr yn y dref wedi bod yn wag ers dwy flynedd ar ôl i’w berchennog, Llywodraeth Cymru, symud allan ac i asiantaethau eraill orfod gadael y safle.

Yn ôl Siân Gwenllian, yr Aelod lleol o’r Senedd, byddai troi’r adeilad pum llawr yn dai yn helpu rywfaint i fynd i’r afael â’r argyfwng digartrefedd yng Ngwynedd.

Yn ôl adroddiad tai diweddaraf y Cyngor, cynyddodd lefel digartrefedd y sir gan 48% rhwng 2019-20 a 2021-22.

Dywedodd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Tai Gwynedd, ar y pryd fod 652 o bobol ddigartref ar gofnodion y Cyngor, gyda 36 o blant mewn llety gwely a brecwast.

‘Dim darpariaeth ddigonol’

Yn y Senedd yr wythnos hon, awgrymodd Siân Gwenllian, sy’n cynrychioli tref Caernarfon fel rhan o etholaeth Arfon, y gellid defnyddio’r adeilad i helpu i leddfu effeithiau’r argyfwng tai.

“Mae swyddfeydd y Llywodraeth ym Mhenrallt wedi bod yn wag ers dwy flynedd, ac mae’r cyngor ynghyd â chymdeithas dai leol yn awyddus i ddefnyddio’r adeilad i ddarparu llety dros dro i bobl sy’n cyflwyno eu hunain yn ddigartref,” meddai.

“Ym mis Mai yn unig, cyflwynodd 107 o bobol eu hunain yn ddigartref yng Ngwynedd.

“Mae’r sir yn gwario £6m ar drefniadau byw anaddas, oherwydd nad oes darpariaeth ddigonol o lety dros dro.

“Byddai lle i fwy na 30 o bobol ym Mhenrallt, safle sydd reit yng nghanol tref Caernarfon.

“Yr wythnos hon codais y mater â Rebecca Evans AS, y Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol, ac awgrymu y byddai’n ddefnydd effeithiol o adnoddau cyhoeddus i fwrw ’mlaen â’r cynllun hwn.”

Yn ei hymateb, dywedodd Rebecca Evans, Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, eu bod nhw’n dymuno gweld y safle’n cael ei hailddatblygu er mwyn darparu tai fforddiadwy i fynd i’r afael â’r argyfwng tai bresennol yn yr ardal.

Cadarnhaodd hefyd fod cyfarfod yn cael ei gynnal heddiw (dydd Llun, Mehefin 19) rhwng uwch swyddogion Llywodraeth Cymru a Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd, a’i swyddogion.