Mae dau ddysgwr o Geredigion wedi dod o hyd i nodyn dan risiau eu cartref newydd sy’n dyddio’n ôl i’r 1960au.

Cafodd y nodyn ei adael yn y gyn-swyddfa bost ym Mhontarfynach gan yr awdur a’r postfeistr, y diweddar Trefor Griffiths.

Wrth adnewyddu’r adeilad, daeth Richard a Tracy Ward, sy’n dod yn wreiddiol o Lundain, o hyd i’r nodyn sy’n dweud: ‘Rhoddwyd y papur yma yn y fan hyn gan Trefor Griffiths, Y Llythyrdy, Pontarfynach ar y degfed o Fawrth 1960. Pwy gaiff ef tybed?’

Ar ôl mynd â’r nodyn at eu tiwtor Cymraeg, Zoe Pettinger, i’w gyfieithu, fe wnaeth y dosbarth gysylltu â merch Trefor Griffiths, Nerys Hughes, sy’n byw yn Rhuthun.

Tracy a Richard Ward

‘Profiad emosiynol’

Ysgrifennodd ei thad lyfr am bobol Pontarfynach yn 1975, Hapus Dyrfa, ac mae Richard, Tracy a gweddill dosbarth dechreuwyr Dysgu Cymraeg Ceredigion-Powys-Sir Gâr yn edrych ymlaen at drio darllen y llyfr a chroesawu Nerys Hughes i’r dosbarth ryw ddydd.

‘‘Fel teulu, rydyn ni wrth ein bodd gyda’r stori,” meddai Nerys Hughes.

“Roedd gweld ysgrifen fy nhad ar y nodyn yn brofiad emosiynol ac arbennig iawn.

“Da iawn chi Richard a Tracy am fynd â’r nodyn i’r dosbarth.

“Dw i’n edrych ymlaen at sgwrsio gyda’r dosbarth am fy nhad, yr hen swyddfa bost a Phontarfynach nôl yn y 1960au.’’

‘Rhan o’r gymuned’

Symudodd Richard a Tracy Ward o Lundain i Bontarfynach ddwy flynedd yn ôl, gan ddod i’r casgliad mai dysgu Cymraeg oedd y ffordd orau o fod yn rhan o fywyd y pentref.

‘‘Ro’n i eisiau bod yn rhan o’r gymuned, felly roedd dechrau dysgu Cymraeg yn benderfyniad hawdd,” eglura Richard Ward.

“Rydyn ni nawr yn siarad Cymraeg gyda chymdogion, dw i’n ymwneud gyda’r cyngor cymuned, ac mae Tracy’n cynnal gweithdai gwnīo ac yn gweithio yn Sarah Bunton, sef y siop siocled leol.’’

’28 o ddysgwyr brwdfrydig’

Ychwanegodd eu tiwtor ei bod hi wedi bod yn fendigedig gweld y dosbarth yn dangos cymaint o ddiddordeb yn y stori.

“Dw i’n meddwl y byddai Trefor Griffiths yn falch iawn o ddeall bod y nodyn wedi cyrraedd 28 o ddysgwyr brwdfrydig ym Mhontarfynach!” meddai Zoe Pettinger.

“Dw i’n edrych ymlaen at groesawu Nerys i’r dosbarth a chlywed yr hyn sydd ganddi i’w rannu gyda ni.’’

Dosbarth dechreuwyr Pontarfynach