Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ffurfiol heddiw (dydd Llun, Mehefin 19) ar y Strategaeth Tlodi Plant diwygiedig yng Nghymru.

Mae’r strategaeth ddrafft yn ychwanegu at y buddsoddiadau sydd wedi’u gwneud dros y degawd diwethaf, yn ailffocysu nodau 2015.

Mae’r strategaeth wedi’i chreu ar y cyd â theuluoedd sydd â phrofiad bywyd o dlodi a’r sefydliadau sy’n eu cefnogi, gan gynnwys 3,300 o unigolion, gyda thros 1,400 o’r rheiny yn blant a phobol ifanc.

Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar Fedi 13.

Amcanion

Mae’r strategaeth wedi nodi pum amcan, sef:

  • lleihau costau a sicrhau bod gan deuluoedd ddigon o arian ar gyfer bwyd, gwres a diwallu eu hanghenion.
  • helpu plant, pobol ifanc a theuluoedd allan o dlodi
  • cefnogi lles teuluoedd, a sicrhau bod gan blant a phobol ifanc eu hawliau
  • sicrhau bod plant, pobol ifanc a theuluoedd yn cael eu trin ag urddas a pharch.
  • sicrhau bod popeth rydym ni’n ei wneud yn helpu gwasanaethau i weithio gyda’i gilydd yn rhanbarthol ac yn lleol.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi nodi pum blaenoriaeth i’w cyflawni ar sail pob un o’r amcanion yma.

Mae’r blaenoriaethau hyn yn seiliedig ar y pethau fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf yn ôl yr hyn mae’r Llywodraeth wedi’i glywed gan blant a phobol ifanc, a’r teuluoedd a’r sefydliadau sy’n eu cefnogi.

Bydd yr ymgynghoriad yn gyfle i bobol ddweud a ydy Llywodraeth Cymru wedi deall yr hyn gafodd ei ddweud, ac a ydyn nhw’n cytuno â’r materion blaenoriaeth sydd wedi’u nodi.

Galw am gyhoeddi cynllun cyflawni ‘penodol a mesuradwy’

“Tlodi yw’r mater mwyaf sy’n effeithio plant yng Nghymru, a thasg fwyaf Llywodraeth Cymru yw mynd i’r afael â thlodi’n effeithiol,” meddai Rocio Cifuentes.

“Mae’n hynod o bwysig bod Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â dogfen strategaeth tlodi plant lefel uchel, yn cyhoeddi cynllun cyflawni penodol a mesuradwy.

“Mae hyn angen cynnwys targedau clir sy’n dangos sut a phryd bydd Llywodraeth Cymru yn cyflawni ymyriadau penodol sy’n cyflawni amcanion eang eu strategaeth.

“Heb yr ymrwymiadau penodol hyn, bydd dal Llywodraeth Cymru i gyfrif ar y pwnc hollbwysig hwn yn cael eu rhwystro.

“Gobeithiaf fydd y fframwaith monitro mae’r Llywodraeth yn cyfeirio ato fe yn cyflawni hyn, ond yn y cyfamser mae angen ymrwymiad cadarn ar hyn gan Lywodraeth Cymru.

“Byddaf yn parhau i alw am gynllun penodol i gael ei gyhoeddi ochr yn ochr â’r strategaeth, a byddaf yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid ar draws Cymru i wthio am fesuriadau atebolrwydd cryf yng nghynlluniau terfynol Llywodraeth Cymru.

“Pan rydw i’n cwrdd â phlant a’u teuluoedd, maent eisiau gwybod bod Llywodraeth Cymru’n gwneud popeth gallant i helpu, ond heb gynllun cyflawni mesuradwy, ni allaf fod yn sicr o hyn.

“Ynghylch â drafft y strategaeth hon, rwyf wir yn croesawu’r ffaith bod bron i 1,500 o blant wedi gallu cyfrannu iddo, a dwi’n annog pawb i ddweud eu dweud yn ystod y cyfnod ymgynghori.”