Mae map yn cynnwys enwau Cymraeg a Gaeleg yr Alban wedi cael ei greu am y tro cyntaf.

Yn ôl y rhai sydd tu ôl i’r cynllun, dyma’r map “mwyaf cynhwysfawr o enwau llefydd yng Nghymru, yr Alban a Lloegr i gael ei gyhoeddi yn Gymraeg a Gaeleg”.

Y nod ydy cydnabod yr hanes sydd wrth wraidd pob enw, a chyswllt yr enw hwnnw gyda threftadaeth a thirlun lleol.

Mudiad Slow Ways sydd wedi creu’r map, sef cwmni budd cymunedol gafodd ei sefydlu yn 2020.

Erbyn hyn, mae gwaith y rhwydwaith wedi cysylltu 2,500 o gymunedau dros wledydd Prydain gyda’i gilydd drwy adnabod y llwybrau cerdded mwyaf uniongyrchol rhwng pentrefi a threfi.

Y bwriad yw galluogi pobol i ddarganfod eu hardaloedd mewn ffyrdd mwy hamddenol ar droed, ar gefn beic, mewn cadair olwyn neu gyda phram, ac annog pobol i gerdded mwy.

‘Cysylltu trefi’

Mae un ochr y map yn cynnwys Cymru a de Lloegr, gyda’r enwau Cymraeg ar lefydd yng Nghymru a llefydd yn Lloegr lle bo enw Cymraeg yn bodoli, a’r ochr arall yn cynnwys yr Alban a gogledd Lloegr, gan ddilyn yr un egwyddor â Gaeleg yr Alban.

Dydy’r mapiau ddim ond yn cynnwys enwau lleoedd y mae eu rhwydwaith o lwybrau cerdded yn ymweld â nhw.

Fe wnaeth Slow Ways dyfu yn ystod y cyfnod clo drwy ofyn i bobol wirfoddoli i fapio llwybrau sy’n cysylltu gwahanol drefi.

“Y syniad oedd cysylltu [trefi] lan efo llwybrau cerdded drwy weithio mas beth yw’r ffordd fwyaf uniongyrchol, pleserus, saff, hygyrch i fynd o un man i’r llall,” meddai Hannah Engelkamp, sy’n arwain ar waith diwylliannol Slow Ways ac yn dod o Aberystwyth, wrth golwg360.

“I ryw raddau, dw i’n meddwl bod pobol y dyddiau yma’n credu bod mynd am dro’n golygu gyrru i barc natur neu faes parcio Cadw neu beth bynnag, mynd am dro mewn cylch, yn ôl i’r car a gartref.

“Tan yn eithaf diweddar, roedd pobol yn meddwl am gerdded ac olwyno fel ffordd o fynd o un man i’r llall, fel ffordd o deithio.

“Mae llwyth o wahanol resymau i geisio cerdded mwy, a’r gobaith yw bod y rhwydwaith yma’n mynd i wneud gwahaniaeth i bobol o ran lle y gallan nhw gerdded, ac efallai cerdded am fwy o resymau.”

Gwirio’r llwybrau

Mae’r llwybrau wedi cael eu drafftio a’u creu allan o lwybrau sy’n bodoli’n barod, a nawr mae Slow Ways yn gofyn i bobol eu cerdded er mwyn eu gwirio.

“Mae’n rhaid eu cerdded dair gwaith er mwyn cadarnhau bod y llwybr yna’n gweithio. Rydyn ni’n galw hynna’n ‘snailing it’, ac mae’n cael bathodyn malwen i ddangos ei fod wedi’i gadarnhau,” meddai Hannah Engelkamp.

“Rydyn ni’n gofyn i bobol gerdded y llwybrau sydd wedi cael eu drafftio a newid nhw os oes angen, eu gwirio nhw a drafftio rhai newydd os oes modd.”

Mae lansio’r map newydd yn cyd-fynd â gŵyl wirio llwybrau Slow Ways rhwng Mehefin 16 a 25, sef y ‘Waycheck’.

Bwriad yr ŵyl yw efelychu’r hen draddodiad o gerdded ffiniau’r plwyf, gan ddefnyddio’r achlysur i ofyn i bobol wirio llwybrau a’u cofnodi ar wefan slowways.org.

‘Map mwyaf cynhwysfawr’

Gan eu bod nhw’n ymgysylltu â phobol leol, roedd hi’n “hollbwysig” creu mapiau sy’n dangos bod yna enwau gwreiddiol ar gyfer y llefydd yn bodoli, yn ôl Hannah Engelkamp.

“Dw i wedi bod yn gweithio’n agos iawn gydag un o fy nghydweithwyr yn yr Alban sy’n siarad Gaeleg yr Alban, a gweithio gyda gwahanol sefydliadau yn y naill wlad i wirio pethau,” meddai.

“Rydyn ni’n eithaf siŵr mai hwn yw’r map mwyaf cynhwysfawr o’r naill wlad o ran enwau’r llefydd yma, er eu bod nhw ond yn dangos y llefydd sydd ar ein rhwydwaith ni.

“Maen nhw hefyd yn dangos enwau’r Parciau [Cenedlaethol] a’r Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol.

“Roedden ni’n falch dros ben o weld partneriaid yn y Bannau Brycheiniog i gyd yn gwneud y penderfyniad [i ddefnyddio’r enw Cymraeg ar y parc].

“Mae’n teimlo fel amser hyderus i fi i ddod o’r gwledydd yma.”

Map nesaf Slow Ways fydd un sy’n dangos enwau Cymraeg a Saesneg ar lefydd yng Nghymru, yr enwau Gaeleg a Saesneg ar lefydd yn yr Alban, ynghyd â’r enwau Cernyweg ar lefydd yng Nghernyw. Maen nhw hefyd yn ystyried nodi enwau Sgots ar lefydd yn yr Alban.