Mae gwaith ar y gweill i ymgynghori ar ddatblygu harbwr Pwllheli, ac yn ôl y cynghorydd lleol gall y gymuned leol ddylanwadu ar ddyfodol y dref.
Y gobaith yw y bydd yr harbwr yn gwneud i ymwelwyr stopio yn y dref, fydd o fudd i fusnesau ac, yn ei dro, yr economi gylchol, medd aelod o’r pwyllgor ymgynghori.
Yn ogystal mae’r Cyngor a mudiadau eraill yn cydweithio er mwyn datblygiadau fydd o fudd i’r gymuned, busnesau a’r diwydiant twristiaeth.
Elin Hywel, cynghorydd ward Gogledd Pwllheli, yw is-gadeirydd Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Pwllheli Cyngor Gwynedd, ac maen nhw wrthi’n datblygu strategaeth ar gyfer ei ddyfodol.
Mae Elin Hywel, sy’n cynrychioli Plaid Cymru, yn teimlo bod y datblygiadau ym Mhwllheli yn gyffrous.
“Mae Pwllheli yn lle hynod gyffroes ar hyn o bryd gyda datblygiadau yn y dref – Neuadd Dwyfor ar ei newydd wedd, Capel Salem, Y Twr yng nghanol y Stryd Fawr, a Chlwb Pêl droed Pwllheli yn buddsoddi mewn cartref newydd fudd hefyd yn hwb cymunedol,” meddai.
“Ond yn fwy na hynny mae yna deimlad yn ein tref fach ni, ein bod ni yn gallu cymryd rheolaeth dros ddyfodol y dref ein hunain, datblygu cyfleoedd cymunedol a chyfleoedd fusnes i yrru’r dref yn ei blaen.
“Mae’r Harbwr yn rhan bwysig iawn o’r cynlluniau yma, ac mae’r potensial yn arbennig.
“Mae’n fraint cael bod yn aelod o gymuned Pwllheli ar hyn o bryd wrth i don y bwrlwm roi hyder a balchder i ni oll.”
‘Dim cysylltiad rhwng y dref â’r harbwr’
Mae’r pwyllgor wrthi’n gweithio ar strategaeth, ac wrthi’n ymgynghori, er mwyn dod â’r marina i ddefnydd y gymuned ac i bontio’r cysylltiad â’r dref.
“Beth rydym eisiau gwneud yw cymryd mantais o’r buddsoddiad mae Cyngor [Gwynedd] wedi ei wneud i’r marina ac arian a’r grantiau rydym wedi cael i Blas Heli sy’n cael ei redeg gan wirfoddolwyr a denu mwy o bobol yma ond hefyd gwneud ardal Glan y Don yn ardal mae’r gymuned yn cael defnyddio,” meddai Gerwyn Owen, Rheolwr Masnachol gyda Chyngor Gwynedd sydd ar y pwyllgor, wrth golwg360.
“Dros y blynyddoedd efallai does dim cysylltiad rhwng Pwllheli a’r ochr Harbwr, y marina felly.
“Rydym yn cydweithio efo adran stadau ni i edrych i gael gwesty cenedlaethol yma i’r ardal.
“Mae yna gae wedi cael ei dynodi yn barod, mae yna drafodaethau yn mynd ymlaen.
“Hynna ydy’r gobaith, a phethau eraill fel bod yna digwyddiadau a phethau yn digwydd ar y dŵr yn yr harbwr mewnol.
“[Rydyn ni] wrthi’n mynd trwy’r ymgynghoriad a chael y strategaeth yn ei le.
“Fedrwn ni ddim dweud yn union beth fydd yn y strategaeth nes bod hwnna’n cael ei gyhoeddi hwyrach ymlaen blwyddyn yma.”
Ynghyd â hynny, mae ymgynghori Ardal Ni wedi bod ar y gweill rhwng Cyngor Gwynedd a phobol yr ardal er mwyn gweld pa welliannau fyddai’n bosib ym Mhwllheli a’r cyffiniau.
Pobol yn pasio drwy Bwllheli
Gyda nifer o bobol yn pasio drwy Bwllheli ar daith i Lŷn, mae angen datblygiadau yn yr harbwr a chanol y dref i ddenu pobol i aros, yn ôl Gerwyn Owen.
“Dros y blynyddoedd mae pawb yn agored i ddweud bod pawb yn mynd trwy Bwllheli a ddim yn stopio,” meddai.
“Wrth gwrs mynd am ardal Abersoch mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw.
“Rhaid i’r dref fod yn atyniadol, yn addawol i bobol a stopio, dim dim ond siopa bwyd a mynd ymlaen i lefydd eraill.
“Mae’r Cyngor yn edrych ar ganol y dref.
“Mae’r strategaeth yma’n edrych ar yr ochr harbwr i roi cyfleoedd fel bod yr amser mae pobol yn aros yn hirach na phopio mewn neu alw heibio.
“Rhaid iddo fod yn addawol i bobol leol, pobol yn dod mewn i’r dref yn treulio amser i wneud siopa, i amser hamdden ac yn y blaen.”