Mae adroddiad newydd wedi canfod fod pobol hŷn yn cyfrannu’n helaeth at eu cymunedau.
Mae’r papur briffio polisi yn dangos dylanwad perthynas pobol â’i gilydd ac effaith bod yn rhan o’r gymuned ar bobol hŷn a’u hiechyd, a sut mae Covid-19 a’r heriau costau byw wedi cael effaith arnyn nhw.
Mae’n tynnu sylw at bolisïau ac arferion sy’n cryfhau rhwydweithiau cymdeithasol pobol hŷn, gyda’r bwriad o wella’u llesiant, dod dros heriau ac adeiladu cyfalaf cymdeithasol ar gyfer cenedlaethau hŷn y presennol a’r dyfodol.
Mae pobol hŷn yn gynyddol yn cyfrif am gyfran uwch o boblogaeth Cymru.
Mae gan bobol hŷn gyfraniad pwysig i’w wneud, a rolau i’w chwarae yn eu cymunedau, ac maen nhw’n cael budd iechyd o wneud hynny, ac mae gan bobol hŷn fwy o ymdeimlad o berthyn yn eu cymunedau.
Roedd lefelau uwch o gyfalaf cymdeithasol yn nodwedd o ymateb y gymuned i’r pandemig Covid-19 diweddar, medd yr adroddiad.
Y cymunedau yng Nghymru oedd yn gallu ymateb orau i her Covid-19 oedd y rhai â chyfalaf cymdeithasol oedd yn bodoli eisoes.
Mae pobol hŷn yn cael eu tynnu rhwng awydd i ddychwelyd i weithgareddau cymdeithasol a phryderon am y goblygiadau o ran cost ac iechyd.
Mae rhwystrau i gyfalaf cymdeithasol yn creu anghydraddoldebau o ran pwy all gael budd.
Hyd yn oed ar adegau o argyfyngau, mae’n hanfodol hwyluso gallu pobol i gymdeithasu eto a meithrin perthnasoedd er mwyn cynnal a gwella iechyd a llesiant i bawb.
Effaith Covid
Mae pobol hŷn yn dueddol o fod yn fwy bregus ac yn wynebu risg uwch yn enwedig os ydyn nhw’n ddifreintiedig.
“Oherwydd yn ystod Covid roedd y rhan fwyaf o bobol ar y blaen o ran lefel risg, pobol oedd yn dost yn barod neu’n agored i Covid,” meddai Menna Thomas, Swyddog Polisi Iechyd Cyhoeddus, wrth golwg360.
“Roedd llawer ohonyn nhw yn hŷn.
“Roedd dros 70% o’r bobol gafodd eu hannog i warchod neu gysgodi yn bobol hŷn dros 60.
“Roedd yn beth mawr i bobol hŷn, yn enwedig i bobol mewn cymunedau difreintiedig yn arbennig.”
Costau byw
Mae’r argyfwng costau byw hefyd yn rhwystro pobol rhag cymryd rhan mewn rhwydweithiau cymdeithasol, ac mae angen delio â hyn, yn ôl yr adroddiad.
“Mae costau byw yn rhan bwysig o’r adroddiad yma hefyd,” meddai Menna Thomas.
“Mae costau byw yn rhoi pwysau ychwanegol ar bobol oherwydd cyfalalaf cymdeithasol.
“Mae e’n rhwystro pobol rhag cymryd rhan mewn rhwydweithiau cymdeithasol sydd yn dda i’w lles nhw, ac sydd yn gysylltiedig â’u hiechyd cyffredinol nhw.
“Mae sgiliau digidol yn bwysig, mae pobol yn cael cefnogaeth i gymryd rhan.
“Mae pethau fel trafnidiaeth a chymryd rhan mewn gweithgareddau, a gwneud yn siŵr bod y costau yn isel a bod digon o rwydweithiau, trafnidiaeth, digon o fysus yn enwedig mewn llefydd gwledig sydd ar gael ac yn rhad ac am ddim i bobol sydd dros 50.”
Pobol hŷn yn cyfrannu
Daeth i’r amlwg fod pobol hŷn yn cyfrannu drwy ofalu am y teulu a hefyd drwy wirfoddoli.
“Gwnaethon ddarganfod bod pobol hŷn yn cyfrannu yn helaeth at eu cymunedau,” meddai Menna Thomas.
“Mae pobol hŷn yn tueddu gwylio ar ôl eu hwyresau ac wyrion ac yn fwy tueddol o ofalu am bobol eraill yn y teulu, pobol hŷn neu bobol anabl neu bobol sydd yn dost.
“Mae’r ffaith eu bod nhw’n gwneud y gofalu hyn yn helpu eu perthnasau nhw.
“Os ydyn nhw’n helpu teuluoedd gyda phlant, maen nhw’n cynnig gofal ychwanegol i blant ac yn galluogi eu rhieni i fynd i weithio ac yn datblygu perthynas gyda’u hwyrion.
“Mae gofalu am bobol eraill yn y teulu yn cyfrannu at eu cymunedau a theuluoedd nhw, a hefyd at eu lles eu hunain os nad yw’r lles yna’n ormod.
“Os yw’r gofal yn ormod, yn cymryd llawer gormod o amser, mae angen cefnogaeth ar y bobol sy’n cynnig y gofal.
“Mae pobol hŷn yn tueddu i gymryd rhan mewn gwirfoddoli mwy na phobol ifanc.
“Mae llawer o wahanol fathau o wirfoddoli, gwirfoddoli yn y gymdeithas yn cefnogi pobol eraill, a hefyd yn cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth leol.
“Mae ystadegau yn dangos bod llawer mwy o bobol hŷn yn gwirfoddoli yn enwedig ar ôl iddyn nhw ymddeol.
“Y dyddiau hyn, mae pobol yn dueddol o weithio yn hirach.
“Yn aml, mae pobol hŷn yn gweithio’n hirach felly maen nhw’n cario ymlaen i gyfrannu i’n cymunedau ni trwy eu gwaith.
“Maen nhw’n cynnig dipyn o gyfraniad.
“Maen nhw’n gwneud cyfraniad eang iawn yn helpu eu teuluoedd a’u cymunedau.”
Rhwydweithiau cymdeithasol
Ar lefel gymunedol ac yn ddigidol, mae rhwydweithio cymdeithasol yn bwysig i bobol hŷn.
Mae’n bwysig eu bod yn gallu fforddio’r rhwydweithio yma.
“Roeddem yn ymwybodol bod rhwydweithiau cymdeithasol o les i fudd pobol, a bod o o yn fuddiol i bobol hŷn yn arbennig,” meddai Menna Thomas.
“Roeddwn eisiau deall mwy am sut oedd y rhwydweithiau yma a’r perthnasau yma yn ychwanegu at eu lles nhw, a pha fath o bethau fyddai’n gallu cefnogi’r ffactorau hynny, fel ein bod ni’n gallu gwneud yn siŵr bod pethau yn digwydd sydd yn hybu a hwyluso lles pobol hŷn.
“Ni yn ymwybodol bod rhwydweithiau a pherthnasau o les i bawb.
“Pwrpas yr adroddiad oedd deall yn union y ffactorau y bydden ni’n gallu eu hybu a hwyluso rhwydweithiau pobol hŷn fel eu bod nhw’n elwa o’r lles sy’n dod allan o’r rhwydweithiau hynny.
“Mae’n bwysig hybu’r pethau sydd yn cefnogi’r rhwydweithiau pobol hŷn – pethau fel gwneud yn siŵr bod digon o arian gyda phobol fel eu bod nhw’n gallu teithio i weld ffrindiau, fel bod nhw’n gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau sydd yn aml â chost yn gysylltiedig â nhw ac yn gallu gwneud pethau fel prynu presantau i’w hwyrion a’u ffrindiau ar eu pen-blwyddi.
“Mae hwnna i gyd yn rhan o gymryd rhan mewn rhwydweithiau cymdeithasol sydd o fudd iddyn nhw.
“Mae mynediad digidol a sgiliau digidol yn bwysig.
“Mae e lawer mwy pwysig ers Covid oherwydd mae llawer o bethau ar-lein.
“Felly mae gwneud yn siŵr bod y sgiliau gan bobol hŷn a bod y mynediad gyda nhw i fynd ar-lein yn bwysig i’w cadw nhw’n rhan o’r cymdeithasau a rhan o’r rhwydweithiau.
“Mae gwirfoddoli yn bwysig iawn hefyd.
“Mae tystiolaeth ei bod hi’n amlwg bod pobol sydd yn gwirfoddoli yn gallu hwyluso bywydau pobol eraill, ond hefyd maen nhw’n elwa’n bersonol o wirfoddoli.
“Felly gwneud yn siŵr bod digon o gyfleoedd i bobol hŷn sydd efallai gyda mwy o amser i wirfoddoli a’u bod nhw’n cael cefnogaeth i wneud y gwaith gwirfoddoli, mae hwnna hefyd yn bwysig.”