Mae rhai o drigolion Penygroes yn Nyffryn Nantlle yn gwrthwynebu’n “chwyrn” gynlluniau gan fenter leol i droi cae yn y pentref yn rhandiroedd cymunedol.
Mae Siop Griffiths Cyf – sy’n rhedeg caffi cymunedol Yr Orsaf ar stryd fawr Penygroes – yn gobeithio troi hen gae chwarae ‘Cwtin’ yn 15 o randiroedd. Y bwriad yw prydlesu’r cae gan y Cyngor Cymuned, drwy dalu rhent blynyddol.
Ers dechrau Ebrill, mae nifer o drigolion tai Maes-y-Môr, sydd gyferbyn â’r cae, wedi lleisio eu gwrthwynebiad yn gyhoeddus i’r cynllun – gan honni mai dyma’r cae chwarae cyhoeddus olaf ym Mhenygroes.
Yr wythnos yma mae gwrthwynebwyr y cynllun rhandiroedd wedi bod yn dosbarthu posteri ‘Cadwch Cwtin fel cae chwarae – dim rhandiroedd’ o gwmpas y pentref.
Mae gan Yr Orsaf eisoes randiroedd yn y pentref sy’n cael eu trin gan Glwb Garddio Lleu, un ger Canolfan Hamdden Plas Silyn, a dwy ardd fach ger y Co-op a’r tu ôl i Gapel Calfaria.
Mae cae Cwtin yn ffinio â chae swings, ac mae wedi ei ddynodi yn fel ‘tir amaethyddol’ gan Gynllun Datblygu ar y Cyd Gwynedd (2017). Gwaethygodd ansawdd y tir ar ôl i ddeunydd tir gwastraff gael ei adael yno yn sgil datblygiad ffordd osgoi Llanllyfni yn 2001. Er i’r pentref gael addewid y byddai’r cae yn gwastatáu gyda hyn, mae’r cae yn dal yn wlyb dan draed.
Yn ôl y gwrthwynebwyr, sy’n galw eu hunain yn answyddogol yn ‘Ffrindiau Cwtin’, nid yw’r tir yn addas ar gyfer rhandiroedd a thyfu planhigion.
O’r gair ‘cutting’ y daw’r enw ‘Cwtin’ – roedd y tir wedi ei brynu’n wreiddiol i wneud rheilffordd, cyn cael ei roi yn ôl i ddwylo’r wlad. Yn y 1960au cafodd ei roi i’r Cyngor Cymuned, a rhwng 1960 a 1986 roedd ‘Pwyllgor Cae Chwarae Cwtin’ yn gyfrifol amdano, prawf yn ôl y gwrthwynebwyr mai cae chwarae i’r pentref sydd fod yno.
“Gohebiaeth yn brin”
Un o gwynion y gwrthwynebwyr yw bod diffyg ymgynghori wedi bod ynglŷn â’r cynllun ar ran Siop Griffiths Cyf – menter y mae llawer yn cyfeirio ato fel ‘yr Orsaf’.
Mae trafodaethau am y cae wedi bod yn digwydd rhwng Siop Griffiths Cyf a’r Cyngor Cymuned ers mis Tachwedd 2022. Dim ond yn niwedd mis Mawrth y cafodd tai Maes-y-môr ac ychydig o’r tai ar Ffordd Clynnog daflen drwy’r drws yn eu hysbysu o’r cynlluniau, yn ôl y gwrthwynebwyr.
“Bu’r ohebiaeth ynglŷn â’r cynlluniau ar gyfer y Cwtin yn brin iawn,” meddai Alan Roberts, sy’n byw ym Maes-y-môr, wrth golwg360. “Mae o fel rhywbeth cyfrinachol bron iawn. Tydi pobol leol ym Mhenygroes ddim yn gwybod fawr o ddim amdano fo.
“Erbyn hyn mae yna fwy am fod y posteri yma wedi eu dosbarthu, ac maen nhw wedi dychryn am eu bywydau. Dydyn nhw ddim eisio fo.”
Hanes y cynllun
Cafodd y cynllun rhandiroedd ei drafod yn y Cyngor Cymuned gyntaf ar 8 Tachwedd 2022. Ar 13 Rhagfyr 2022 fe drafodwyd grant ar gyfer y project. Yn ei gyfarfod ar 10 Ionawr 2023, eglurodd y Cyngor Cymuned y byddai’r rhent am y tir yn ‘£100 y flwyddyn, i’w adolygu bob 2 blynedd’.
Mi fu’r Orsaf yn holi pobol ar stepen drws ym mis Chwefror eleni, a buodd trafodaeth efo rhai o gymdogion y safle cyn mis Mawrth.
Cafodd y trigolion lleol eu gwahodd i’r Orsaf ar Ebrill 3 i wrando ar gyflwyniad ar y cynllun. Roedd 25 o bobol yn bresennol yn y cyfarfod hwnnw, a chafodd trigolion Maes-y-môr a Ffordd Clynnog lythyr yn eu hysbysu am y digwyddiad.
Mewn dogfen 27 tudalen a anfonodd ‘Ffrindiau Cwtin’ at Adran Gynllunio Cyngor Gwynedd ar 10 Ebrill, mae’r honiad yma, sy’n cyfieithu o’r Saesneg: ‘Mae’r Orsaf wedi methu â dosbarthu digon o daflenni, hysbysebu’r prosiect, gosod arwyddion ar byst lamp, na hysbysebu yn y papur lleol, ffenestri siopau lleol, eu gwefan a thudalennau Facebook, ynglŷn â’r cyfarfod cyhoeddus.’
Yng nghyfarfod Cyngor Cymuned Llanllyfni yng Nghanolfan Talysarn ar 11 Ebrill, cafodd Ffrindiau Cwtin a Siop Griffiths Cyf/Yr Orsaf gyfle i gyflwyno’u dadleuon.
‘Chwyrn yn ei erbyn’
Un a oedd wedi lleisio’i wrthwynebiad yn y cyfarfod cyhoeddus cyntaf ar 3 Ebrill oedd Alan Roberts. “Mae yna lu o resymau am wrthwynebu’r rhandiroedd yma,” meddai.
Yn eu plith, meddai, mae cyflwr y pridd, “yn rhwystro draeniad priodol o’r cae”; y sefyllfa parcio – “byddai caniatáu rhandiroedd yn creu tagfeydd diangen”; ac y gallai’r rhandiroedd ddenu llygod mawr.
“Fasach chi ddim yn mynd yno i chwarae,” meddai. “Mae’r lle yn wlyb, yn annifyr dan draed, mae bob math o ‘nialwch yn tyfu yna. Dydi o ddim yn ddymunol i neb, ac mae o wedi bod fel yna dros 20 mlynedd.”
Pam, felly, nad yw am weld y tir yn cael ei drin – ac o bosib ei wella – gan y fenter gymunedol? “Dw i ddim yn siarad ar ran Siop Griffiths Cyf, gweld ydw i sut yn y byd fedrwch chi newid y lle drwy osod rhandiroedd yna,” meddai Alan Roberts.
“Dw i ddim ei weld o gwbl. A dw i ddim eisio fo – dw i’n chwyrn yn ei erbyn o. Mi wnes i hynny’n glir yn y cyfarfod. Mae trigolion yr ardal wedi lleisio eu barn i wrthwynebu’r datblygiad ar dir y cwtin.”
Ymateb Siop Griffiths Cyf
Mewn ymateb, dywedodd Gwenllian Spink ar ran Siop Griffiths Cyf/Yr Orsaf: “O ran Cwtin, mae’r ffeithiau yn cael eu trafod gan Gyngor Cymuned Llanllyfni ar hyn o bryd, a bydden nhw’n gwneud penderfyniad ffurfiol yn dilyn y dystiolaeth sydd wedi ei ddarparu gan y nifer sydd o blaid ac yn erbyn y cynllun. Nid yw’r Orsaf mewn sefyllfa i drafod y mater nes bod y broses yma wedi ei gwblhau.”
Cymdeithas Budd Cymunedol yw Siop Griffiths Cyf a gafodd ei sefydlu gan griw o wirfoddolwyr i sicrhau fod hen Siop Griffiths ar y stryd fawr “yn aros yn nwylo’r gymuned, er lles y gymuned”. Prynwyd y siop yn 2016 gydag arian a godwyd yn lleol a’i droi’n gaffi bywiog, Yr Orsaf. Yn 2019 prynwyd ail adeilad ar y safle.
Mae’r fenter yn cynnal llu o brosiectau er budd pobol y pentref, yn ogystal â’r rhandiroedd – gan gynnwys nosweithiau prydau am ddim, clwb i bobol hŷn, a chlwb celf i’r ifanc.