Mae canolfan gymunedol Llandysul wedi cael ei hachub rhag gorfod cau yn sgil biliau ynni cynyddol diolch i grant ynni adnewyddadwy.
Ar ôl apelio am gymorth wedi i gostau trydan ac olew dreblu, mae Canolfan Gymunedol Calon Tysul wedi derbyn grant o £75,522.
Bellach mae’r ganolfan, a gafodd ei hagor yn 2017 ac sy’n cynnwys pwll nofio a chanolfan ffitrwydd, wedi cael paneli solar a batris storio.
Bydd y system yn lleihau costau rhedeg y ganolfan, ac yn helpu i ostwng y biliau ynni.
Mae tua 70% o gost y gwaith yn cael ei dalu gan grant gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru.
‘Prisiau trwy’r to’
Caiff Calon Tysul ei rheoli gan fwrdd o aelodau o’r gymuned sy’n gweithio i sicrhau bod y ganolfan yn ffynnu, a dywedodd yr ymddiriedolwr Iestyn ap Dafydd: “Aeth prisiau nwy a thrydan trwy’r to ddechrau 2022, ac roedden ni wir yn meddwl y byddai rhaid i ni gau ein drysau.
“Aeth ein trydan o ychydig llai na £2,000 i dros £4,000 y mis, a’n disel o £800 yr wythnos i oddeutu £2,400
“Daethon ni o hyd i rywfaint o arian i’n cael ni heibio i crunch y prisiau uchel, a rhan o amodau’r cyllid yna oedd ein bod ni’n rhoi dulliau arbed ynni ar waith, fel y paneli solar.
“Heb y prosiect hwn, dw i’n weddol sicr bydden ni wedi gorfod cau – ni fyddai pwll yma nawr.
“Nawr ein bod ni wedi cwblhau’r cam yma, mae’n mynd i wneud gwahaniaeth enfawr.
“Byddwn yn cynhyrchu ein trydan ein hunain, a bydd defnyddio’r rhan fwyaf ohono ein hunain yn torri ein biliau.
“Bydd hyn wedyn yn caniatáu inni chwilio am ffyrdd eraill o ddiwallu ein hanghenion ynni.”
‘Ased mor bwysig’
Ychwanegodd rheolwr Calon Tysul, Matt Adams: “Mae’r ganolfan yn ased mor bwysig i’r gymuned gyfan.
“Mae’r cyllid hwn yn sicrhau ei fod yn goroesi ar gyfer defnydd cymunedol yn y dyfodol.
“Rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth.”
Grant ynni adnewyddadwy
Mae H-Factor AMMV Energy Works yn brosiect ynni adnewyddadwy ar raddfa fach sy’n cael ei arwain gan y gymuned, a chafodd ei sefydlu i gefnogi adeiladau yn y gymuned i aros ar agor.
Mae’r grant, sydd bellach yn ei flwyddyn olaf, yn cael ei weinyddu gan H-Factor Development wedi cynnal dros 40 o adeiladau.
Roedd H-Factor AMMV Energy Works yn un o wyth prosiect a ddewiswyd i gynnig opsiwn i adeiladau cymunedol gynhyrchu, storio, defnyddio a gwerthu ynni cymunedol yng Nghymru.
Dywedodd Cyfarwyddwr Datblygu H-Factor, Lynne Colston: “Mae ein grant yn brawf pellach o’r gwaith sy’n canolbwyntio ar atebion y gallwn ni fel menter gymdeithasol ei ddarparu i helpu cymunedau i oroesi a thyfu.
“Mae prosiectau ynni adnewyddadwy a arweinir gan y gymuned yn cynhyrchu incwm.”