Mark Hooper, sy’n gynghorydd sir yn y Barri, fydd ymgeisydd Plaid Cymru ym Mro Morgannwg yn yr etholiad cyffredinol nesaf.
Ar hyn o bryd, mae Mark Hooper yn gweithio ar lansio banc cymunedol llawn cyntaf y Deyrnas Unedig, Banc Cambria.
Ymgeisiodd yn etholaeth Canol Caerdydd yn etholiad San Steffan yn 2017, gan orffen yn bedwerydd ar ôl Llafur, y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol.
Yr aelod Ceidwadol Alun Cairns sydd wedi cynrychioli sedd Bro Morgannwg yn San Steffan ers 2010.
Ym mhob etholiad ers i’r etholaeth gael ei chreu yn 1983, mae’r sedd wedi cael ei chynrychioli gan y blaid ddaeth i’r brig bob tro, gan newid rhwng y Blaid Geidwadol a Llafur.
‘Cynnig gobaith’
Mewn digwyddiad hystings yn y Bont-faen, dywedodd Mark Hooper ei fod yn falch iawn o gael ei ddewis.
“Mae’r etholaeth yn sedd ymylol adnabyddus, ac yn rhy aml mae etholwyr yn tueddu i bleidleisio’n negyddol i gefnogi’r opsiwn lleiaf drwg, yn hytrach na phleidleisio’n gadarnhaol; dw i’n gobeithio newid hynny,” meddai.
Mae disgwyl i ymgyrch etholiadol Plaid Cymru ar gyfer yr etholiad cyffredinol nesaf, a fydd yn cael ei gynnal ym mis Ionawr 2025 ar yr hwyraf, alw am herio’r drefn arferol.
Yn ôl Mark Hooper, fu’n aelod o bwyllgor canolog YesCymru am gyfnod, mae’r drefn fel y mae “yn gadael Cymru lawr”.
“Waeth pwy fydd yn mynd yn eu blaenau i arwain yn San Steffan, byd Cymru’n cael ei hymylu; ddim yn cael ei chyllido’n iawn ac yn delio gyda pholisïau sy’n siwtio rhywun arall, yn rhywle arall.
“Dydy’r un o bleidiau’r Deyrnas Unedig, Llafur na’r Ceidwadwyr, yn cynnig yr hyn sydd ei angen ar bleidleiswyr y Fro.
“Bydd eu ffocws ar berswadio pobol canol Lloegr i bleidleisio drostyn nhw, nid de Cymru.
“Rydyn ni wedi cael digon ar gael ein cyfyngu yma yng Nghymru; dw i’n sefyll ochr yn ochr â chriw cryf o ymgeiswyr Plaid dros Gymru yn y gobaith o gynnig gobaith, positifrwydd a’r gwrthateb polisi i wladwriaeth fethedig y Deyrnas Unedig.”