Mae yna bryderon am allu rhieni i gael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg i’r gogledd o Bontypridd.

Gydag ysgol Saesneg newydd ar ei ffordd i Lyncoch, i gymryd lle adeiladau ysgolion cynradd Cefn a Chraig yr Hesg, mae rhieni ac ymgyrchwyr yn pryderu am effaith hynny, ynghyd â’r penderfyniad i gau Ysgol Pont Sion Norton, ar fynediad at addysg Gymraeg yng Nglyncoch, Ynysybwl, Coedycwm a Cilfynydd.

Maen nhw’n wynebu’r posibilrwydd o orfod teithio i’r ysgol cyfrwng Cymraeg newydd yn Rhydyfelin.

Mae rhieni ac ymgyrchwyr yn dweud mai’r safle sydd wedi’i dewis ar gyfer ysgol cyfrwng Saesneg newydd oedd yr un oedden nhw wedi’i hawgrymu ar gyfer ysgol cyfrwng Cymraeg newydd, ond eu bod nhw wedi cael eu hanwybyddu gan y cyngor.

Ond, dywed y cyngor bod lleoliad yr ysgol Gymraeg a’r ymgynghoriad wedi cael eu hadolygu mewn adolygiad barnwrol yn 2020.

Fe wnaeth yr adolygiad ochri â’r Cyngor, gan ddweud y bydd y buddsoddiad o fudd i ddysgwyr a’u teuluoedd am genedlaethau.

‘Cam yn ôl’

Fodd bynnag, dywedodd Robert Davies, tad i bedwar o Ynysybwl, ei fod yn pryderu y bydd ei blant yn cael eu heffeithio pan fydd Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Sion Norton yn cau yn 2024.

Dywedodd hefyd bod y penderfyniad yn golygu bod llai o rieni’n dewis addysg Gymraeg yn lleol.

“Yn ystod y 190au, yn enwedig yn y Cymoedd, efallai bod yna ddisgwyl i blant orfod teithio at addysg Gymraeg.

“Heddiw, yn 2023, doeddwn i ddim yn disgwyl y byddai’n rhaid i fy mhlant deithio dros awr y diwrnod i fynd i’w hysgol Gymraeg ‘leol’.

“Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn tynnu’r Gymraeg o’r union gymunedau oedd yn allweddol wrth sefydlu addysg Gymraeg yn yr ardal dros 70 mlynedd yn ôl pan gafodd Ysgol Gynradd Pont Sion Norton ei hagor yn 1951.

“Yn y cymunedau i’r gogledd o Bontypridd, mae’n ymddangos ein bod ni’n cymryd cam yn ôl wrth greu addysg Gymraeg hygyrch i bawb tra bo awdurdodau eraill yn gwneud cynnydd.

“Fe wnaeth y cyngor wrthod hyd yn oed ystyried defnyddio safle Tŷ Gwyn, lle bydd yr ysgol Saesneg newydd yn cael ei hadeiladu, ar gyfer ysgol Gymraeg newydd.

“Mae hyn yn golygu y bydd yr ysgol Gymraeg agosaf tu allan i’n cymunedau, ac na fydd yn hygyrch i bobol heb geir a’r rhai sy’n gorfod dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus.”

‘Penderfyniad anodd’

Ychwanegodd rhiant arall, Maria Riley: “Fel mam i blant bach sy’n byw yn Ynysybwl, mae ein hunig opsiwn ar gyfer addysg Gymraeg filltiroedd i ffwrdd.

“Mae’n gwneud y penderfyniad yn un anodd iawn, ond fe aeth fy ngŵr a fi i ysgolion Cymraeg ac rydyn ni eisiau darparu hynny i’n plant.

“Pe bai yna ysgol Gymraeg yn cael ei hadeiladu’n lleol yma, byddai yna gymaint mwy o deuluoedd yn dewis addysg Gymraeg.”

‘Bradychu’

Bedair blynedd yn ôl, fe wnaeth ymgyrchwyr yn galw am addysg Gymraeg hygyrch yn y cymunedau i’r gogledd o Bontypridd gynnal gorymdaith brotest o Ynysybwl i Rydyfelin.

Roedd Taith yr Iaith yn tynnu sylw at y pellter y byddai’n rhaid i blant mor ifanc â thair oed deithio ar y bws i’r ysgol newydd – taith o chwe milltir o Ynysybwl, Glyncoch a Choedycwm, a fyddai’n cymryd dros hanner awr gyda thraffig arferol, meddai’r ymgyrchwyr.

Dywedodd Katie Hadley, wnaeth helpu i drefnu’r orymdaith ac sydd â phlant yn Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Sion Norton, bod teuluoedd sydd eisiau mynediad at addysg Gymraeg yn teimlo fel eu bod nhw wedi cael eu “bradychu”.

“Yn ôl yn 2019, rhan hanfodol o’n hymgyrch oedd bod y safle hwn yn berffaith i ysgol Gymraeg newydd o fewn ardal draddodiadol Pont Sion Norton.

“Ond fe wnaeth y cyngor ein hanwybyddu ni’n gyson.

“Dylai addysg Gymraeg fod yn hygyrch i bawb ond dydy hynny ddim yn wir i gymunedau Ynysybwl, Glyncoch, Coed y Cwm a Chilfynydd.”

Katie Hadley

Blynyddoedd cynnar

Mae ymgyrchwyr wedi tynnu sylw at y ffaith bod cau Cylch Ti a Fi a Chylch Meithrin Ynysybwl yn golygu nad oes yna ddarpariaeth blynyddoedd cynnar Gymraeg yn y pentref chwaith.

Dywedodd Mary Chinnock, a oedd yn arwain y Cylch Ti a Fi a’r Cylch Meithrin yn Ynysybwl ac sydd ag wyrion ac wyresau yn y clybiau: “Ers i’r grŵp Ti a Fi gael ei gorfodi i gau gan nad oedd yr adeilad yn addas, does yna ddim grŵp mam a phlentyn yn y pentref.

“Fe wnaeth y Cylch Meithrin, oedd wedi symud i Stryd Glyn, gau’r Pasg hwn yn sgil gostyngiad mawr mewn niferoedd ac methiant i ddod o hyd i arian i wella’r adeilad.

“Mae’n peri pryder nad oes yna ddarpariaeth Gymraeg ar gyfer y blynyddoedd cynnar yn y pentref a fyddai’n gallu denu rhieni i ddewis addysg cyfrwng Cymraeg.”

Er mwyn mynd i’r afael â phryderon y gallai llai o deuluoedd ddewis addysg Gymraeg ar ôl i Ysgol Pont Sion Norton gau, mae criw o rieni ac aelodau’r grŵp ymgyrchu wedi penderfynu sefydlu Cylch Ti a Fi a Chylch Meithrin newydd yn y pentref.

Fe wnaeth Cylch Ti a Fi Cilfynydd a Phont Norton agor yn 2021, ac agorodd Cylch Meithrin Cilfynydd a Phont Norton yn 2022, y ddau yn y ganolfan gymunedol.

Dywedodd Angela Karadog, ymddiriedolwr a thrysorydd pwyllgor llywio Cylch Meithrin Cilfynydd a Phont Norton: “Rydyn ni eisiau sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i ffynnu yn lleol o fewn y gymuned pan mae’r ysgol yn cau, ac y byddan ni dal i allu darparu cyfleoedd i blant chwarae, dysgu a chael hwyl drwy’r iaith yn ystod eu blynyddoedd cynnar.

“Mae yna ddiffyg cyfathrebu gan y cyngor lleol gyda rhieni sy’n byw yng Nghilfynydd ac yn dymuno dewis addysg Gymraeg, yn enwedig o ran beth fydd ar gael fel trafnidiaeth i’r ysgol newydd yn Rhydyfelin.

“Mae’n drist clywed gan rieni sy’n dweud nad yw’n opsiwn iddyn nhw ddim mwy gan nad yw’r ysgol newydd yn lleol a hygyrch.”

Ymateb y cyngor

Dywedodd llefarydd ar ran cyngor Rhondda Cynon Taf: “Cafodd lleoliad yr ysgol newydd Gymraeg a’r broses ymgynghori gydag ardal Pontypridd – ynghyd â honiadau eraill ynghlwm â’r cynigion – eu hadolygu fel rhan o adolygiad barnwrol yn 2020.

“Yn dilyn yr adolygiad, fe wnaeth y Llys Apêl ochri gyda’r Cyngor, gan ganiatáu i’r buddsoddiad o £75.6m mewn cyfleusterau addysg barhau.

“Bydd y lefel heb ei thebyg o fuddsoddiad gennym ni a Llywodraeth Cymru o fudd i ddysgwyr a theuluoedd am genedlaethau.

“Cafodd ymgynghoriad llawn ei gynnal ar gyfer creu ysgolion cynradd Saesneg yng Nglyncoch, gan gyfuno ysgolion cynradd Cefn a Chraig yr Hesg a chreu cyfleuster o’r radd flaenaf yn lle’r adeiladau presennol sydd angen gwaith sylweddol.

“Rhoddodd hyn gyfle i drigolion ddweud eu dweud, a dim ond un gwrthwynebiad fu yn sgil yr hysbysiad statudol.

“Mae’r cyngor wrth eu boddau gyda’r cyhoeddiad diweddaraf gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â’r cyllid ar gyfer yr ysgol newydd, fydd yn cynnwys technolegau gwyrdd arloesol a hwb sifig.

“Mae trafnidiaeth am ddim i ddysgwyr sy’n byw 1.5 milltir neu fwy o’u hysgol addas agosaf.

“Fydd yna ddim llai o gapasiti nag opsiynau cyfrwng Cymraeg.

“Mae’r galw am lefydd meithrin yn Ysgol Pont Sion Norton wedi cynyddu yn y flwyddyn academaidd bresennol o gymharu â’r ddiwethaf, ac mae yna le i fwy.

“Bydd yr ysgol Gymraeg newydd yn Rhydyfelin yn darparu mwy fyth o lefydd.

“Mae capasiti addysg Gymraeg yn cynyddu dros Rondda Cynon Taf.

“O ran darpariaeth blynyddoedd cynnar yn Ynysybwl a Chilfynydd, chafodd tîm datblygu gofal plant y cyngor ond wybod yn ddiweddar bod Meithrin Ynysybwl wedi cau.

“Mae ymddiriedolwyr y cwmni wedi dweud nad yw eu busnes a’u cyfleusterau’n addas, ac mae’r cyngor mewn cysylltiad â nhw i gefnogi’r gwaith o archwilio opsiynau ar gyfer lleoliad amgen i ddatblygu darpariaeth blynyddoedd cynnar yn yr ardal.

“Mae’r cyngor yn cydnabod pwysigrwydd Cymraeg 2050, ac mae ein Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yn rhan hollbwysig o gyflawni’r nod.

“Rydyn ni’n hyderus iawn bod ein buddsoddiad parhaus mewn addysg Gymraeg yn sicrhau bod gan blant a phobol ifanc fynediad da at addysg Gymraeg dda o’r blynyddoedd cynnar, i’r ysgol gynradd a’r ysgol uwchradd – i bob dysgwr, waeth beth yw eu hanghenion dysgu.”

Dywedodd y cyngor hefyd bod cynlluniau i gynnig gofal plant Cymraeg a Saesneg yn yr ysgol newydd yng Nglyncoch.

‘Rhaid ailystyried’

Fodd bynnag, mae’r Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Ganol De Cymru, Heledd Fychan, wedi sgrifennu at weinidog Addysg a’r Gymraeg Cymru a gofyn iddo ailystyried cyfrwng iaith yr ysgol yng Nglyncoch ar unwaith.

“Mae yna bryder gwirioneddol am ddyfodol yr iaith Gymraeg yn yr ardal, ac mae nifer yn credu y bydd yr ysgol newydd hon yn gam yn ôl o ran yr iaith ac addysg Gymraeg.

“Er y bydd trafnidiaeth i’r ysgol Gymraeg newydd, bydd rhaid i rieni heb geir deithio ar ddwy fws er mwyn i’w plant allu defnyddio’r clwb brecwast; i’w plant adael i apwyntiadau brys neu os ydyn nhw’n sâl; neu i’w plant fynd i glybiau ar ôl ysgol.

“Gyda chanran yr aelwydydd sy’n berchen ar geir ymysg yr isaf yng Nghymru yn y cymunedau hyn, dim ond nifer fechan o rieni fydd yn dewis gyrru eu plant i ysgol Gymraeg sy’n anoddach ac yn ddrytach ei chyrraedd nag ysgol Saesneg newydd ar eu stepen drws.

“O ystyried bod gennym ni uchelgais yma o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae’n fy synnu bod Llywodraeth Cymru am fuddsoddi mewn cynllun fydd yn niweidio’r Gymraeg yn yr ardal.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru ailystyried cyfrwng iaith yr ysgol ar frys.”

‘300 lle ychwanegol’

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Ein huchelgais yw bod pob dysgwr yng Nghymru’n cael y cyfle i ddod yn siaradwyr Cymraeg ble bynnag y bônt, ac ym mha bynnag ysgol maen nhw’n cael eu dysgu.

“Mae’r ysgol newydd yng Nglyncoch yn cynnwys cynigion i gyflwyno lefel uwch o ddarpariaeth Gymraeg yn syth – gan gychwyn gyda darpariaeth gofal plant, a symud at chwarae drwy Gymraeg a chyfleoedd dysgu dros amser.

“Mae’r gweinidog dros Addysg a’r Gymraeg wedi cymeradwyo cynlluniau i gynyddu’r ganran o ddysgwyr Cymraeg yn Rhondda Cynon Taf gan 10% dros y ddeng mlynedd nesaf.

“Bydd yr awdurdod lleol hefyd yn agor ysgolion cynradd Cymraeg newydd, ehangu’r ysgolion Cymraeg presennol ac ail-gategoreiddio ysgolion dwyieithog i fod yn rhai Cymraeg – gan greu 300 o lefydd ychwanegol.”