Mae bwriad Cyngor Caerdydd i gyflwyno system i godi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd yn “gam cadarnhaol”, yn ôl yr elusen Sustrans Cymru.
Cynnig y Cyngor yw edrych ar sut y gallai cynllun Codi Tâl ar Ddefnyddwyr Ffyrdd helpu i fynd i’r afael ag ansawdd aer gwael, brwydro newid hinsawdd, gwella iechyd pobol a lleihau tagfeydd.
Byddan nhw’n ystyried hefyd sut y gallai helpu i greu rhwydwaith drafnidiaeth wyrdd dros y ddinas gyda thocynnau bws £1, gwasanaethau bws ehangach, tramiau newydd a mwy o wasanaethau trên.
Mae’r Cyngor eisiau edrych ar ystod o gynlluniau, gan gynnwys codi ffi ar ddefnyddwyr ffyrdd, parthau tagfeydd, parthau aer glân, ac ardollau parcio mewn gweithleoedd.
Mae Cyngor Caerdydd yn ymchwilio i’r achos dros gyflwyno Taliad i Ddefnyddwyr Ffyrdd, ond ar hyn o bryd does dim penderfyniadau wedi eu gwneud ynglŷn â phwy fyddai’n gorfod talu.
Bydd yr adroddiad gyda’r cynigion yn cael ei ystyried gan Gabinet Cyngor Caerdydd yr wythnos nesaf (Ebrill 27).
‘Cam cadarnhaol’
Dywed Cyfarwyddwr Sustrans Cymru eu bod nhw’n credu y dylai dinasoedd a threfi fod yn llefydd sy’n blaenoriaethu’r bobol sy’n byw ac yn treulio’u hamser yno.
“Mae llefydd sy’n cael eu llethu gan geir yn creu traffig ac yn dinistrio ein hamgylchedd a’n hiechyd,” meddai Christine Boston.
“Maen nhw’n gadael llai o le i gerdded, beicio a threulio amser – pethau sy’n gwneud ein bywydau’n well ac yn cyfrannu at ein hapusrwydd.
“Mae’r ymrwymiad newydd gan Gyngor Caerdydd i archwilio modelau codi ffi ar ddefnyddwyr ffyrdd yn gam cadarnhaol tuag at greu dinas iachach, decach i bawb sy’n byw a gweithio yng Nghaerdydd.
“Rydyn ni’n gweld potensial i leihau traffig a hybu teithio actif, cynaliadwy, wrth greu cronfa i fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus a theithio actif.
“Gallai hynny gynnig opsiynau amgen gwirioneddol i nifer o bobol, a gwneud hi’n haws a mwy fforddiadwy i bobol ddewis ffyrdd cynaliadwy i deithio.
“Rhaid i unrhyw system ystyried tegwch.
“Rydyn ni’n gwybod bod effaith llygredd aer a thraffig ffordd yn effeithio ar gymunedau incwm isel a phobol ag anableddau yn bennaf.
“Drwy sicrhau bod y rhaglen yn deg, yn y ffordd mae’n cael ei gweithredu a’r ardaloedd sy’n cael buddsoddiad yn sgil yr arian, gallwn weithio gyda’n gilydd i greu dinas decach a mwy cynaliadwy i bawb.”
‘Haeddu trafnidiaeth lanach’
Ar hyn o bryd, mae teithiau ffordd yn gyfrifol am 40% o allyriadau carbon deuocsid Caerdydd.
Mae Caerdydd hefyd yn dioddef gyda mwy o achosion o asthma na’r cyfartaledd dros Ewrop, gyda 7% o oedolion Caerdydd ag asthma.
Mae trigolion eisiau gweld gweithredu ar newid hinsawdd ac eisiau aer glanach i’w plant a’u hanwyliaid, yn ôl y Cynghorydd Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd.
“Rydyn ni’n gwybod bod trigolion am weld bysiau a thacsis trydan yn gwasanaethu’r ddinas, cysylltiadau a gorsafoedd trên/tram newydd, ffyrdd mewn cyflwr gwell, a llwybrau beicio a cherdded diogel,” meddai.
“Rydyn ni’n gwybod eu bod yn gweld y ciwiau traffig ac yn ymwybodol o’r niwed mae hyn yn ei achosi i’w hiechyd a’r amgylchedd, ac yn effeithio’n andwyol ar economi’r ddinas.
“Mae’n amlwg bod angen gweithredu os ydyn ni’n mynd i newid cyfeiriad ar hyn.
“O leihau’r ffigyrau hyn bydd angen i ni edrych ar y ffordd rydyn ni’n byw a’r ffordd rydyn ni’n teithio.
“Mae Caerdydd angen ac yn haeddu system drafnidiaeth lanach a gwyrddach.
“Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd hynny ond yn bosibl drwy gyflwyno rhyw fath o daliad defnyddiwr ffyrdd cost-isel, fyddai’n cynnwys eithriadau i’r sawl sydd lleiaf abl i’w dalu.
“Rwy’n deall y bydd rhai’n dweud mai ’dim ond treth arall yw hyn pan fo’r wlad yn wynebu argyfwng costau byw.
“Mae lefelau presennol y traffig yng Nghaerdydd yn costio cannoedd ar gannoedd o bunnoedd bob blwyddyn i drigolion nodweddiadol, ac yn dal ein heconomi yn ôl.
“Mae hynny ar ben y niwed mae tagfeydd yn ei achosi i’r amgylchedd ac i iechyd.
“Felly, mae’n hanfodol ein bod yn creu system drafnidiaeth lle gall pawb – yn enwedig ein cymunedau tlotaf a mwyaf difreintiedig – gael eu cysylltu’n well â’r swyddi a’r cyfleoedd rydyn ni’n gwybod eu bod ar gael yn y ddinas.”