Mae cyngor yn y gogledd sy’n wynebu “pwysau ariannol heb ei debyg” yn ystyried cynlluniau i wneud arbedion o £6.4 miliwn yn eu cyllid.
Yn ôl Cyngor Gwynedd, does ganddyn nhw “ddim dewis” ond ystyried cynyddu Treth y Cyngor.
Mae’r cyngor yn wynebu bwlch ariannol o £7 miliwn eleni, ac yn edrych ar fwlch pellach o hyd at £12.4 miliwn rhwng 2023/24 a 2024/25.
Bydd cabinet y cyngor yn ystyried cyfres o ‘arbedion effeithlonrwydd’ yr wythnos nesaf i helpu i ddiogelu gwasanaethau rhag toriadau yn 2023/24.
Fe fydd y cabinet yn cyfarfod i drafod sut i wneud arbedion, ac mae nhw’n gobeithio lleihau’r effaith ar wasanaethau.
Bydd Strategaeth Ariannol a Chyllideb y Cyngor yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar Chwefror 9.
Yna, bydd yr arbedion yn cael eu hystyried gan gabinet y cyngor ar Chwefror 14.
Bydd Cyllideb y Cyngor yn cael ei hystyried gan y Cyngor Llawn ar Fawrth 2.
‘Dim disgwyl i’r wasgfa leihau yn fuan’
Fel sawl cyngor dros y wlad, mae problemau ariannol wedi codi yng Ngwynedd yn sgil ffactorau cenedlaethol a rhyngwladol.
Mae prisiau darparu gwasanaethau wedi cynyddu, a chostau ynni, nwyddau a staff wedi codi 11% ers yr hydref, ar gost ychwanegol o £22 miliwn i’r cyngor.
Ar yr un pryd, mae galw am wasanaethau fel rhai digartrefedd wedi cynyddu’n sydyn yn sgil yr argyfwng costau byw.
Er y bydd Cyngor Gwynedd yn derbyn £14 miliwn o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2023/24, mae’r cyngor yn honni bod y setliad ymysg “y gwaethaf mewn termau real” iddyn nhw erioed ei dderbyn ac nad yw’n ddigon.
Oni bai bod newidiadau ar lefel cenedlaethol, does dim disgwyl i’r wasgfa ariannol leihau am beth amser, meddai.
‘Cwbl ddigynsail’
Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn: “Fel cynghorau eraill, rydyn ni’n gorfod ymdopi â sefyllfa gwbl ddigynsail yn sgil ffactorau cenedlaethol a phenderfyniadau Llywodraeth San Steffan.
“Yn wahanol i argyfyngau eraill, mae’r ‘storm berffaith’ hon wedi’n hitio ni dros gyfnod o fisoedd yn hytrach na blynyddoedd, dydyn ni heb gael cyfle rhesymol i baratoi ac rydyn ni wedi gorfod symud yn sydyn ofnadwy.
“Ein blaenoriaeth drwy’r amser yw gwarchod gwasanaethau ac amddiffyn pobol Gwynedd rhag effaith y toriadau.
“Ers i’r sefyllfa ddechrau dod yn gliriach ym mis Tachwedd, mae swyddogion ym mhob un o wasanaethau’r cyngor wedi bod yn mynd drwy ein cyllideb yn fanwl i lenwi’r bwlch.
“O ystyried bod Cyngor Gwynedd wedi gwneud £33.5 miliwn o arbedion dros yr wyth mlynedd ddiwethaf yn barod, mae hyn wedi bod yn heriol iawn.
“Rydyn ni wedi adnabod £6.4 miliwn o arbedion effeithlonrwydd posib y gellir eu gwneud o 2023/24 ymlaen.
“Mae’r rhain yn ffyrdd newydd a gwahanol o weithio fydd yn costio llai ac yn osgoi toriadau poenus i wasanaethau rheng flaen am nawr.
“Ond hyd yn oed wedyn, mae maint digynsail y bwlch ariannol a’r gofyniad cyfreithiol arnom i greu cyllideb gytbwys yn golygu na fydd gan y Cyngor Llawn unrhyw ddewis ond ystyried cynyddu Treth y Cyngor ar Fawrth 2 yn anffodus.”
Mae’r rhagolygon a’r pwysau tebygol ar wasanaethau yn y tymor canolig yn golygu nad yw’r sefyllfa ariannol yn debyg o wella am sawl blwyddyn.
Ychwanegodd: “Cyn gynted ag y byddan ni’n cytuno ar gyllideb, arbedion effeithlonrwydd a chyfraddau Treth y Cyngor ar gyfer 2023/24 byddan ni’n symud ymlaen at y cynlluniau i arbed hyd at £2.2 miliwn yn 2024/25.
“Er bod cynllunio cyllidebau yn ofalus ac ymdrechion ein swyddogion yn golygu bod Cyngor Gwynedd mewn sefyllfa well na sawl cyngor, hyn a hyn fedrwn ni wneud.”