Mae gwesty enwog y Talbot yn Nhregaron ar werth, a’r perchnogion am ei werthu tra’i fod “mewn cyflwr da”.
Yn cyflogi dros 20 o staff lleol, mae Mick Taylor, un o dri pherchennog y Talbot, yn awyddus i werthu yn hytrach “na gadael i’r busnes fynd lawr allt”.
Mae Mick Taylor a’i wraig Nia Taylor, ynghyd â’r prif gogydd Dafydd Watkin, wedi bod yn berchen ar westy, bwyty a thafarn Y Talbot ers deuddeng mlynedd ac yn falch o’r hyn maen nhw wedi’i wneud â’r busnes.
Ond, â hwythau dros eu 60 oed, mae’r gŵr a’r gwraig yn awyddus i ymddeol, yn rhannol yn sgil ymrwymiadau teuluol.
“Rydym am ei drosglwyddo mewn cyflwr da i berchennog gofalgar,” meddai Mick Taylor wrth golwg360.
“Rydym yn falch o’r hyn rydym wedi’i wneud gyda’r busnes, ac mae’n rhedeg yn dda.
“Efallai y bydd yn cymryd amser i werthu oherwydd yr amodau presennol.
“Byddai’n well gennym wneud hynny tra ein bod yn gwneud yn dda ac yn mwynhau yn hytrach na gadael i’r busnes fynd lawr allt, fel sy’n digwydd yn aml.”
Calon y gymuned
Ac yntau’n adnodd pwysig i’r gymuned, mae’r perchnogion yn awyddus i hynny barhau dan berchnogaeth newydd.
“Mae’n fusnes da,” meddai Mick Taylor.
“Fe wnaethon ni ganolbwyntio’n fawr ar y busnes, a dyna fu ein hangerdd.
“Rydym yn ymwybodol o’r ffaith ei fod yn bwysig iawn i’r dref. Mae’n ganolfan fawr iawn i’r gymuned.
“Os yw’r Talbot yn ffynnu, mae’n dda iawn i’r dref.
“Mae rhai o’n staff wedi bod gyda ni ers dechrau fel potwashers yn 14 oed, ac yno’n dal i weithio i ni ddeg neu ddeuddeng mlynedd yn ddiweddarach, sy’n wych.
“Mae ymrwymiad gwirioneddol i’r busnes gan yr holl staff.”
“Tafarn hanesyddol”
Hen dafarn y porthmyn o’r ail-ganrif-ar-bymtheg yw’r Talbot, cyn i estyniad Fictoraidd gael ei adeiladu pan gyrhaeddodd y rheilffordd yn 1864, yn ôl pob tebyg.
“Mae’n dafarn hanesyddol iawn ac yn adeilad hardd,” meddai Mick Taylor.
“Felly mae ganddo ach hir, wych.
“Rydym wedi ailadeiladu’r busnes ar sail enw da ystafelloedd gwych, tafarn wych, lletygarwch gwych, enw da iawn am fwyd ac mae gennym ni gogydd gwych, Dafydd Watkin.
“Rydym yn canolbwyntio ar wasanaeth da, agwedd gyfeillgar, hyfforddi staff lleol, a defnyddio cyflenwyr lleol.
“Rydym yn ei wneud yn fusnes lleol iawn ond yn arlwyo ar gyfer ystod eang iawn o bobol ledled Cymru, y Deyrnas Unedig, Ewrop ac yn wir America ac Awstralia.”