Mae Arloesi Gwynedd Wledig am osod cytiau i werthu cynnyrch lleol yn Llanystumdwy a Llandwrog oherwydd nad oes siopau yn y ddwy le
Cafodd artist ei benodi’n ddiweddar i weithio efo dau berson ifanc i baentio’r cytiau er mwyn eu gwneud yn ddeniadol.
Yn y cytiau, bydd yr holl hanfodion sydd yn cael eu ffeindio mewn siop leol, ac ychydig o bethau moethus, yn cael eu gwerthu.
Mentrau cymdeithasol y ddwy ardal fydd yn cyflenwi’r cytiau.
Ty’n Llan a Menter y Plu
“Bydd beth bynnag sydd ar gael yn eich siop pentref arferol yna fel bara, llaeth, llysiau neu gig,” meddai Betsan Siencyn sy’n Uwch Swyddog Cynlluniau i Arloesi Gwynedd Wledig, wrth golwg360.
“Mae fyny i’r ddwy dafarn neu ddwy fenter sydd yn rhan o’r cynllun sef Menter y Plu yn Llanystumdwy a Menter Ty’n Llan yn Llandwrog.
“Nhw fydd yn rhoi bob dim yno fo.
“Mae Ty’n Llan wedi sôn, os byddan nhw’n dawel efallai byddan nhw’n gallu coginio ychydig o gacennau.
“Efallai, os mae cwmni diod leol, byddan nhw’n gallu cyflenwi treats bach a hanfodion fydd yn cael eu gwerthu.”
Cafodd cefnogaeth ariannol ei rhoi ar gyfer rhaglenni Arloesi Gwynedd Wledig gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Wledig 2014-2020, yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear a Chyngor Gwynedd.
Y paentio a chelf gymunedol
Bydd y cytiau newydd yn cael eu paentio’n unigryw a deniadol, gyda hanes a threftadaeth leol yn cael eu hadlewyrchu yn y gwaith, yn ogystal â dangos elfennau o’r hyn sy’n cael ei werthu, er enghraifft poteli llefrith.
“Mae’r syniadau rydym wedi’u cael gan yr artistiaid yn gwneud yn siŵr ein bod ni’n dathlu hanes a threftadaeth leol,” meddai Betsan Siencyn.
“Rydym hefyd yn ceisio cael elfennau fel poteli llaeth, neu afalau neu ffrwythau, neu beth bynnag i bobol wybod beth yw ei bwrpas.
“Rydym eisiau iddo edrych yn ddeniadol fel bod pobol yn gwybod fod o yna, bod ymwelwyr sy’n pasio drwy’r pentref yn gallu stopio.”
Mae nifer o bobol wedi dangos diddordeb mewn paentio’r cytiau, ac mae artist profiadol, sydd heb ei henwi, wedi’i dewis i weithio efo dau artist ifanc.
Y gymuned sydd wrth wraidd y cynllun hwn, a bydd yr artist yn cynnal gweithdai mewn ysgolion.
“Roedd gymaint o geisiadau da,” meddai Betsan Siencyn.
“Rydym wedi penderfynu bod artist profiadol am weithio yn y ddau gwt ac wedyn bydd hi’n gweithio efo dau artist ifanc ym mhob cwt.
“Beth mae’r artist yma’n gallu cynnig hefyd yw bod hi’n gweithio efo’r ddwy ysgol leol.
“Bydda ni’n cynnal gweithdai efo nhw fel bod y gymuned yn gallu bod yn rhan o’r gwaith.”
Y syniad
Tair blynedd yn ôl, sefydlodd Arloesi Gwynedd Wledig gynllun peiriant bwyd yng ngwersyll Nant y Byd.
Roedden nhw’n gweld bod galw amdano, a bod twristiaid wedi elwa o’r cynllun.
Maen nhw nawr yn ceisio gwneud rhywbeth tebyg, ond ei fod yn helpu cymunedau yn lle gwersylloedd yn unig.
Roedd y cynllun periaint yn llwyddiannus iawn.
Roedden nhw wedi gobeithio cael peiriant eto, ond dydy hynny ddim yn bosib ar hyn o bryd oherwydd bod prinder a rhestr aros.
Sylweddolon nhw nad oedd angen iddo fod yn gymhleth, ac y gall fod mor syml â rhoi gofod i rywun.
Maen nhw’n dweud mai nhw sy’n ariannu’r cytiau a’r holl gynnyrch hefyd, ac na fydd llawer o risg i’r ddwy fenter maen nhw’n gweithio efo nhw.