Gwleidydd y flwyddyn
Mae yna sawl gwleidydd wedi cael blwyddyn reit dda ym Mae Caerdydd.
Ond dw i’n credu fod un wedi perfformio ben ag ysgwyddau’n well na’r gweddill.
Mick Antoniw yw’r dyn hwnnw.
Credaf fod ein Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad yn haeddu diolch gan unrhyw un sy’n parchu a gwerthfawrogi setliad datganoli Cymru.
Ef sy’n gyfrifol am gydlynu gwrthwynebiad Llywodraeth Cymru i fesurau megis Bil y Farchnad Fewnol – deddfwriaeth y mae wedi’i ddisgrifio fel “ymosodiad ar ddemocratiaeth” a fyddai’n “cipio ein hawliau cyfansoddiadol”.
Yn fwy diweddar, mae wedi bod yn brwydro yn erbyn cyflwyno Bil Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd (Dirymiad a Diwygiad) a Gadwyd.
Ymdrech yw hon i ddiwygio a diddymu darnau o gyfraith yr Undeb Ewropeaidd gafodd eu cadw ar ôl Brexit.
Y broblem yw bod hynny yn golygu asesu 2,400 o ddeddfwriaethau unigol erbyn Rhagfyr 31, 2023.
“Prosiect trahaus Brexit sy’n cyflawni llawer o ddim” ydyw, yn ôl Mick Antoniw.
Ac yntau o dras Wcrainaidd, mae Mick Antoniw hefyd wedi bod yn feirniad llafar o ryfel Vladimir Putin ac wedi teithio i Wcráin er mwyn dangos undod â dinasyddion y wlad.
Gweithredu y tu ôl i’r llenni mae Mick Antoniw yn aml, gwneud y gwaith nitty gritty.
Ond mewn cyfnod gwleidyddol cythryblus mae’r ffordd y mae’n ymdrin â Llywodraeth San Steffan, sy’n awyddus i danseilio datganoli a chanoli pŵer, yn haeddu clod!
Moment y flwyddyn
Does dim dwywaith amdani, moment y flwyddyn ym Mae Caerdydd eleni oedd ffrae danllyd rhwng Andrew RT Davies a Mark Drakeford ynglŷn â’r Gwasanaeth Iechyd.
Yn ystod sesiwn holi’r Prif Weinidog, cyhuddodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig y Llywodraeth o gynnal Gwasanaeth Iechyd “gwlad trydydd byd”.
“Rydw i eisiau gadael y siambr yma gyda dealltwriaeth o beth yw cynllun Llywodraeth Cymru, wrth i ni fynd ymhellach i fisoedd y gaeaf, i liniaru’r problemau yma, fel na fydd Aneurin Bevan yn troi yn ei fedd,” meddai.
Bu i Mark Drakeford ffrwydro mewn dicter wrth i Andrew RT Davies fynd ymlaen i ymosod ar y Llywodraeth am amseroedd aros hir ambiwlansys.
“Mae’n hollol syfrdanol i mi, eich bod yn credu y gallwch chi droi i fyny yn y siambr y prynhawn yma gyda’r llanast y mae eich plaid chi wedi’i achosi i gyllidebau’r wlad hon, ac i enw da’r wlad hon ledled y byd,” meddai’r Prif Weinidog.
“Eich bod yn credu y gallwch chi droi fyny yma’r prynhawn yma a hawlio rhyw fath o dir uchel moesol? Pa fath o fyd ydych chi’n byw ynddo?”
Stincar y flwyddyn
Janet Finch-Saunders (JFS) sy’n ennill gwobr stincar y flwyddyn eleni.
Daw hyn ar ôl i Will Hayward, Golygydd Materion Cymreig WalesOnline ddatgelu bod AoS Ceidwadol Aberconwy wedi gosod 22 o hysbysebion swyddi yn ystod y chwe blynedd diwethaf yn chwilota am bobol i weithio iddi.
Nid oes yr un AoS arall wedi hysbysebu mwy na 14 o swyddi, tra bod y nifer helaeth ond wedi hysbysebu dwy neu dair gwaith i recriwtio aelodau o staff newydd.
Bu’n rhaid i JFS wadu honiadau gan un cyn-aelod o staff bod yna lefel ddwys o reolaeth yn ei swyddfa.
“Roedd hi’n anodd, roedd yna ddiffyg parch llwyr tuag at ffiniau personol, pethau fel gwneud i mi ofyn am ganiatâd i fynd i’r tŷ bach,” meddai’r cyn-weithiwr i JFS.
Rhywun eisiau swydd yn y flwyddyn newydd? Mae gen i deimlad y bydd JFS yn recriwtio!